Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Yn ddiweddar edrychodd pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar y cynnydd o ran rhoi confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn y Deyrnas Unedig ar waith. Fel rhan o’i adolygiad, ystyriodd y pwyllgor y cynnydd yr ydym wedi ei wneud yng Nghymru o ran sicrhau hawliau plant a phobl ifanc o dan y confensiwn. Hoffwn rannu gydag Aelodau’r Cynulliad rai o’r problemau a wynebwn yma yng Nghymru yng nghyswllt gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cytunodd Llywodraeth y Cynulliad i fabwysiadu’r confensiwn fel sail ar gyfer ei holl gamau yng nghyswllt plant a phobl ifanc yn 2002. Mae’r ymagwedd hon wedi cael ei hatgyfnerthu gan gymorth ar draws Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yr ydym wedi cael rhai llwyddiannau nodedig: er enghraifft, erbyn hyn mae gennym Weinidog dros blant, is-aelod o’r Cabinet ar gyfer plant a phobl ifanc, a Phwyllgor craffu’r Cynulliad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
Ym mhob un o’r 22 o ardaloedd awdurdodau lleol, mae gwaith ar sicrhau hawliau plant a phobl ifanc yn sail i gynlluniau statudol ar gyfer plant a phobl ifanc, a ysgrifennwyd gan bartneriaethau aml-asiantaeth ac sy’n ystyried barn plant a phobl ifanc. Mae’r cynlluniau cyntaf yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd.
Mae datblygiadau eraill yn cynnwys fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth unffurf, a buddsoddiad i wella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal. Mae’r Ddraig Ffynci, cynulliad plant a phobl ifanc Cymru, yn chwe mlwydd oed bellach, ac mae’n datblygu llais cryf o ran siarad ar ran plant a phobl ifanc ar ystod eang o faterion sydd o bwys iddynt. Yr ydym wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran cefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio ar eu bywydau yn lleol, gan gynnwys addysgu a dysgu, chwarae, bwlio a materion amgylcheddol.
Yr ydym yn datblygu ac yn dosbarthu safonau cyfranogi cenedlaethol, ac yn cymryd ymagwedd strategol tuag at fynd i’r afael â thlodi sy’n canolbwyntio ar incwm, cyfranogi a thlodi gwasanaeth. Mae partneriaeth waith gref rhwng y Llywodraeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sefydliadau anllywodraethol, y sectorau statudol a gwirfoddol yn lleol, a Chomisiynydd Plant Cymru o ran datblygu’r agenda hon yr ydym oll wedi ymrwymo iddi. Yr ydym yn cefnogi plant a phobl ifanc i gyfrannu at ddatblygu polisïau, eu rhoi ar waith a’u gwerthuso.
Er gwaethaf ein llwyddiannau, fodd bynnag, ni allwn fforddio bod yn hunanfodlon. Mae llawer i’w wneud o hyd. Mae gwell dealltwriaeth y pwyllgor o ddatganoli yn y DU yn golygu ei fod yn cydnabod ein rhwystredigaeth yng Nghymru ynghylch argymhellion o’i adolygiad blaenorol nad ydym wedi gallu eu rhoi ar waith—fel gwaharddiad deddfwriaethol cyfan gwbl ar gosbau corfforol, gwelliannau i’r trefniadau am gyfiawnder ieuenctid, y ffordd y caiff plant a phobl ifanc sy’n geiswyr lloches eu trin, ac ymgorffori’r confensiwn mewn deddfwriaeth ddomestig. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi argymhellion y pwyllgor ar waith yn y meysydd hyn.
Bwriadwn weithio gyda phlant a phobl ifanc a chyda’n partneriaid i gytuno ar feysydd sy’n flaenoriaeth o ran gweithredu arnynt, a nodi’r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud cynnydd gyda’r camau hyn. Mae’r angen i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant a phobl ifanc eisoes ar ben y rhestr flaenoriaethau, er mwyn gwella’r lefel bresennol o ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc yn sylweddol. Mae angen inni hefyd godi ymwybyddiaeth ymysg teuluoedd, a’r gweithlu cyfan o blant a phobl ifanc, ac mae gennym syniadau ynghylch sut y gallem wneud hynny.
Blaenoriaeth arall yw dod o hyd i well ffyrdd o roi polisïau ar waith, er mwyn sicrhau’r canlyniadau yr ydym yn anelu atynt ar lawr gwlad. Gwyddom fod llawer mwy i’w wneud o ran mynd i’r afael â thlodi, yn arbennig o ran mynd i’r afael â’r tlodi difrifol sy’n effeithio ar fywydau’r plant hynny yng Nghymru sydd fwyaf difreintiedig, ac sydd fwyaf anodd eu cyrraedd. Mae hyn yn hanfodol os ydym am wneud cynnydd gwirioneddol tuag at y targedau uchelgeisiol a’r amserlenni tynn yr ydym wedi eu pennu ar ein cyfer ni ein hunain.
Yn y maes iechyd, mae gennym gynlluniau i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a’r glasoed, gan gynnwys datblygu gwasanaethau cynghori i ysgolion, gwell cymorth i blant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal, a gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol cryfach. Caiff safonau ar gyfer ystod eang o wasanaethau iechyd arbenigol ar gyfer plant eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni, a bydd parhau i roi sylw yn lleol i weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau plant, pobl ifanc a mamolaeth yn helpu i godi safonau a gwella mynediad ar draws ystod eang o wasanaethau.
Dywedodd y Ddraig Ffynci wrthym fod dau brif achos pryder i blant a phobl ifanc: yr oeddent am gael mwy o leoedd diogel i chwarae ger eu cartrefi, ac yr oeddent yn pryderu am lefelau bwlio uchel, gan gynnwys bwlio homoffobaidd, yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol. Byddwn, felly, yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r materion pwysig hyn.
Mae materion eraill y byddwn yn rhoi sylw iddynt yn cynnwys ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn/Teithwyr, a’r rhai a chanddynt anableddau, i fwynhau eu holl hawliau.
Byddwn yn ceisio gwella tryloywder ein prosesau ariannol, fel ei bod yn haws gweld faint yr ydym yn ei wario ar blant a phobl ifanc. Yr ydym am wella ein trefniadau gwerthuso a thystiolaeth i sicrhau ein bod yn cael yr elw mwyaf posibl am bob punt a wariwn. Yr ydym hefyd yn edrych am ffyrdd i sicrhau bod ymagwedd yn seiliedig ar hawliau yn rhan o’r ffordd yr ydym ni ac eraill yng Nghymru yn gweithio o ddydd i ddydd.
Yn anffurfiol, ac yn ystod croesholi manwl gan y pwyllgor o ddirprwyaeth y DU, yr wyf yn falch o ddweud i sylwadau ffafriol gael eu gwneud, ar nifer fawr o achlysuron, am ymrwymiad y Cynulliad i hawliau plant. Nodwyd bod ein safbwynt ar gosbau corfforol, plant sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid, a’n gwaith arloesol ar gyfranogi, oll yn arwain y ffordd yn y DU ac yn rhyngwladol. Er gwaethaf yr heriau a wynebwn, gallwn ymfalchïo yn ein cyflawniadau hyd yma o ran gweithredu’r confensiwn. Gallwn fod yn hyderus y gwnawn ragor o gynnydd, hefyd, a chofio bod ein hyder yn dibynnu i raddau helaeth ar ddychymyg, creadigrwydd a dyfeisgarwch plant a phobl ifanc Cymru.