Skip to content

Llafar - Arolwg o’r Wasg Brintiedig Cyfrwng Cymraeg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Ar 9 Awst 2007, cyhoeddais fy mod wedi gofyn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynnal arolwg o’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Pwrpas yr arolwg oedd rhoi darlun clir a chynhwysfawr o sefyllfa’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Yr oeddwn am edrych ar sut y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru weithredu, mewn ffordd gynaliadwy, yr argymhelliad yn 'Cymru’n Un’

'i gynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.’

Penododd Bwrdd yr Iaith Gymraeg Dr Tony Bianchi i gynnal yr arolwg. Mae adroddiad Dr Bianchi, 'Arolwg o’r Wasg Brintiedig Gymraeg’, a gyhoeddwyd ar 14 Ionawr, yn cynnwys dadansoddiad manwl o sefyllfa cyhoeddiadau a oedd o fewn cylch gorchwyl yr arolwg - Golwg, Y Cymro, Barn a’r papur newydd dyddiol arfaethedig, Y Byd - ynghyd â chymariaethau rhyngwladol defnyddiol.

Mae dadansoddiad Dr Bianchi o’r bwriad i sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn codi cwestiynau allweddol sydd wedi esgor ar drafodaeth frwd ac mae hynny’n sicr o barhau. Ceir ymdriniaeth fanwl o’r dadleuon o blaid ac yn erbyn sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Er bod yr adroddiad yn nodi na phrofwyd ac na ellir profi y tu hwnt i bob amheuaeth bod papur dyddiol Cymraeg yn fenter ddichonadwy ar sail ymchwil farchnad na modelau cymaradwy mewn mannau eraill, mae’r bwriad i sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn amlwg wedi ennyn diddordeb a chefnogaeth. Mae’r adroddiad yn cadarnhau ac yn cydnabod yr ymdrechion clodwiw a fu i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.

Er bod yr adroddiad yn nodi bod y sector wasg brintiedig yng Nghymru yn fregus, yn anwastad ac yn anghyflawn, mae’n cyfeirio at safon uchel nifer o’r cyhoeddiadau presennol. Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion a syniadau diddorol i gryfhau’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg ym maes newyddion a materion cyfoes.

Yn sgil yr ymrwymiad yn 'Cymru’n Un’, yr wyf yn falch i gyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn neilltuo £600,000 dros y tair blynedd nesaf i wireddu’r ymrwymiad yn 'Cymru’n Un’, sef £200,000 y flwyddyn hyd at 2011. Mae hyn yn ychwanegol at y £173,000 a gaiff ei wario ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Gyngor Llyfrau Cymru ar gyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes cyfrwng Cymraeg. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn hwb aruthrol i’r wasg brintiedig Gymraeg ac yn fodd iddi gryfhau ac ehangu’r ddarpariaeth bresennol. Bydd unrhyw ddatblygiad newydd yn y sector hwn yn adeiladu ar y gwaith da a wneir gan y cyhoeddiadau a drafodir gan Dr Bianchi yn yr adroddiad.

Sianelir cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cylchgronau a phapurau cyfrwng Cymraeg trwy Gyngor Llyfrau Cymru. Felly, Cyngor Llyfrau Cymru a ddylai arwain ar y datblygiadau cyffrous hyn sydd yn wynebu’r wasg brintiedig Gymraeg. Yr wyf wedi gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru wahodd ceisiadau gan rai sy’n ymddiddori yn y maes o ran sefydlu papur dyddiol neu ddatblygiadau newydd i gryfhau’r ddarpariaeth newyddion wythnosol bresennol, gyda golwg ar gryfhau’r sector, gan gynnwys deunydd ar y we. Bydd y cyngor llyfrau yn gwneud cyhoeddiad pellach yn fuan ynglŷn â’r amserlen a’r trefniadau ymarferol o ran gwneud cais am grant. Bydd hyn yn gryn her i’r diwydiant ac yn ennyn diddordeb, gobeithio, ar draws y sector.
Yr wyf yn hyderus y bydd y cyhoeddiad hwn yn arwain at gynigion blaengar a fydd yn cynnig dulliau arloesol o weithredu, a allai gynnwys partneriaethau neu gydweithio pwrpasol. Bydd yn allweddol bod unrhyw ddatblygiad yn y maes, nid yn unig yn gynaliadwy ond hefyd yn arwain at gynnydd yn nifer darllenwyr Cymraeg, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

Mae’r ymateb buan hwn i adroddiad Dr Bianchi yn arwydd o ymrwymiad parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg. Bydd y cyllid ychwanegol, sydd yn fwy na dyblu’r arian sydd ar gael i gyhoeddiadau o’u bath yn y Gymraeg ar hyn o bryd, yn fodd i ddatblygu’r sector ymhellach ac i wireddu’r ymrwymiad yn 'Cymru’n Un’.