Skip to content

Ysgrifenedig - Cymru – ‘Cenedl Masnach Deg’ gyntaf y byd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mae’n bleser ac yn fraint gennyf gyhoeddi y gall Cymru, erbyn hyn, alw ei hun yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd.

Bu modd i mi longyfarch Fforwm Masnach Deg Cymru ar y cyflawniad hwn yn ystod Uwchgynhadledd Masnach Deg ryngwladol a gynhaliwyd yng Nghasnewydd, ddydd Gwener 6 Mehefin 2008. Mae’r cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch ddwy flynedd gan Fforwm Masnach Deg Cymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i sicrhau bod digon o gynhyrchion Masnach Deg ar gael mewn trefi, dinasoedd a siroedd ledled Cymru, ac i annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill i gefnogi Masnach Deg. Hoffwn ddiolch o galon i’r bobl a’r sefydliadau yng Nghymru sydd wedi ein helpu i fod y gyntaf o sawl Cenedl Masnach Deg, gobeithio.

Mae Cymru’n dangos sut y gall gwlad fach gymryd camau i wneud newid mawr – ac yn achos Masnach Deg, i gael effaith enfawr ar fywydau cynhyrchwyr yn y trydydd byd a’u teuluoedd. Cawsom wybod am hyn yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr/ffermwyr Masnach Deg o America Ladin ac Affrica eu hunain, a oedd yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd ac a siaradodd ag angerdd am fuddion Masnach Deg i’w ffermydd a’u cymunedau.

Cychwynnodd y daith ag ymrwymiad yng Nghynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2004, ac yn ddiweddarach yn Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy 2007. Ailadroddwyd yr ymrwymiad hefyd yn Fframwaith Cymru o Blaid Affrica - Fframwaith gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gweithredu ar Ddatblygu Rhyngwladol Cynaliadwy, a lansiwyd ym mis Hydref 2006.

Cytunwyd ar y meini prawf i fod yn Genedl Masnach Deg yn 2006 gan Fforwm Masnach Deg Cymru a Fforwm Masnach Deg yr Alban, ac fe’u cymeradwywyd gan Brif Weinidogion Cymru a’r Alban. Adolygodd panel annibynnol o arbenigwyr Masnach Deg, a benodwyd gan Fforwm Masnach Deg Cymru, gyflawniad Cymru a chytunodd y gellid datgan bod Cymru yn Genedl Masnach Deg.

Mae Linda Fabiani, Gweinidog yr Alban dros Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant, a Fforwm Masnach Deg yr Alban wedi llongyfarch Cymru ar ein llwyddiant, a’u bwriad yw parhau i weithio i’r diben hwn yn yr Alban. Yn ogystal, cymeradwyodd Sefydliad Masnach Deg y DU bobl Cymru am y cyfan a wnaed i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o Fasnach Deg a’r angen am systemau masnachu tecach.

Mae Cymru yn arloesi’r statws Cenedl Masnach Deg mewn ffordd debyg i’r Trefi Masnach Deg. Rydym yn paratoi’r ffordd, a’r gobaith yw y bydd gweddill y byd yn dilyn. Yn awr, gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn ac edrych ymlaen at weld gwledydd eraill yn ymuno â ni fel Cenhedloedd Masnach Deg.

Erbyn hyn, mae mwy na 60% o bobl Cymru yn adnabod y Nod Masnach Deg ac yn ymwybodol o’i ystyr. Mae hynny wedi cynyddu o ffigur o 44% ym mis Tachwedd 2006. Mae 41% o siopwyr sy’n adnabod Nod Masnach Deg yn prynu o leiaf un eitem Masnach Deg bob mis – ac maent yn gwybod bod gwneud hynny yn golygu bargen well i gynhyrchwyr yn y trydydd byd.

Erbyn hyn, mae gan Gymru grwpiau Masnach Deg gweithredol ym mhob awdurdod lleol, ac mae ein holl ddinasoedd wedi ennill statws Masnach Deg. Mae mwy na hanner ein trefi wrthi’n gweithio ar ran Masnach Deg, ac mae 400 o ysgolion yn gweithio tuag at fod yn ysgolion Masnach Deg – mwy na gweddill y DU gyda’i gilydd.

Gall pawb fod yn falch o’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn ac edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn. Mae pawb sy’n ymwneud â gwaith Masnach Deg yng Nghymru yn gytûn mai siwrne, nid pen y daith, yw bod yn Genedl Masnach Deg. Gellir gwneud mwy i annog ymwybyddiaeth o Fasnach Deg, a chefnogaeth ar ei chyfer, ledled trefi, busnesau, ysgolion a sefydliadau addysg yng Nghymru.

Ar y cyd, rydym yn cynnig cefnogaeth bwysig i’r mudiad masnach deg, sy’n sicrhau pris teg i ffermwyr/cynhyrchwyr mewn gwledydd sy’n datblygu a chefnogaeth i fentrau cymunedol wella safon byw i rai o’r bobl dlotaf yn y byd. Mae hwn yn fodd i ni oll chwarae ein rhan i Roi Terfyn ar Dlodi a helpu pobl i ddianc rhag tlodi trwy fasnach.