Skip to content

Ysgrifenedig - Ymgyrch Farchnata y DU 2009 Croeso Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi lansiad ymgyrch farchnata newydd Croeso Cymru y DU.  Cynhelir yr ymgyrch newydd o fis Ionawr – Mawrth 2009, a bydd yn cynnwys hysbysebion teledu a gwe-ffilmiau newydd, fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2.2 miliwn.  Nod yr ymgyrch yw rhoi lle canolog i Gymru mewn ymgyrch wyliau newydd, a chynhyrchu ymweliadau ychwanegol trwy gydol 2009.  

Mae’r ymgyrch newydd yn dangos sut y mae natur gwyliau wedi newid yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.  Gellir gweld y newid hwn yn erbyn y cefndir o ansicrwydd economaidd, sy’n debygol o wneud i’r farchnad feddwl yn galetach ac mewn ffordd wahanol ynghylch y dewis o wyliau, gan gynnwys mynd ar wyliau yn y DU yn hytrach na chael gwyliau tramor drutach.  Mae pobl bellach yn chwilio am werth am arian a phrofiad gwirioneddol, yn hytrach na gorwneud pethau a mynd dros ben llestri.  Gall Gymru gynnig profiad mwy dilys, cyfoethocaf, dyfnach lle gall bobl ddod i werthfawrogi yr hanes, y diwylliant a’r tirwedd lleol.  

Bydd hysbyseb 40 eiliad yn cael ei ddarlledu ar y teledu, ac mewn sinemâu am y tro cyntaf.  Bydd y gwe-ffilmiau yn cael eu dangos mewn adran benodol ar wefan Croeso Cymru visitwales.co.uk, a byddant hefyd yn ymddangos ar YouTube, a safleoedd eraill sy’n dangos fideos.

Mae’r ymgyrch hefyd yn cynnwys nifer o hysbysebion ar-lein, a bydd hyn yn dechrau gydag ymgyrch e-bostio i 150,000 o gysylltiadau Croeso Cymru ym mis Ionawr.  Cynhelir ymgyrch ymateb yn uniongyrchol mewn print hefyd – bydd 2 filiwn o daflenni yn cael eu dosbarthu o fis Ionawr i fis Mawrth i bobl sydd wedi ymweld â Chymru yn y gorffennol, ac i ymwelwyr newydd posibl, trwy bapurau newydd a chylchgronau megis The Guardian, Times, Telegraph, Independent a Country Walking.