Skip to content

Ysgrifenedig - Rhaglen Dileu TB

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Ym mis Ebrill, cyhoeddais becyn cynhwysfawr o fesurau fel rhan o’r Rhaglen i Ddileu TB mewn Gwartheg i wireddu ymrwymiad y Llywodraeth yn ‘Cymru’n Un’ i ddileu TB.

Addewais bryd hynny y byddwn yn cadw’ch bys ar byls hanes a datblygiad y Rhaglen. Dyma adroddiad ichi felly o’r diweddaraf amdani, gwelwch isod.

Y DIWEDDARAF AM Y RHAGLEN DILEU TB
23 Medi 2009

Clefyd heintus yw TB sy’n gallu cael effaith ddifaol ar gymunedau gwledig. Gallaf gadarnhau bod yr achosion o TB mewn gwartheg yn parhau i dyfu: cafodd 4,600 o wartheg eu difa yng Nghymru rhwng Ionawr a Mai 2008 o’i gymharu â 3,200 yr un pryd yn 2007. Dyna gynnydd o 44%. Rhwng 1 Ebrill 2008 ac 11 Medi 2008, cafodd £10,077,985 o iawndal ei dalu ar gyfer TB. Yn yr un cyfnod yn 2007, £6,352,530 gafodd ei wario. Dyna wahaniaeth o £3,725,455 a chynnydd o 59% yn y flwyddyn ariannol hyd yma.

Mae’r cynnydd hwn yn annerbyniol ac yn anghynaliadwy. Mae’n gyfiawnhad pellach bod angen gweithredu’n gyflym i droi rhod y clefyd ac mae’n tanlinellu’r angen am yr ymrwymiad yn rhaglen ‘Cymru’n Un’ i fynd ati'n ddyfal i gynnal rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru, gyda chefnogaeth £27.7m ychwanegol o arian dros dair blynedd o fis Ebrill 2008. Mae’r ymrwymiad hwn yn cydnabod bod angen camau pendant i ddiogelu iechyd a lles ein da byw a’n hanifeiliaid gwyllt, i amddiffyn dyfodol y diwydiant godro a bîff yng Nghymru ac i leihau baich cynyddol yr iawndal ar bwrs y wlad. Mae cyfraniad y diwydiant gwartheg godro ac eidion at gynaliadwyedd cymunedau cefn gwlad yn un bwysig. Mae’n hanfodol cynnal hyder y ffermwyr iddynt allu parhau i fuddsoddi yn eu busnesau.

Mae ein polisi ar TB yn cael ei lywio i raddau gan fframwaith cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd sy’n gofyn i holl wledydd yr UE lunio rhaglenni dileu yn ôl y gofyn er mwyn “cyflymu, dwysau neu gynnal” eu hymdrechion i ddileu’r clefyd.

Ym mis Ebrill, cyhoeddais becyn cynhwysfawr o fesurau fel rhan o’r rhaglen Dileu TB er mwyn mynd i’r afael benben â’r clefyd hwn. Nid oes un ateb syml i broblem TB. Rhaid i unrhyw raglen i ddileu TB fod yn un gynhwysfawr, ymarferol a chymesur, sy’n cymryd yr holl ffactorau i ystyriaeth. Does fawr o ddiben dileu un ffynhonnell ac anwybyddu un arall. Byddai hynny’n gadael i’r clefyd ddychwelyd. Mae anifeiliaid heblaw gwartheg yn gallu dal TB. Mae astudiaethau wedi dangos bod anifeiliaid gwyllt, a moch daear yn arbennig, yn gronfa i haint TB ym Mhrydain a’u bod yn gysylltiedig â throsglwyddo’r haint i wartheg, a bod gwartheg yn ei drosglwyddo i foch daear. Mae canlyniadau’r Arolwg Moch Daear Marw yn 2006 yn cadarnhau hyn

Mae’n aml yn anodd adnabod symptomau TB, gan fod y clefyd yn cymryd cymaint o amser i ddangos ei arwyddion clinigol. O ganlyniad, gall y clefyd fod ar fuches heb yn wybod i neb am amser hir. Mae’n anodd ymladd yn erbyn clefyd heb wybod ei hyd a’i led. Ac ni all y Llywodraeth drechu’r clefyd ar ei phen ei hun. Mae’n rhaid wrth gydweithio, gyda ffermwyr, milfeddygon a phawb sydd â diddordeb yng nghefn gwlad yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb ac yn cyfrannu at yr ymdrech. Fe fydd y daith yn anodd a blinderus ambell waith, ond bydd yr ymdrech wedi talu ar ei chanfed os cawn dda byw iach ac anifeiliaid gwyllt iach yng Nghymru.

