Skip to content

Ysgrifenedig - Diweddariad Rhaglen Dileu TB

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gweldig

Mae’r datganiad hwn, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg, yn cael ei wneud ar ddiwrnod agoriadol y digwyddiad mwyaf a gynhelir gan y diwydiant yng Nghymru y tu allan i dymor sioeau’r haf – sef Ffair Aeaf Sioe Frenhinol Cymru.  

Wrth i’r diwydiant ddod ynghyd i ddathlu’r goreuon o blith da byw Cymru, mae’n briodol ein bod yn mynd ati i amlinellu hynt y gwaith sy’n cael ei wneud dan y rhaglen i ddileu TB, a’n bod yn datgan yn glir ein bod wedi ymrwymo ar y cyd i gynnal ac i hyrwyddo’r gwaith o gynhyrchu gwartheg o’r radd flaenaf yng Nghymru.

Dw i’n falch o fedru dweud bod Archwiliad Iechyd TB Cymru, sef rhaglen untro i gynnal profion ar bob buches yng Nghymru a gafodd ei lansio ar 1 Hydref, ym mynd rhagddi’n dda a bod y gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid a milfeddygon lleol eisoes wedi mynd i’r afael â’r gwaith mawr y mae angen ei wneud rhwng nawr a diwedd 2009.

Yn ystod y cyfnod hwn o 15 mis, bydd milfeddygon ledled Cymru yn cynnal profion ar 3,500 o fuchesi ychwanegol – rhai ohonynt heb gael profion ers pedair blynedd. Bydd hwn yn gyfle go iawn i ni achub y blaen ar y clefyd.  

Yn ystod mis cyntaf Archwiliad Iechyd TB Cymru, daethpwyd o hyd i nifer o wartheg ychwanegol sydd wedi adweithio i’r prawf; gan gynnwys achosion mewn plwyfi lle mae profion yn cael eu cynnal bob dwy flynedd a phob pedair blynedd fel arfer, a lle nad oedd y profion rheolaidd i’w cynnal ar y buchesi tan 2010. Mae hyn yn dangos yn glir bod Archwiliad Iechyd TB Cymru yn arf gwerthfawr yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r clefyd, i’w reoli ac i’w ddileu.  

Galla i gyhoeddi heddiw hefyd y bydd y polisi presennol ar brofion TB yn cael ei ddiwygio o 1 Mawrth 2009 ymlaen, ac y bydd hyn yn fodd i’n cynorthwyo ymhellach yn y frwydr i atal TB mewn gwartheg rhag lledaenu. Dw i wedi awdurdodi swyddogion, a fydd yn cydweithio â’r gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid, i symud gwartheg sy’n adweithyddion amhendant o ffermydd os yw’r adwaith yn dal i fod yn amhendant ar ôl iddynt gael ail brawf cyntaf sydd wedi’i gynnal yn unol â’r dull safonol o ddehongli.

Ystyr Adweithydd Amhendant yw anifail y mae’r darlleniadau prawf croen ar ei gyfer yn yr amrediad rhwng bod yn glir a bod yn adweithiol. O 1 Mawrth 2009 ymlaen, bydd y polisi presennol o gynnal dau ail brawf yn newid ar gyfer gwartheg y canfyddir yn unol â’r dull safonol o ddehongli eu bod yn adweithyddion amhendant. Cyn 1 Mawrth 2009, bydd deiliaid gwartheg yn gallu dewis i’w gwartheg gael eu symud o’r fferm yn gynt yn unol â’r trefniadau newydd.  

O dan y polisi diwygiedig, os yw canlyniad y prawf croen cyntaf yn amhendant, bydd yr anifail yn cael prawf croen arall tua thrigain o ddiwrnodau ar ôl y prawf cyntaf. Oni bai fod y prawf hwn yn glir, bydd yr anifail yn cael ei drin fel adweithydd. Amcangyfrifir y bydd 580 yn fwy o adweithyddion yn cael eu lladd yng Nghymru bob blwyddyn dan y polisi diwygiedig, ac amcangyfrifir y bydd yn costio rhyw £1.05 miliwn y flwyddyn i ddigolledu ffermwyr. Bydd yr arian hwn yn dod o’r gyllideb ar gyfer y Rhaglen i Ddileu TB.  

Mae Bwrdd y Rhaglen Dileu TB wedi cytuno’n unfrydol i gymeradwyo’r polisi o ganiatáu un ail brawf yn unig ar gyfer gwartheg y canfyddir yn unol â’r dull safonol eu bod yn adweithyddion amhendant. Mae’r newid hwn o ran polisi yn gyson â’n Strategaeth gyffredinol i Ddileu TB, ag argymhellion Swyddfa Bwyd a Milfeddygaeth y Comisiwn Ewropeaidd, â’r Gyfarwyddeb Ewropeaidd    

Mae manteision clir i’r polisi diwygiedig hwn o ran rheoli’r clefyd ac, ar y cyd â’n rhaglen i gynnal Archwiliadau Iechyd TB, bydd y polisi newydd hwn yn ein helpu wrth i ni gymryd camau ataliol ac adferol er mwyn i ni fedru asesu’n gywir faint o achosion o’r clefyd sydd yng Nghymru.  

Er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu, mae’n hollbwysig ein bod yn mynd i’r afael â phob un o ffynonellau’r haint. Mae anifeiliaid heblaw am wartheg yn gallu dal TB gwartheg, a gwelwyd hyn yng Nghymru yn y nifer cynyddol o achosion o’r clefyd a gafwyd mewn camelidau, megis lamas ac alpacas. Bydd fy swyddogion yn mynd ati i ddatblygu Fframwaith ar gyfer Camelidau, ac fel dw i wedi crybwyll mewn datganiadau blaenorol, bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y Flwyddyn Newydd am Ardal Beilot Triniaeth Ddwys. Bydda i hefyd yn cyhoeddi papur ymgynghori ar gyfer rhanddeiliaid ynglŷn â chynigion i ddiwygio’r taliadau iawndal TB a roddir i ffermwyr.  

Bydda i’n parhau i bwysleisio na fydd camau a gymerir gan y Llywodraeth yn ddigon ynddyn nhw eu hunain i drechu’r clefyd. Mae’n hanfodol bod pob rhan o’r diwydiant yn cydweithio â ni ac yn chwarae’u rhan. Gall ffermwyr helpu drwy gydweithredu â’u milfeddygon i sicrhau bod eu gwartheg yn cael profion ar yr adeg briodol a thrwy weithredu i gadw’u ffermydd yn glir rhag y clefyd a sicrhau nad yw’n cael ei drosglwyddo i ffermydd eraill yn yr ardal. Mae’r Byrddau Rhanbarthol Dileu TB wedi cyfarfod, a byddant yn cwrdd am y trydydd tro yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Roedd y ddau gyfarfod cyntaf yn rhai cynhyrchiol iawn ac mae’r Byrddau Rhanbarthol Dileu TB wrthi’n nodi camau gweithredu penodol ar gyfer eu hardaloedd lleol nhw. Mae’r rhain yn cynnwys rôl milfeddygon preifat a chael gwared ar fiwrocratiaeth. Maen nhw hefyd yn helpu i weithredu’r gwersi a ddysgwyd yn yr Ardal Triniaeth Ddwys Bioddiogelwch.

Bydda i’n mynd ati yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, yn fy Adroddiad nesaf ar Hynt y Rhaglen i Ddileu TB,  i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gweithgareddau hyn, ac am y nifer mawr o weithgareddau eraill sy’n mynd rhagddynt yng Nghymru ar hyn o bryd.