Skip to content

Ysgrifenedig - Cynhaliaeth Ariannol Dros Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig
Diben y datganiad hwn yw rhoi gwybod i Aelodau fy mod wedi cytuno i roi cyfraniad unigol o £50,000 i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Mudiad ieuenctid gwledig yw Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru gydag oddeutu 6,000 o aelodau mewn 180 o glybiau ledled Cymru. Maent yn cynnig cyfoeth o weithgareddau i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig i gyfrannu at eu datblygiad personol, hybu ymwybyddiaeth am fywyd gwledig cynaliadwy, hybu proffil y Gymraeg a hyrwyddo cyfle cyfartal.

Yn 2006, datblygodd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru gynllun busnes i helpu i sicrhau bod digon o gyllid gan y mudiad ar gyfer y dyfodol. Yn anffodus, cafwyd colledion ariannol annisgwyl yn 2007 ar adeg allweddol wrth roi’r cynllun hwn ar waith. Bydd yr arian hwn yn eu helpu i gadw’u staff a pharhau i weithio i gael mwy o nawdd ac incwm. Rwyf wedi gofyn i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru roi adroddiad i mi ar eu sefyllfa ariannol ymhen chwe mis.