Bydd fframwaith y rhaglen yn fecanwaith effeithiol a gweladwy i Lywodraeth y Cynulliad allu gwneud penderfyniadau gwybodus, hynny ar ôl ymgynghori yn ôl y gofyn. Goruchwylir hyn gan Fwrdd y Rhaglen Dileu TB, a chyda sylw a chyngor y Grŵp Cynghori Technegol a Grŵp Llywio’r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid, y ddau’n gweithredu fel rhanddeiliaid.

Dw i wedi addo cadw’ch bys ar byls y Rhaglen Dileu TB. Mae’n dda felly gennyf ddweud am nifer o ddatblygiadau, gan gynnwys dwy fenter newydd yn erbyn y clefyd – yn gyntaf, Archwiliad Iechyd TB o holl fuchesi Cymru, ac yn ail, sefydlu 3 Bwrdd Dileu Rhanbarthol.

Archwiliad Iechyd TB Cymru

Fel y dywedais ym mis Ebrill, prif orchwyl y Rhaglen Dileu TB yn ei blwyddyn gyntaf yw edrych ar y trefniadau ar gyfer Cadw Golwg a Rheoli Gwartheg. Rhan bwysig o’r arolwg fydd y prawf un-tro ar holl fuchesi Cymru i weld beth yw hyd a lled yr haint ac i ddifa gwartheg sydd wedi’u heintio yn gynt er mwyn lleihau’r perygl o ledaenu’r haint. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Archwiliad Iechyd TB Cymru yn dechrau ar 1 Hydref 2008 ac mae llythyrau a llyfrynnau wedi’u hanfon at ffermwyr ledled Cymru i esbonio’r fenter iddyn nhw.

Mae hon yn orchwyl anferthol ac mae’n dangos cymaint yw ymrwymiad ac ymroddiad y Llywodraeth, milfeddygon a ffermwyr Cymru. Bydd gofyn cynnal prawf ar 3,500 o fuchesi ychwanegol mewn cyfnod o 15 mis a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr 2009; mae hynny’n golygu y byddwn mewn 15 mis wedi cynnal profion ar fuchesi y byddem wedi cymryd pedair blynedd i’w profi fel arfer.

Rwy’n croesawu agwedd bositif ffermwyr a milfeddygon at y profion. Cafodd astudiaeth gan Arsyllfa Wledig Cymru o allu milfeddygon i wneud y gwaith ei chynnal fel rhan o’r paratoi ar gyfer yr Archwiliad Iechyd. Ymatebodd 82.9% ohonyn nhw i’r arolwg. Roedd ymateb y mwyafrif llethol yn galonogol, gan deimlo bod yr Archwiliad Iechyd yn werth ei gynnal. Dywedodd 86% o’r milfeddygfeydd eu bod nhw’n ffyddiog y bydden nhw’n gallu ysgwyddo’r cynnydd yn eu gwaith. Mae fy swyddogion yn cydweithio â’r swyddfa Iechyd Anifeiliaid i helpu milfeddygfeydd i gynnal profion ar bob buches o fewn amserlen 15 mis yr Archwiliad Iechyd TB.

Telir costau ychwanegol cynnal Archwiliad Iechyd TB Cymru (costau’r profion a chostau milfeddygol eraill) gan Lywodraeth y Cynulliad. Cyfrifoldeb y ffermwr fydd trefnu’r gwartheg ac unrhyw gostau eraill ar y fferm. Er mwyn gwneud pethau mor gyfleus â phosibl i filfeddygon a ffermwyr, mae cyfnod y profion yn cynnwys un Gaeaf cyfan a rhan o Aeaf arall gan mai dyna pryd y bydd gwartheg yn debygol o fod dan do ac felly’n haws eu crynhoi ar gyfer cynnal profion arnyn nhw. Ni fydd buchesi sydd i fod i gael eu profi yn y cyfnod p’run bynnag yn cael ail brawf. Bydd y prawf arferol yn cyfrif fel rhan o’r Archwiliad Iechyd TB. Bydd prawf yn cael ei gynnal ar bob buches yng Nghymru yn ddiwahân, gan gynnwys buchesi a oedd cyn hynny wedi’u heithrio, nad ydynt yn cael eu profi o dan y drefn arferol, fel unedau pesgi a gorffen. Fel rhan felly o’r rhaglen i brofi pob buches, bydd prawf yn cael ei gynnal ar bob anifail dros 42 diwrnod oed. Os na fydd y prawf wedi’i gynnal ar fuches erbyn y dyddiad penodedig, caiff cyfyngiadau symud eu gosod ar y fuches honno. Ein polisi yw na fydd eithriad i hyn. Mae hyn yn cydnabod y cyfrifoldeb y mae’n rhaid i ffermwyr ei rannu am ddileu’r clefyd.

