Skip to content

Ysgrifenedig - Diogelu Plant sy’n Agored i Newid yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae’r digwyddiadau erchyll a arweiniodd at farwolaeth babi P yn Haringey wedi bod ym mlaen ein meddyliau.  Ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, hoffwn gofnodi ein tristwch ynghylch y digwyddiadau a arweiniodd at ei farwolaeth ac i amlinellu’r hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru i ddiogelu ein plant sydd fwyaf agored i niwed.

Mae diogelu plant sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac i asiantaethau lleol.  Mae yna ddyletswyddau cyfreithiol ar sefydliadau ac ar unigolion penodol.  Yn dilyn marwolaeth Victoria Climbié, sefydlwyd fframwaith diwygiedig er mwyn mynd i’r afael â cham-drin plant trwy ddeddfwriaeth, canllawiau a strwythurau newydd.  Mae’r diwygiadau sylfaenol hyn yn eu lle ac mae’n amserol i adlewyrchu ac i adolygu’r prosesau a’r gweithdrefnau lleol hyn er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cadarn.

Gyda hyn mewn cof, mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru eisoes wedi rhoi rhaglen ddiogelu sylweddol ar waith eleni er mwyn diogelu ein plant.  Mae’r rhaglen yn cynnwys gwaith sydd i’w gwblhau yn y flwyddyn ariannol hon gyda phob Bwrdd Lleol Diogelu Plant sef gwaith yn ymwneud ag adolygu achosion difrifol.  Mae hyn yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer dysgu gwersi ac os yw’r gweithdrefnau a’r arferion yn newid ac yn gwella o ganlyniad i adolygu achosion difrifol.  Bydd yn nodi pa rwystrau sydd o ran cyflawni newid.  Bydd hefyd yn llywio’r gwaith o adolygu effeithiolrwydd y broses o adolygu achosion difrifol, yn enwedig yr amser y mae’n ei gymryd i’w cwblhau, sy’n aml yn faith ac yn anghydnaws o ran cyflawni newidiadau a gwelliannau amserol.

Yn unol ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae AGGCC yn cynnal adolygiad o’r broses o gydlynu gwasanaethau i oedolion a gwasanaethau i blant lle mae gan oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl a/neu broblemau’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau blant hefyd a’r trefniadau sydd mewn lle ar gyfer darparu’r gwasanaethau hyn i blant o fewn y teuluoedd hyn er mwyn sicrhau bod lles y plant yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo.  Mae hwn yn faes yr ydym yn ddiweddar wedi ymgynghori ar gynigion i gyflwyno cymorth i blant sy’n agored i niwed a theuluoedd gan ddefnyddio agwedd newydd tuag at Wasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd.  Rydym yn bwriadu defnyddio’r pwerau a roddwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gyda phlant sy’n agored i niwed a thlodi plant er mwyn gwella’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd lle mae plant yn debygol o fod mewn perygl ac i’n cynorthwyo i adnabod lle mae perygl difrifol fel bod modd cymryd camau gweithredu’n gynnar.

Eleni hefyd mae’r AGGCC wedi comisiynu gwaith i ddatblygu pecyn cymorth hunanarchwilio fel bod Byrddau Lleol Diogelu Plant yn gallu asesu eu heffeithiolrwydd eu hunain o ran diogelu plant.  Mae’r pecyn cymorth hunanarchwilio wedi cael ei dreialu ac mae wrthi’n cael ei fireinio cyn iddo gael ei gyhoeddi fel bod yr holl Fyrddau Lleol Diogelu Plant yn gallu ei ddefnyddio yng ngwanwyn 2009 yn ogystal â rhaglen gymorth er mwyn rhoi’r pecyn cymorth ar waith.  Hefyd, mae AGGCC yn arwain prosiect gyda Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Heddlu Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi i fynd ati i wneud adolygiad o effeithiolrwydd y Byrddau Lleol Diogelu Plant wrth fynd ati i ddiogelu plant yn 2009/10.

