Skip to content

Ysgrifenedig - Drais yn erbyn Staff y GIG yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fuan ar ôl cael fy mhenodi’n Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, bûm ar gyfres o ymweliadau ag ysbytai a lleoliadau iechyd eraill yng Nghymru. Un o’r prif faterion a godwyd gan staff yn ystod yr ymweliadau hyn oedd eu pryderon am drais ac ymddygiad ymosodol.

Cyflwynais adroddiad am y mater hwn gerbron y Cyfarfod Llawn fis Hydref diwethaf, a chan fod hwn yn fater y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwbl benderfynol yn ei gylch, dywedais ei bod yn fwriad gennyf sefydlu Tasglu i’n cynorthwyo i gael gwared ar ymddygiad annerbyniol a sicrhau bod staff sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru yn cael eu diogelu’n llawn. Roedd aelodau’r Tasglu’n cynnwys cynrychiolwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru, GIG Cymru, yr undebau llafur ym maes iechyd, Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Cymru).

Gofynnwyd i’r Tasglu, fel rhan o’i gylch gwaith, ystyried nifer o faterion a oedd yn gysylltiedig â gwella diogelwch staff. Yn gryno, roedd y materion hynny’n cynnwys datblygu dulliau i wella’r modd y rhoddir gwybod am ddigwyddiadau; datblygu canllawiau er mwyn sicrhau bod gan GIG Cymru systemau cadarn ar gyfer cydweithio â’r Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn sicrhau yr ymdrinnir yn llym â thramgwyddwyr; datblygu canllawiau am y camau y mae’n rhaid i GIG Cymru eu cymryd er mwyn cynorthwyo staff sydd wedi dioddef ymosodiadau; cyflwyno argymhellion ynghylch sut orau i ddiogelu staff sy’n gweithio ar eu pen eu hunain, a chynnig opsiynau ar gyfer darparu system rybuddio Cymru gyfan ar gyfer staff sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.

Cyflwynodd y Tasglu ei adroddiad interim i mi adeg y Pasg. Ymhlith pethau eraill, argymhellir yn yr adroddiad y dylid cynnwys y Pasbort Hyfforddi a Chynllun Gwybodaeth Cymru Gyfan ar Drais ac Ymddygiad Ymosodol, sy’n bodoli eisoes, ym mhob Cynllun Hyfforddi ar gyfer Staff y GIG. Cynigir hefyd y dylai Ymddiriedolaethau’r GIG weithredu’r cytundebau a’r arferion sydd yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn sicrhau bod tramgwyddwyr yn cael eu herlyn mewn modd effeithiol. Argymhellir y dylai’r Heddlu fod yn bresennol yn adeiladau’r GIG, y dylid gwella systemau teledu cylch cyfyng a defnyddio mwy arnynt, ac y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru dderbyn yr achos busnes dros gyflwyno system rybuddio ar gyfer staff sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Cynigir hefyd yn yr adroddiad y dylai cyflogwyr yn y GIG gynnig unrhyw gymorth y mae ei angen ar y rheini sydd wedi dioddef ymosodiadau er mwyn eu hannog a’u galluogi i roi tystiolaeth pan fydd tramgwyddwyr yn cael eu herlyn. Mae’n argymell hefyd y dylai staff gael cymorth di-dâl oddi wrth y cyfreithwyr sydd ar gontract i’r cyflogwyr i fwrw ymlaen ag erlyniadau ac i adennill y costau ychwanegol a ddaw i’w rhan o ganlyniad i drais ac ymosodiadau yn y gwaith.

Caiff copi electronig o’r adroddiad interim ei anfon at yr Aelodau drwy’r e-bost yn nes ymlaen y prynhawn hwn.

Yr wyf wedi gofyn i swyddogion gynnwys yr argymhellion sydd yn yr adroddiad interim mewn cynllun gweithredu wedi’i gostio ac i bwysleisio ymhellach y byddwn yn cymryd camau pendant yn erbyn y bobl hynny sy’n dreisgar tuag at staff y GIG. Mae’r camau hyn yn cynnwys defnyddio’r gyfraith sifil i geisio iawndal ar gyfer y GIG ac ar gyfer y dioddefwr ar ôl ymosodiadau; adolygu’r sefyllfa o safbwynt darparu swyddogion diogelwch yn yr Ymddiriedolaethau ac ystyried defnyddio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn eu lle; penodi Cadeirydd Cymru gyfan i dynnu sylw at y mater hwn, a datblygu strategaeth gyhoeddusrwydd er mwyn sicrhau bod staff y GIG yn cael gwybod ein bod y trin y mater hwn o ddifrif, a bod y gymuned ehangach yn cael gwybod pa gamau a gymerir yn eu herbyn os ydynt yn dreisgar neu’n ymosodol tuag at staff y GIG.

Byddaf yn cyflwyno adroddiad arall i’r Aelodau unwaith y bydd y cynllun gweithredu wedi’i gwblhau.