Os ceir hyd i achos o’r clefyd, bydd y swyddfa Iechyd Anifeiliaid leol yn rhoi’r cyfyngiadau arferol ar gyfer rheoli’r clefyd ar waith. Bydd Iechyd Anifeiliaid eisoes wedi rhoi gwybod i ffermwyr faint o fwlch fydd rhwng y profion TB rheolaidd yn eu hardaloedd (y PTI) ar gyfer 2008. Byddwn yn dal i adolygu’r Bwlch Profion bob blwyddyn a bydd canlyniadau’r Archwiliad Iechyd TB yn dylanwadu ar y canlyniadau. Bydd Profion Cyn Symud yn dal i gael eu cynnal ar anifeiliaid sy’n symud o fuchesi profion bob blwyddyn a dwy flynedd (gan ddibynnu ar y Bwlch Profion a statws iechyd y fuches dan sylw) gan gynnwys eithriadau. Os caiff yr Archwiliad Iechyd hyd i TB, gallai effeithio ar fwlch profion buchesi unigol a phlwyfi/ardaloedd. Bydd y prawf Gama Interfferon yn dal i gael ei roi o dan amodau penodol, yn unol â’r polisi presennol.

Wrth fwrw ymlaen â’r rhaglen, mae’n bosibl y gwelwn gynnydd yn nifer y gwartheg fydd yn cael canlyniad positif i’r prawf TB gan y byddwn wedi profi mwy o wartheg nag erioed o’r blaen. Yn y tymor byr felly, gallwn ddisgwyl cynnydd pellach yng nghostau talu iawndal. Trwy gael hyd i’r clefyd yn gynt a difa ‘Adweithyddion’ yn gynt, mae cyfle nawr inni ddechrau cael y gorau ar y clefyd. Bydd yr Archwiliad Iechyd yn rhoi tystiolaeth inni i’n helpu i drefnu rhaglenni profi yn y dyfodol a phenderfynu a oes angen newid y rheolau symud. Hyn oll i ddileu TB a’r un mor bwysig â hynny, i gadw ardaloedd di-TB yng Nghymru yn lân.

Symud Anifeiliaid sydd wedi Adweithio i’r Prawf TB

Datblygiad pwysig arall yw bod fy swyddogion wedi rhoi blaenoriaeth i gydweithio’n glos gydag Iechyd Anifeiliaid i fynd ag anifeiliaid sydd wedi adweithio i’r prawf TB o ffermydd yn gynt. Rhaid i bob swyddfa yng Nghymru gwrdd â’r targed o 20 diwrnod ar gyfer symud gwartheg adweithiol a llunio cynllun gweithredu pan fethir y targed. Bu 44% yn fwy o adweithyddion eleni o’i gymharu â’r un cyfnod llynedd. Mae hyn wedi rhoi pwysau mawr ar adnoddau Iechyd Anifeiliaid, yn enwedig yn Swyddfa Ranbarthol Caerfyrddin lle cafwyd llawer o achosion o TB. Mae Iechyd Anifeiliaid wedi gweithio’n gyflym i ad-drefnu eu trefniadau difa adweithyddion ac yng Nghaerfyrddin, maen nhw wedi cyflogi rhagor o staff gweinyddu, prisio a lladd, ac felly wedi llwyddo i leihau’r amser a gymerir i fynd â gwartheg o’r fferm. Rhaid cymryd gwartheg heintiedig o’r fferm cyn gynted â phosibl rhag iddyn nhw drosglwyddo’r clefyd i wartheg eraill ar y fferm neu ei drosglwyddo i anifeiliaid gwyllt ar y fferm. Rwy’n credu y bydd y Byrddau Rhanbarthol Dileu TB rwy wedi’u sefydlu yn gallu defnyddio eu gwybodaeth leol i chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod gwartheg sy’n adweithio i’r prawf yn cael eu cymryd o’r fferm yn gyflym.

