Skip to content

Llafar - Gau Glofa'r Tŵr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog

Mae’n hollol deilwng i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gydnabod bod y shifft olaf wedi’i gweithio ddydd Gwener diwethaf ym mhwll glo dwfn olaf Cymru, sef Glofa’r Tŵr yn Hirwaun yng nghwm Cynon. Byddem yn anwybyddu ein dyletswyddau gwleidyddol pe na baem yn nodi digwyddiad mor bwysig ac arwyddocaol, er mai gyda chymysgedd o falchder a thristwch y gwnawn hynny.

Nid am ei bod yn ddiwedd cyfnod y mae cau Glofa’r Tŵr yn arwyddocaol, ond am mai Glofa’r Tŵr oedd y pwll glo dwfn cyntaf i fynd i feddiant y gweithwyr yng Nghymru, a’r cyntaf yn y byd, mae’n debyg. Felly, ar yr un pryd, y Tŵr yw tafliad olaf y dis i’r hen Gymru a thafliad cyntaf y dis i’r Gymru newydd y gobeithiwn ein bod yn ymgorfforiad ohoni fel Cynulliad a etholwyd yn ddemocrataidd. Prynwyd Glofa’r Tŵr gan ei gweithwyr ddwy neu dair blynedd cyn ffurfio’r Cynulliad, ond yr oedd yn ymgorfforiad o barodrwydd yng Nghymru i fynnu rheolaeth ar ein tynged ein hunain, i gymryd cyfrifoldeb dros ein dyfodol ein hunain, i achub ein swyddi ein hunain, ein cymunedau ein hunain, ein Cwm ein hunain, a’n diwydiant glo ein hunain.

Gwnaeth gweithwyr y lofa lwyddiant ohoni, er gwaethaf yr holl amodau daearegol anodd yr oedd y Tŵr yn nodedig amdanynt. Ni wnaethant gwympo’n glewt ar eu hwynebau, er y derbynient y gallasent wneud hynny ac na fuasai neb arall i’w feio petasai hynny wedi digwydd. Derbynient y caent ac y dylent gael y clod am roi cynnig arni, a dyna oedd holl hanfod y gyd-weithred o fenter ddiwydiannol. Yr oedd yn rhan allweddol hefyd o brifiant Cymru fel cenedl, o fynd yn genedl barotach i gymryd siawns, fwy mentrus, mwy hunan-hyderus. Mewn ffordd, dim ond bonws yw’r ffaith iddynt lwyddo; yr unig reswm y bu’r Tŵr gau yr wythnos diwethaf oedd nad oedd glo ar ôl i’w gloddio. Pwysigrwydd y digwyddiad hwn yn ein datblygiad fel gwlad oedd iddo ddangos bod gan rywun y plwc a’r hyder i fentro, ac i gymryd cyfrifoldeb dros eu penderfyniadau eu hunain.

Mewn ystyr arall, mae Glofa’r Tŵr yn fwy nag arwydd o dranc yr hen Gymru - y wlad, yn gymaint ag unrhyw le ar y ddaear, a roddodd i’r byd don gyntaf y chwyldro diwydiannol - gan y bydd hefyd yn sail i gynllun adfywio trefol mawr, gan fod safle wyneb y Tŵr yn ymestyn dros bron i 500 acer. Bwriadwn weithio gyda’r Tŵr i oruchwylio trawsffurfiad y safle hwnnw’n bentref trefol newydd o ansawdd uchel.

Gyda phris glo mor uchel, a’r byd mor brin o ynni, caiff y glowyr hynny o’r Tŵr sydd eisiau parhau i fwyngloddio - gyda’r peiriannau y gellir eu hadfer oddi tan y ddaear, hyd y bo hynny’n bosibl - eu cludo i’r datblygiad cloddfa ddrifft dros y mynydd yng nghwm Nedd.

Felly, efallai fod yr hen frenin glo’n farw yng Nghymru, ond yn sicr mae dyfodol cynaliadwy i’r brenin newydd, glo glân. Yn y cyfamser, iawn a phriodol yw inni dalu teyrnged i’r 239 o lowyr dan arweiniad Tyrone O’Sullivan a fu’n ddigon dewr i suddo’u harian diswyddo i mewn i ailagor y pwll yr oeddent yn ei adnabod yn well nag y’i hadwaenid gan reolwyr yr hen Fwrdd Glo Cenedlaethol, ac i wneud llwyddiant ohono nes i’r glo ddod i ben. Dywedwn wrthych i gyd ar ran holl bobl Cymru, 'Cyflawnwyd y dasg amhosibl; yr ydych yn esiampl ddisglair i bawb ohonom’. Diolch yn fawr.