Skip to content

Ysgrifenedig - Adfywio mewn Ffordd Strategol – y Cymoedd Gorllewinol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews , Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.
Fel Llywodraeth, roeddem yn cydnabod bod angen i ni gydgysylltu’n gweithgareddau adfywio o ran buddsoddi mewn pobl a lleoedd er mwyn sicrhau canlyniadau economaidd a chymdeithasol hirdymor. Mae’r gweithgarwch adfywio mwyaf llwyddiannus yn gofyn am weithio mewn partneriaeth wirioneddol rhwng cymunedau, ar draws amrywiaeth eang o gyrff y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ac am gysylltu mentrau ym meysydd cyflogaeth, sgiliau, datblygu cymunedol, mentergarwch gymdeithasol a thai mewn ffordd gyfannol.

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi ein bwriad i ddatblygu ardal y Cymoedd Gorllewinol yn y De i fod yn Ardal Adfywio Strategol. Mae’r Cymoedd Gorllewinol yn rhan o ardal y cynllun gofodol a ddynodir yn ardal Glannau Bae Abertawe a’r Cymoedd Gorllewinol. Mae ganddi hanes o ddiwydiant trwm ym maes mwyngloddio, dur a chemegau. Heddiw, mae’n parhau i ddioddef yn sgil dirywiad y diwydiannau hyn ac o ganlyniad, mae ganddi nifer o ardaloedd sydd, yn ôl Mynegai Amddifadedd Cymru 2008, ymhlith rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae nifer o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn y Cymoedd Gorllewinol ac mae yna ddiffyg buddsoddiad a phrinder swyddi. Yr ardal hon sy’n cynnig y potensial mwyaf heblaw am un ardal arall o ran sicrhau manteision agwedd fwy strategol at adfywio.

Fy mwriad yw rhoi cymorth i bob Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardal gymryd rhan weithredol drwy broses newydd a strategol o gydgysylltu. Bydd hyn yn cymryd lle strwythur presennol y Bartneriaeth Drawsffiniol yn Nyffryn Aman. Yn yr ardal honno, byddwn bellach yn canolbwyntio’n cefnogaeth ar brosiectau cymunedol y rheng flaen, gan rhoi sylw manwl i gynlluniau a dyheadau presennol yr aelodau a’r cyrff cymunedol sydd wedi cefnogi’r Bartneriaeth Drawsffiniol hyd yma.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ynghylch cwmpas posibl ardal y Cymoedd Gorllewinol fydd yn ceisio canolbwyntio ar weithgareddau adfywio o fewn ardal bosibl yn ymestyn o Ddyffryn Aman yn y Gorllewin draw i gwm Garw Uchaf a bro Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y Dwyrain ac yn ymestyn i’r gogledd i gymuned Ystradgynlais

Mae angen mabwysiadu agwedd fwy strategol, hirdymor a chyfannol tuag at adfywio yn yr ardal hon. Gallai dulliau adfywio nad ydynt yn diwallu anghenion pobl a chymunedau o ran cyflogadwyedd a sgiliau, ochr yn ochr â chynnig gwelliannau ffisegol ac amgylcheddol, anwybyddu problemau cymdeithasol megis anweithgarwch economaidd, tlodi ac allgáu cymdeithasol. Rhan o’r ymateb strategol yn y Cymoedd Gorllewinol fydd cydweithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn ymestyn dull strategaeth y ddinas i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, dull sy’n gweithio’n dda iawn yn ardal Blaenau’r Cymoedd.