Byrddau Rhanbarthol Dileu TB

Mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw bod tri Bwrdd Rhanbarthol Dileu TB wedi’u sefydlu yng Nghymru, o dan gadeiryddiaeth y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol perthnasol i ddechrau, i wneud yn siwr bod y polisïau sy’n cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn ymateb i amodau rhanbarthol a lleol. Bydd y Byrddau Rhanbarthol yn cwrdd am y tro cyntaf yfory, ddydd Mercher 24 Medi 2008; mae eu haelodau’n cynnwys milfeddygon preifat, Iechyd Anifeiliaid, Awdurdodau Lleol, Llywodraeth y Cynulliad, arwerthwyr a chynrychiolwyr ffermwyr. Bydd disgwyl i aelodau’r Byrddau wybod beth yw’r sefyllfa yn eu hardaloedd a medru rhoi persbectif lleol ac ymarferol fydd yn gwneud gwahaniaeth yn y rhanbarth, tra’n cyfrannu hefyd at ddileu TB yng Nghymru gyfan.

Amcan y Byrddau Rhanbarthol fydd mynd ati mewn ffordd gydlyn a phenderfynol i ddileu TB yn eu hardaloedd. Bydd disgwyl bod yr aelodau eisoes yn rheolwyr gweithgar yn y maes a’u bod yn gallu gwneud cyfraniad ffurfiol er budd eu sector neu sefydliad, neu dylanwadu ar benderfyniadau. Byddant yn chwarae rhan ymarferol i sicrhau gweithredu effeithiol a di-fwlch i atal, darganfod a dileu TB trwy ddod â ffermwyr, milfeddygon a chyrff darparu lleol ynghyd i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu a darparu atebion ymarferol i broblemau lleol. Trwy eu gwaith, gall y Byrddau Rhanbarthol wneud yn siwr bod gwaith Iechyd Anifeiliaid a’r arian sydd wedi’i neilltuo i’w wario yng Nghymru gan Lywodraeth y DU yn ategu ei gilydd i ddiwallu anghenion rhanbarthol a chenedlaethol Cymru.

Bydd blaenoriaethau pob Bwrdd yn adlewyrchu’i sefyllfa leol e.e. epidemioleg, ffynonellau heintio eraill, tystiolaeth o berfformiad cyrff darparu, yn ogystal â blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad. Mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael, i’w wario ar y rhaglen genedlaethol o weithgareddau neu ar fentrau rhanbarthol. Bydd pob Bwrdd Rhanbarthol dros amser wedi llunio rhaglen o weithgareddau. Gallai’r gweithgareddau hynny gynnwys:

  • Cwblhau profion yr Archwiliad Iechyd
  • Ystyried mynd ag anifeiliaid o ffermydd gyda’i gilydd
  • Clustnodi a gwneud gwelliannau ym mioddiogelwch ffermydd a mannau eraill fel marchnadoedd.
  • Delio ag achosion cyson o anghydymffurfio, fel profion hwyr a symudiadau anghyfreithlon
  • Chwilio am welliannau yn y drefn orfodi a lefelau cydymffurfio ym mhob sefydliad
  • Integreiddio gwasanaethau milfeddygol lleol yn well
  • Cael pobl i ddeall TB yn well
  • Rheoli amgylchiadau unigol pob achos yn well, yn enwedig trwy’r berthynas rhwng y milfeddyg preifat a’i gleient.
  • Sut i gadw ardaloedd glân yn ddiglefyd.

Ar sail eu profiad o ddelio â gweithgareddau lleol a rhanbarthol, bydd y Byrddau’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar adolygu a datblygu polisïau TB cenedlaethol newydd.

Bydd disgwyl i’r Byrddau baratoi adroddiadau ar eu gwaith yn rheolaidd i Fwrdd y Rhaglen Dileu TB a chaiff rôl ac aelodaeth y Byrddau eu cloriannu ar ôl 12 mis.

