Skip to content

Ysgrifenedig - Lansio Ymgynghoriad – “Cynnal y Tir” Adolygiad o Gamau Rheoli Tir o dan Echel 2 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Mae Cynllun Datblygu Gwledig Cymru, y cytunwyd arno gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i gynnal adolygiad eang ei gwmpas o raglenni o dan Echel 2 o’r Rheoliad Datblygu Gwledig (Rheoliad EC/1698/2005), gyda’r nod o addasu’r Cynllun er mwyn gweithredu newidiadau sy’n deillio o’r adolygiad. Mae Echel 2 yn ymdrin â’n holl raglenni rheoli tir: ein cynlluniau amaeth-amgylcheddol, gan gynnwys Tir Gofal, grantiau coetir, a Thir Mynydd. Fel rhan o’r broses hon, byddaf yn mynd ati’r bore ’ma, ddydd Llun, 29 Medi, i lansio ymgynghoriad, “Cynnal y Tir”, gan wahodd sylwadau am y dewisiadau bras sydd ar gael ar gyfer rhaglenni o dan Echel 2 yn y dyfodol.

Mae’r adolygiad yn cael ei gynnal am fod Llywodraeth y Cynulliad yn sylweddoli bod angen mynd i’r afael â nifer o faterion sylfaenol o ran sut y dylid mynd ati yn y dyfodol i roi cymorth i reoli tir, gan gynnwys:

  • yr angen i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol ehangach, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd – gan leihau allyriadau ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd;
  • wynebu’r heriau a fydd yn deillio o’r cynigion i gynnal Archwiliad Iechyd y PAC - yn benodol y rôl sydd gan reoli tir i’w chwarae o ran mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gwella’r modd y mae dŵr yn cael ei reoli, a chynnal a gwella bioamrywiaeth;
  • yr angen i baratoi ar gyfer gweithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr;
  • yr angen am fwy o integreiddio rhwng cynlluniau er mwyn sicrhau amryfal fanteision amgylcheddol sy’n ymateb i anghenion amgylcheddol lleol, yn ogystal â rhai cenedlaethol;
  • yr angen i roi cymorth i ffermydd teuluol, yn enwedig yn yr Ardal Lai Ffafriol, gan gydnabod pa mor bwysig oedd cyllid Echel 2 yn y gorffennol o ran rhoi cymorth o’r fath.

Bydd yr adolygiad yn ein helpu hefyd i ymateb i’r materion a godwyd yn adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru am gynllun Tir Gofal.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ategu’r broses ymgynghori drwy gynnal cyfarfodydd gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru.

Yr ymgynghoriad yw cam cyntaf y broses o ddatblygu fframwaith newydd o raglenni o dan Echel 2. Mae’n amlinellu’r materion sy’n sail i’r adolygiad ac mae’n cynnig ystod o ddewisiadau bras posibl ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn mynd ati, yng ngoleuni’r ymgynghoriad, a chan ymgysylltu’n agos â rhanddeiliaid, i baratoi’r cynlluniau manwl ar gyfer y rhaglenni a’r modd y bwriedir eu darparu. Wrth reswm, bydd yn rhaid cytuno ar y materion hyn gyda’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r gyllideb ar gyfer cynlluniau Echel 2 yn cael ei hamlinellu yn y Cynllun Datblygu Gwledig tan 2013. Mae nifer o grwpiau â buddiant a fydd am flaenoriaethu gwariant mewn amryfal ffyrdd. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i hyrwyddo cynlluniau o dan Echel 2 a fydd yn mynd i’r afael â’r pryderon sydd gan y cyhoedd mewn perthynas â lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, gan sicrhau ar yr un pryd bod ffermwyr yn gallu parhau i reoli tir at ddibenion cynhyrchu bwyd a chynnal y fferm deuluol Gymreig draddodiadol.

Amgaeir copi o’r ddogfen ymgynghori er gwybodaeth i chi.
Mae’r ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad a rhoddwyd copïau caled ohoni yn y Llyfrgell.