Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddi’r adroddiad ar Adolygiad o Effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mae'r ddyletswydd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn un o'r egwyddorion y sefydlwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru arnynt.  Ni oedd un o'r gweinyddiaethau cyntaf yn y byd i fabwysiadu'r ddyletswydd hon, a dyma o hyd yw'r ymadrodd allweddol pan ddaw at ein rhaglen waith.
 
Mae'r Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a luniwyd yn 2004, yn ganolog i hyn, ac mae'n nodi'r fframwaith trosfwaol a'r weledigaeth o gyflawni dyfodol cynaliadwy i Gymru gyfan.  Mae'n nodi'r ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu cynaliadwy, yr egwyddorion a ddilynir ganddi, a'r prosesau a ddefnyddir i'w hyrwyddo. 

Cyhoeddais fis diwethaf fy mhenderfyniad i ailwampio Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad.  Roedd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau adolygiad o effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a gomisiynwyd gennym yn unol â'n dyletswydd statudol.  Roedd yr 'Adolygiad o Effeithiolrwydd' hwn yn ystyried i ba raddau y mae'r weledigaeth a nodwyd yn y Cynllun wedi'i gwireddu'n allanol. Roedd yn rhan o ddadansoddiad ehangach o'r dull o gyflawni datblygu cynaliadwy.  Mae'r dadansoddiad hwn yn cynnwys gwaith a wnaed gan Cynnal Cymru i gael barn cymdeithas sifil ar faterion datblygu cynaliadwy yng Nghymru (i'w gyhoeddi'n fuan), ac ail-gyfrifo Ôl-troed Ecolegol Cymru - a lansiwyd gennyf yng Ng?yl y Gelli ym mis Mai.  Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn cynnal astudiaeth ar integreiddio Datblygu Cynaliadwy ym mhroses Llywodraeth y Cynulliad o wneud penderfyniadau, ac mae'n debygol o gyhoeddi adroddiad yn ystod yr hydref.  

Heddiw, rydym yn cyhoeddi Adolygiad o Effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, sy'n amlygu'r canlynol:

  • mae awydd mawr i wneud mwy dros ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru, oddi mewn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn ehangach ledled Cymru;
  • dylai Llywodraeth y Cynulliad ddatgan y weledigaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, yn ogystal â llwybr sy'n dangos yn glir sut i'w gyflawni, gan gynnwys targedau, amcanion, ac amserlenni.
  • dylai unrhyw Gynllun newydd ganolbwyntio ar nifer fach o faterion mawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r agenda hon;
  • mae ymrwymiad parhaus i gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ledled Cymru i ddatblygu hyn; a
  • chydnabyddir bod angen gwneud llawer mwy i hyrwyddo lles a chaniatáu i bobl fyw mewn ffordd gynaliadwy.

Mae'r argymhellion hyn yn anfon negeseuon cryf.  Y pennaf ymhlith y rhain yw bod awydd mawr i wneud mwy dros ddatblygu cynaliadwy a bod llawer mwy i'w wneud.  Mae dirfawr angen i ni fod yn fwy cynaliadwy, i wella bywydau a lles pobl Cymru a diogelu'r cyfleoedd hynny ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Bydd ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy newydd yn ymateb i'r materion hyn a, thrwy adeiladu ar yr awydd a'r brwdfrydedd hwn, yn caniatáu i ni osod gweledigaeth a llwybr modern tuag at Gymru gynaliadwy, yn unol â'n hymrwymiadau yn nogfen Cymru'n Un.

Yn ogystal â'r sylfaen dystiolaeth werthfawr a gynigir gan yr Adolygiad o Effeithiolrwydd hwn ac adolygiadau mewn meysydd eraill, ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cyfarfod â chydweithwyr ledled adrannau Llywodraeth y Cynulliad a rhanddeiliaid allanol er mwyn helpu i nodi prif flaenoriaethau'r Cynllun newydd.  Bydd y broses hon yn parhau yn ystod yr haf, a bydd cynllun drafft yn cael ei baratoi erbyn yr hydref er mwyn ymgynghori'n gyhoeddus yn ei gylch. 

Bydd y cynllun newydd, Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, yn adlewyrchu ein hawydd i wella bywydau ein cymunedau lleiaf breintiedig, gan ddefnyddio ein cyfran ni'n unig o adnoddau'r ddaear, a bydd yn nodi ein taith i wneud Cymru yn wlad fwy cynaliadwy: yn y ffordd rydym yn cynnal ein busnes, yn rheoli ein hamgylchedd, ac yn cydweithio ag eraill i gyflawni hynny.  Trwy hyn gallwn sicrhau newidiadau gwirioneddol a pharhaol i drawsnewid bywydau pobl ledled Cymru.