Ardaloedd Peilot Triniaeth Ddwys

Bydd gweithgarwch y Rhaglen Dileu TB yn amrywio o ardal i ardal. Fy nod yw gweld Cymru’n wlad ddiglefyd ar gyfer anifeiliaid fferm a gwyllt fel ei gilydd; ni ddylem ganiatau i’r naill na’r llall ddioddef o’r clefyd. Cytunais felly i gomisiynu gwaith pellach ar lefel swyddogion er mwyn medru cynnal rhaglen i ddifa moch daear mewn ardal beilot yng Nghymru, cyn belled â’i bod yn bodloni amodau penodol.

Mae’r wybodaeth sydd ei hangen arnaf i allu caniatau neu wrthod rhaglen ddifa wrthi’n cael ei chasglu a’i chloriannu; mae’n cynnwys astudiaethau ecolegol ac epidemiolegol ac ystyriaethau moesegol ac ymarferol. Mae’n bwysig bod pob penderfyniad yn seiliedig ar yr wybodaeth orau ac yn cydymffurfio â’r gyfraith. I’r perwyl hwn, rydym wedi comisiynu arbenigwyr technegol a chanddynt dros ugain mlynedd o brofiad yn eu meysydd i ymchwilio i effeithiau posibl strategaethau gwahanol ar gyfer rheoli moch daear, gan gynnwys clustnodi nodweddion yn y tirlun allai effeithio ar wasgariad moch daear. Yn ogystal, maen nhw’n ymchwilio i ddata epidemiolegol i asesu ble y gallai ymyrraeth gael yr effaith fwyaf llesol.

Ers cyhoeddi’r Rhaglen Dileu TB ym mis Ebrill, mae fy swyddogion a finnau wedi cynnal deialog agored ag amrywiaeth o grwpiau perthnasol. Rwy’n awyddus i’r drafodaeth honno barhau. Bydda’ i’n parhau i sicrhau hefyd bod y grwpiau lles a natur hynny sydd eisoes yn aelodau o Grŵp Llywio’r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid yn cael cymryd rhan lawn yn y trafodaethau.

Ar ôl cyhoeddi’r Rhaglen Ddileu ym mis Ebrill, clywais am fwriad i wneud cais am arolwg barnwrol i herio unrhyw benderfyniad y gellid ei wneud i ddifa moch daear. O gofio sensitifrwydd y pwnc a’r teimladau cryfion a didwyll ar y ddwy ochr, nid yw’n syndod bod cais o’r fath wedi’i wneud. O safbwynt cynnal rhaglen ddifa, mae nifer o ofynion cyfreithiol y mae’n rhaid inni wrth gwrs gydymffurfio â nhw, ac ni fyddwn yn breuddwydio cynnal rhaglen ddifa heb gadw at y gofynion cyfreithiol hyn. Am hynny, cyn gwneud unrhyw benderfyniad, rwy am fod yn gwbl fodlon fod unrhyw gynllun yn cadw at lythyren pob deddf. Rhaid asesu’r mater yn ofalus iawn, yn wyneb y ffactorau gwyddonol a materion eraill sydd wrthi’n cael eu hystyried. Bydd hyn yn cymryd peth amser ac rwy’n disgwyl gallu gwneud penderfyniad ar y mater yn y Flwyddyn Newydd.

Mae mynd i’r afael â TB mewn anifeiliaid gwyllt, gan gynnwys moch daear, yn un rhan o raglen fwy o weithgarwch ac ni fydd yn ateb y broblem ym mhob rhan o’r wlad. Yn yr ardaloedd lle mae’r gwartheg yn ein barn ni’n ddiglefyd, ein polisi fydd i barhau i brofi gwartheg a hyrwyddo bioddiogelwch da. Ni fydd difa’r moch daear lleol yn debygol o fod yn ateb yn yr ardaloedd hyn.

Mae posibilrwydd y gallai brechu fod yn gymorth i ddileu TB. Byddwn yn parhau i weithio gyda DEFRA ar waith ymchwil a’r potensial i ddangos effeithiolrwydd brechlyn ar gyfer moch daear cyn gynted â phosibl. Rwy’n pwysleisio unwaith eto bod y mochyn daear yn anifail sydd wedi’i warchod yng Nghymru o dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992. Ni oddefir unrhyw weithredu anghyfreithlon yn eu herbyn.

Yn unol â’n hamcan i daclo pob ffynhonnell heintio, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i’ch atgoffa bod yr ymgynghoriad ar fframwaith i atal a rheoli TB gwartheg mewn camelidau yng Nghymru yn dod i ben ddiwedd mis Hydref a hoffwn bwyso ar bawb sydd â diddordeb yn y mater i ymateb iddo.

