Skip to content

Llafar - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mae’n dda gennyf gael y cyfle heddiw i gyflwyno 'Cysylltu’r Genedl’, strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad. Ers i gytundeb 'Cymru’n Un’ gael ei ffurfio, bûm yn edrych o’r newydd ar ein strategaeth drafnidiaeth genedlaethol, er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i’r heriau o ran cynaliadwyedd amgylcheddol a hwyluso cysylltiadau trafnidiaeth i bob rhan o Gymru.
Mae hon yn ddogfen arwyddocaol iawn, un a fydd yn dylanwadu ar ddatblygu cysylltiadau ein gwlad am ddegawdau i ddod. Dyma’r tro cyntaf i ni gynhyrchu strategaeth drafnidiaeth gynhwysfawr fel rhan o’n cyfrifoldebau o dan Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.

Yr wyf wedi amlinellu’r pum prif faes yr wyf yn benderfynol o sicrhau ein bod yn gallu gwneud cynnydd sylweddol ynddynt. Y cyntaf yw lleihau allyriadau carbon, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau Cymru werdd—ac ar y pwynt hwn, carwn danlinellu ein penderfyniad i gyrraedd y nod sydd yn nogfen 'Cymru’n Un’ o dorri allyriadau o 3 y cant bob blwyddyn yn y meysydd datganoledig, a hynny erbyn 2011.

Yr ail yw cydgysylltu trafnidiaeth leol fel rhan o system wirioneddol integreiddiedig. Y trydydd yw gwella mynediad i gymunedau a safleoedd allweddol. Y pedwerydd yw sicrhau cysylltiadau da rhwng Cymru a gwledydd eraill, a’r olaf yw hybu diogelwch a sicrwydd.

Bydd pob un o’r meysydd hynny yn gofyn am newidiadau sylweddol yn ein ffordd o feddwl a gweithredu, a bydd yn golygu cydweithio’n agos â’r consortia trafnidiaeth rhanbarthol ac â’n awdurdodau lleol. Yr wyf yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad eang hyd yn hyn, ond dim ond megis dechrau y mae’r gwaith hwn.

Bydd cyrraedd ein prif darged o leihau allyriadau carbon yn golygu ein bod yn llai dibynnol ar ein ceir, ac yn benodol y gyrwyr hynny sy’n teithio ar eu pennau eu hunain. Yn ei dro, bydd hyn yn golygu gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol a chynnig mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ddiogel.

Bydd cydgysylltu trafnidiaeth leol yn dod â manteision amgylcheddol yn ei sgîl, ond y nod hefyd yw sicrhau manteision cymdeithasol o ran gwella mynediad i ysgolion, ysbytai a chael pobl i ddatblygu ffordd iachach o fyw yn gyffredinol. Er enghraifft, yr ydym yn bwriadu defnyddio’r pwerau a geir yn y Mesur Trafnidiaeth Leol cyfredol i ddarparu ar gyfer partneriaethau a chontractau bysiau gwell.

Wrth edrych i’r dyfodol, rhaid sicrhau bod datblygiadau newydd ar safleoedd lle gellir cael mynediad iddynt ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu fod y mynediad yn rhan o’r datblygiad ei hun. Er hynny, mae gennym batrwm hanesyddol o ddatblygu—ac o heriau daearyddol—a fydd yn golygu gweithio o fewn y cynlluniau gofodol i wella’r effaith o ran carbon ar fynediad i’r prif anheddau presennol fel safleoedd.

Mae hefyd yn fwriad gennyf wella rhwydwaith bysiau TrawsCambria Cymru gyfan, a chyflwyno gwasanaeth rheilffordd cyflym rhwng y gogledd a’r de. Mae’r Llywodraeth hon a’r strategaeth drafnidiaeth yn eangfrydig. Mae prif lwybrau Ewrop, fel yr un rhwng Dulyn, Caergybi a thu hwnt, yn pasio drwy Gymru. Yr wyf am sicrhau gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwell er mwyn gwella’r llwybrau hynny, a gweld syniadau newydd yn cael eu hystyried, megis nwyddau trwm yn cael eu cludo ar longau ar deithiau byr, yn hytrach na chael eu cludo ar y ffyrdd rhwng porthladdoedd Cymru a chyfandir Ewrop.

Yn olaf, rhaid sicrhau bod gan ein systemau trafnidiaeth y lefelau uchaf o ddiogelwch a sicrwydd. Er y bu gostyngiad yn nifer y rhan fwyaf o ddamweiniau yn y blynyddoedd diwethaf, nid da lle gellir gwell. Mae mentrau fel parthau 20mya, ceisio annog seddau i ddau yn hytrach na thri disgybl ar fysiau ysgol, a sicrhau bod gorsafoedd trenau a bysiau yn hygyrch ac wedi’u goleuo’n dda oll yn rhan o’r weledigaeth hon. Drwy gydweithio â’n partneriaid yn y pum maes allweddol hwn, byddwn yn gweddnewid trafnidiaeth yn Nghymru yn ystod y degawdau i ddod.

Am gyfnod rhy hir, bu’r pwyslais economaidd ym maes cynllunio trafnidiaeth ar greu cyfoeth yn unig, a hynny ar gyfer nifer cymharol fach. Bydd y strategaeth hon yn rhoi ystyriaeth lawn i’r elfennau amgylcheddol a chymdeithasol hefyd. Mae trafnidiaeth yn chwarae rôl hanfodol wrth hybu ffyniant economaidd cynaliadwy ac wrth sicrhau’r ansawdd bywyd yr ydym yn ei ddymuno i bawb.

Heb drafnidiaeth a chysylltiadau, ni all marchnadoedd weithredu na busnesau gystadlu. Er hynny, os nad ydym yn llwyddo i’w wneud yn iawn, mae diffyg trafnidiaeth, yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus, yn rhwystr difrifol i’r sawl sy’n chwilio am swyddi. Mae hefyd yn golygu nad oes llawer o wasanaethau allweddol ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd llai ffyniannus lle nad oes gan lawer o bobl geir.

Mae’r ffordd yr ydym yn datblygu ein rhwydwaith o gysylltiadau hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth leihau’r pwysau ar yr amgylchedd, ac wrth gyflawni’n cyfrifoldeb o sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae 'Cysylltu’r Genedl’ yn ffordd o ysgogi dull newydd o ymdrin â thrafnidiaeth yng Nghymru, dull sy’n cydbwyso gofynion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Gobeithiaf y bydd Aelodau ac eraill yn fy nghefnogi wrth inni wireddu’r uchelgeisiau a amlinellir yn 'Cysylltu’r Genedl’ ac wrth inni ddechrau ar y gwaith hollbwysig o wireddu’r weledigaeth.

Yr wyf yn arbennig o awyddus i barhau i dderbyn ymrwymiad llawn ein partneriaid mewn llywodraeth leol, y gymuned fusnes a darparwyr gwasanaethau trafnidiaeth wrth gyflawni ein hamcanion. Y cam nesaf fydd datblygu cynllun trafnidiaeth cenedlaethol, a gweithio gyda’n partneriaid ar y consortia trafnidiaeth rhanbarthol i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Wrth fynd ati i gyflawni’r gwaith hwn, yr wyf yn addo mai cynaliadwyedd, lleihau allyriadau carbon, ac adeiladu cenedl sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gwell a mwy dibynadwy fydd ein harwyddeiriau.