Skip to content

Ysgrifenedig - Cymunedau Yn Gyntaf Gorllewin Y Rhyl

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.

Mae dwy ardal Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Ddinbych – adrannau etholiadol Gorllewin y Rhyl a De-orllewin y Rhyl a osodwyd yn safleoedd 1 a 49, yn y drefn honno, ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2000. Mae’r ddwy ardal yn ymddangos ar frig y Mynegai ar gyfer 2008 a gyhoeddwyd yn ddiweddar neu’n agos at y brig.

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cael problemau yn y Rhyl o ran trefniadaeth ers dechrau’r Rhaglen. Roedd trefniadau cychwynnol y Bartneriaeth yn cwmpasu Gorllewin a De-orllewin y Rhyl ond ni welwyd llawer o gynnydd yn y blynyddoedd cynnar. Roedd ansefydlogrwydd amlwg yn y Bartneriaeth a phartneriaid lleol allweddol wedi’u hymddieithrio. Cynhaliodd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad adolygiad cynhwysfawr a chynigiwyd cyfres o fesurau ganddynt i adfer y sefyllfa, gan gynnwys sefydlu Partneriaethau ar wahân ar gyfer Gorllewin y Rhyl a De-orllewin y Rhyl.

Sefydlwyd trefniadau newydd ar gyfer Derbynwyr Grant a Chyflogwyr sy’n Derbyn Gweithwyr Dros Dro ym mis Ebrill 2006. Ymgymerodd y Grŵp Cydweithredol â rolau Derbynwyr Grant a Chyflogwyr sy’n Derbyn Gweithwyr Dros Dro ar gyfer y Rhaglen yn Ne-orllewin y Rhyl a chymerodd Heddlu Gogledd Cymru y rolau ar gyfer Gorllewin y Rhyl.

Mae De-orllewin y Rhyl wedi gwneud cynnydd rhesymol ers i’r trefniadau newydd gael eu sefydlu, ac mae Bwrdd Partneriaeth sefydlog yn goruchwylio amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau a awgrymwyd gan y gymuned leol. Mae’r trefniadau o ran Derbynwyr Grant/Cyflogwyr sy’n Derbyn Gweithwyr Dros Dro gyda’r Grŵp Cydweithredol hefyd yn gweithio’n dda, ac mae’r ddau grŵp yn awyddus i hyn barhau yng nghymal nesaf y Rhaglen. Rydym yn cynnig y dylai’r Rhaglen barhau ar ei ffurf bresennol yn Ne-orllewin y Rhyl.

Er gwaethaf ymdrechion gorau sefydliadau fel Heddlu Gogledd Cymru, fodd bynnag, nid yw Gorllewin y Rhyl wedi gweld llawer o gynnydd ers i’r trefniadau newydd gael eu sefydlu. Nid yw’r gymuned leol wedi ymgysylltu’n fwy â’r broses Cymunedau yn Gyntaf na chyn yr adolygiad ac mae darparwyr gwasanaethau lleol allweddol yn parhau i fod wedi’u hymddieithrio. Nid yw’r sefyllfa sydd wedi bodoli yng Ngorllewin y Rhyl ers tro yn debyg o gwbl i’r hyn sy’n digwydd mewn unrhyw fan arall lle gweithredir y Rhaglen, ac nid yw’n cydymffurfio â’r egwyddorion yng Nghanllawiau Cymunedau yn Gyntaf nac yn y ddogfen ymgynghori ar ddyfodol y Rhaglen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ym mis Ionawr eleni.

Rwyf wedi penderfynu felly y dylid dod â’r trefniadau cyfredol yng Ngorllewin y Rhyl i ben ar 31 Mawrth 2009. Bydd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, felly, yn stopio gweithredu yng Ngorllewin y Rhyl. Yn hytrach, byddwn yn sefydlu trefniadau eraill i gefnogi gwaith adfywio cymunedol yn yr ardal hon o 1 Ebrill 2009. Mae trafodaethau wedi dechrau ar draws Llywodraeth y Cynulliad i ystyried sut gellir ymgorffori gwaith adfywio cymunedol yn yr ardal mewn rhaglen ehangach o adfywio economaidd a chymdeithasol yn y Rhyl. Rwy’n disgwyl gallu gwneud cyhoeddiad pellach am hyn yn yr Hydref.