Lefelau’r Iawndal yng Nghymru

Cafodd mesurau gweinyddol eu cyflwyno yn 2007 i leihau’r iawndal sy’n cael ei dalu ar gyfer gwartheg sydd wedi adweithio i’r prawf TB. Mae’r mesurau’n cynnwys gofyn am gyfiawnhad bob tro y bydd prisiad yn uwch na’r trothwy, a gofyn i Brisiwyr wedi’u penodi i bwyso a mesur detholiad o brisiadau. Mae newidiadau wedi’u gwneud i weinyddiad y system brisio, yn sgil cynnal yr adolygiad cyntaf o’r drefn newydd 6 mis ar ôl ei sefydlu. Mae’r adolygiad yn dangos bod y newidiadau yn cael effaith galonogol ar lefelau’r iawndal, yn enwedig o safbwynt anifeiliaid pedigri. Mae’r iawndal TB cyfartalog sy’n cael ei dalu am anifail pedigri wedi cwympo o £4,900 ym mis Tachwedd 2006 i ryw £3,400 ym mis Mehefin 2008. Hynny dros gyfnod, yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf, pan welwyd cynnydd ym mhrisiau’r farchnad. Mae’r gostyngiad yn bwysig oherwydd, er mai anifeiliaid pedigri yw dim ond 30% o’r anifeiliaid sy’n cael eu difa, maen nhw’n cyfrif am ryw 60% o’r iawndal. Byddwn yn monitro’r broses brisio dros y chwe mis nesaf.

Yn unol â’m datganiad ym mis Ebrill, mae’n dal yn fwriad gennyf gysylltu iawndal â bioddiogelwch da a hwsmonaeth dda ar ffermydd. Rwy’n credu bod hyn yn ffordd dda o annog ffermwyr i ysgwyddo’u cyfrifoldebau a chadw at y gofynion cyfreithiol a’r arferion gorau. Mae fy swyddogion wrthi’n meddwl am opsiynau gyda Grŵp Llywio’r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid ac eraill gyda golwg ar gyhoeddi ymgynghoriad yn y Flwyddyn Newydd.

Safbwynt y Pwyllgor Sefydlog ar y Gadwyn Fwyd ac Iechyd Anifeiliaid (SCoFCAH)

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn parhau’n ofidus am sefyllfa TB ym Mhrydain yn sgil yr achos diweddar o TB ar loi cig llo a oedd wedi’u hallforio i’r Iseldiroedd o fferm yn Lloegr. Mae’r Comisiwn wedi dweud ei fod yn bwriadu cyflwyno mesur diogelu a fydd yn rhoi ar waith fesurau rheoli ychwanegol mewn cysylltiad â lloi (sy’n rhy ifanc i gael prawf TB) sy’n cael eu hallforio o ardal lle ceir llawer o achosion o TB. Mae’n debygol y cynhelir pleidlais ar y mesur yng nghyfarfod SCoFCAH ddechrau mis Hydref. Mae pob un o wledydd Prydain yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir gan y Comisiwn yn gymesur ac yn ateb y broblem. Mae ein ffordd broactif ni yng Nghymru o fynd i’r afael â TB yn hollbwysig a bydd yn helpu i ddangos i’r Comisiwn y gwaith da rydym yn ei wneud yng Nghymru.

I gloi

I gloi, mae’r datblygiadau rwyf wedi’u cyhoeddi heddiw yn gyson â’r ffordd gynhwysfawr rydym wedi delio â’r clefyd hyd yn hyn. Ni all Llywodraeth ar ei phen ei hun ddileu TB. Mae’r cynlluniau’n gofyn am gydweithio rhwng ffermwyr, milfeddygon a’r Llywodraeth, gyda phob partner yn ysgwyddo’i siâr o’r cyfrifoldeb i ddileu TB yng Nghymru. Rhaglen tymor hir yw hon, a dyma gamau cyntaf y daith i ddileu TB gwartheg yng Nghymru, yn unol â’n hymrwymiad yn Cymru’n Un.

Byddaf yn dweud mwy am weithgareddau’r Rhaglen Dileu TB i’r Cynulliad mewn 4 wythnos pan fyddwn yn trafod pwerau ychwanegol i ddelio â TB.