Skip to content

Ysgrifenedig - Datblygiadau'r iaith Gymraeg mewn Addysg Uwch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Fel y mae'r toriad yn agosáu hoffwn roi'r sefyllfa ddiweddaraf i'r Aelodau o ran y datblygiadau yn narpariaeth y Gymraeg mewn Addysg Uwch yn ystod y deuddeng mis diwethaf, gan nodi'r camau nesaf yr wyf yn bwriadu eu cymryd ynghylch cyflawni ein hymrwymiad “Cymru'n Un” i'r Coleg Ffederal.

Yn 2007 sefydlwyd Rhwydwaith Addysg Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg . Cefnogwyd a hwyluswyd hyn gan y Ganolfan Addysg Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy adrodd i Addysg Uwch Cymru, mae'r Rhwydwaith wedi llunio cynllun datblygu cenedlaethol sy'n cael ei gyflawni gan Sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru.

· Trefnodd Llywodraeth y Cynulliad fod £1.3m ychwanegol ar gael ar gyfer gwaith y Ganolfan ac ar gyfer ei marchnata yn Ebrill 2007.


Hyd yma, er mwyn cynorthwyo yn y gwaith hwn a chefnogi datblygiadau pellach mewn Addysg Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, yr wyf wedi rhyddhau swm ychwanegol o £1,823,333 dros y tair blynedd ariannol 2008-09 hyd at 2010-11.

Yn awr mae angen adeiladu ar y gwaith hwn, a chymryd y datblygiadau i'r cyfnod nesaf wrth gyflawni ein hymrwymiad yn “Cymru'n Un”. Mae'n hyfrydwch gen i gyhoeddi bod yr Athro Robin Williams wedi cytuno i gadeirio Bwrdd Cynllunio'r Coleg Ffederal, a gaiff ei ffurfio o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ynghyd â thrawstoriad eang o gyrff sydd â buddiant yn y gwaith. Yr wyf eisiau i'r grŵp hwn gynnwys cynrychiolwyr o'r holl gyrff hynny y mae ganddynt fuddiant yn y Coleg Ffederal, gan gynnwys cyrff academaidd a chyrff o fyfyrwyr.

Tasg y Bwrdd fydd dangos sut y gellir bwrw ymlaen â'n hymrwymiad i'r Coleg Ffederal a sut y bydd yn adeiladu ar waith y Rhwydwaith Addysg Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yma. Bydd y Bwrdd yn edrych ar y modelau posibl ar gyfer y Coleg Ffederal a sut y bydd yn gweithio gyda sefydliadau eraill mewn Addysg Uwch yng Nghymru i gyflawni ein nod o gynyddu hyfforddiant yn y Gymraeg.

Fy mwriad yw defnyddio cyfnod yr haf i drafod, gydag eraill, aelodaeth lawn, cwmpas a chylch gwaith y Bwrdd a bwriadaf wneud cyhoeddiad pellach pan fydd y Cynulliad yn ail gynnull.


Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa Aelodau’r Cynulliad o'r cynnydd a wnaethom hyd yma ym maes Addysg Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi neilltuo dros £6 miliwn o gyllid Ymgeisio yn Uwch ac mae'r camau allweddol a gyllidwyd yn cynnwys:

  • Cyflwyno ysgoloriaeth ôl-radd a chynlluniau cymrodoriaeth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i ehangu'r cnewyllyn o staff academaidd ledled Cymru sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu'r ddarpariaeth o ddeunyddiau dysgu – hyd yma dyrannwyd dros £4m ar gyfer y cynlluniau hyn, gan gynnwys £1,352,667 i'w defnyddio rhwng 2008-09 a 2010-11.
  • Sefydlu rhwydweithiau pynciau er mwyn datblygu darpariaeth newydd drwy gyfrwng y Gymraeg; cynyddu nifer y staff sy'n darlithio drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu nifer y rhai sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn sgil hynny, cafodd prosiectau cydweithredu eu cychwyn, neu maent yn cael eu cwblhau, ym mhynciau'r Amgylchedd/Daearyddiaeth, y Gyfraith, Diwydiannau Creadigol, Addysg a Hyfforddiant, Chwaraeon a Hamdden a Nyrsio.Mae'r Ymgynghori hwn rhwng sefydliadau sy'n cymryd rhan yn ôl cynlluniau cyfnod canolig (tair blynedd i bum mlynedd) ar gyfer y Gyfraith wedi'u cwblhau.
  • Mae panel rhwydwaith i'r adrannau Cymraeg hefyd yn cael ei sefydlu er mwyn eu galluogi i gyfrannu i'r cynllun datblygu cenedlaethol.
  • Creu rhaglen Mantais sy'n ymwneud â thargedu dysgwyr posibl drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion a choleg, hybu cyfleoedd ar gyfer addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg a chefnogi'r rhai sy'n mentro arni. Mae gwaith rhaglen Mantais yn cynnwys:
  • saith Confensiwn Addysg, yn bennaf ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12, i hybu cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a gynhaliwyd yn flynyddol ledled Cymru;
  • Creu Fforwm Mantais Flynyddol ar gyfer ysgolion a chynrychiolwyr addysg bellach i'w diweddaru ar y datblygiadau a'u galluogi i gyfrannu i gylch cynllunio Mantais; aPresenoldeb a digwyddiadau gan 'Mantais' yn yr Urdd a'r Eisteddfodau Cenedlaethol a Sioe Frenhinol Cymru.