Gyda’i gilydd, maent yn darparu pecyn o gamau gweithredu sydd eisoes wedi’i gynllunio ac sydd wedi’i anelu at wella’r dulliau o ddiogelu plant yng Nghymru; pecyn a gaiff ei ddiwygio ymhellach trwy roi Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed ar waith yn y blynyddoedd sydd i ddod.  Fodd bynnag, yn sgil y gwaith a gyhoeddwyd yn Lloegr i archwilio gweithdrefnau ac arferion amddiffyn plant ymysg asiantaethau lleol yn Haringey ac i ofyn i’r Arglwydd Laming adolygu’r datblygiadau sy’n cael eu gwneud ar hyd a lled y wlad i roi’r strwythurau a’r trefniadau a gyflwynwyd yn Neddf Plant 2004 ar waith, rydym wedi penderfynu cymryd camau gweithredu pellach ar unwaith.

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad ar yr Ymchwiliad i achos Victoria Climbié, gofynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r holl awdurdodau lleol gyflawni archwiliadau o’u trefniadau ar gyfer diogelu plant ac i lunio cynlluniau gweithredu er mwyn eu gwella fel y bo’r angen.  Yn 2005, aeth Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ati i wneud gwerthusiad o’r archwiliad a wnaed yn 2004 ym mhob awdurdod ac archwiliad pellach o blant mewn angen gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal.  

Yr wythnos hon, bydd swyddogion o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfarwyddwyr Addysg, Cyfarwyddwyr Arweiniol Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, Cadeiryddion Byrddau Lleol Diogelu Plant a swyddogion arweiniol gwasanaethau plant a phobl ifanc cyrff o fewn y GIG yn gofyn iddynt gadarnhau bod ganddynt drefniadau cadarn yn eu lle yn lleol er mwyn sicrhau bod lles plant sy’n agored i newid yn cael ei ddiogelu’n briodol.  Bydd gofyn iddynt adrodd trwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyfrifoldebau o ran gwasanaethau cymdeithasol a thrwy Gadeirydd y Bwrdd Lleol Diogelu Plant ynghylch cyfrifoldebau rhyngasiantaethol.  Caiff copi o’r llythyrau eu hanfon at uwch swyddogion pob un o’r asiantaethau sy’n aelodau statudol o’r Byrddau Lleol Diogelu Plant er mwyn sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n llawn yn y broses hon yn gymesur â’u cyfrifoldebau statudol fel y maent wedi’u hamlinellu yn Adran 28 o Ddeddf Plant 2004 i ddiogelu ac i hyrwyddo lles plant.

Byddwn yn ceisio cael sicrwydd bod yr asiantaethau hyn yn glir ynghylch y dyletswyddau cyfreithiol sydd arnynt fel sefydliadau unigol ac fel rhan o strwythurau sefydliadol a threfniadau lleol er mwyn eu cynorthwyo i gydweithio’n effeithiol er mwyn diogelu a gofalu am blant sy’n agored i niwed.  Hefyd, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio cael sicrwydd bod camau gweithredu o fewn y meysydd gwaith penodol canlynol wedi cael eu cyflawni a bod argymhellion yn eu cylch wedi cael eu rhoi ar waith:

Yn olaf, gofynnir iddynt fod yn sicr bod gan eu Bwrdd Lleol Diogelu Plant gymorth digonol i gyflawni eu gwaith a bod y bobl sy’n gweithio gyda’r plant sydd fwyaf agored i newid yn cael yr hyfforddiant a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith yn effeithiol, gwaith sy’n aml yn anodd ac yn achosi straen.  

Bydd angen ichi ymateb i lythyr gan swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru erbyn dechrau mis Chwefror a chaiff y llythyr ei ystyried ochr yn ochr â’r adroddiad ar Haringey ac adroddiad yr Arglwydd Laming pan fydd ar gael.