Skip to content

Ysgrifenedig - Canolfan Mileniwm Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Glyn Thomas , Y Gweinidog dros Dreftadaeth
Ar 7 Tachwedd, cyhoeddais yn y cyfarfod llawn fod Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i Ganolfan Mileniwm Cymru er mwyn iddi gael sefydlogrwydd ariannol. Diben y datganiad hwn yw rhoi adroddiad pellach i’r Aelodau am y cynnydd a wnaed ers y dyddiad hwnnw.

Erbyn hyn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru wedi llofnodi’r cytundeb ariannu sy’n pennu faint o arian cyhoeddus y byddwn yn ei roi i Ganolfan Mileniwm Cymru am y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2011. Mae’r cytundeb yn cynnwys y £10.1 miliwn o arian refeniw a fydd ar gael dros y tair blynedd ariannol nesaf, yn ogystal â’r £1 miliwn a dalwyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Rhagfyr 2007. Mae’r cytundeb, sydd hefyd yn cynnwys trefniadau ar gyfer mynd ati i fonitro’r arian yn drwyadl, gan gynnwys ymestyn dangosyddion perfformiad allweddol a thargedau masnachol, yn egluro hefyd pa fuddiannau cyhoeddus yr ydym yn bwriadu eu sicrhau drwy gyfrwng ein buddsoddiad.

Cyn hir byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu Canolfan Mileniwm Cymru, fel a gyhoeddais fis Tachwedd y llynedd. Mae’r adolygiad yn rhan annatod o’r gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i’w dilyn wrth fuddsoddi symiau sylweddol o arian cyhoeddus mewn prosiect o’r math hwn.

Rwy’n falch dweud ein bod wedi dod i gytundeb ar “weledigaeth greadigol” rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a’i sefydliadau preswyl. Mae’r rhaglen uchelgeisiol hon yn dangos sut y gall y ffaith bod cymaint o sefydliadau creadigol wedi ymgartrefu yn yr un lle eu hysgogi i gynnal cynyrchiadau a gweithgareddau cyffrous ar y cyd.

Mae’r berthynas rhwng Canolfan Mileniwm Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ganolog i weledigaeth greadigol y ganolfan a’i phreswylwyr. Mae Canolfan Mileniwm Cymru bellach wedi dod i gytundeb gydag Opera Cenedlaethol Cymru ynglŷn â gwerthu ei eiddo yn Heol Sant Ioan. Mae’r cytundeb yn dangos yn glir beth fydd y cyfraniad terfynol a fydd yn cael ei wneud pan fydd y safle wedi’i werthu. Mae trafodaethau cadarnhaol wedi eu cynnal hefyd ynghylch faint o angen sydd gan Opera Cenedlaethol Cymru i ddefnyddio Canolfan Mileniwm Cymru i ymarfer (yr hyn a elwir yn fater y “nosweithiau tywyll”). Erbyn hyn mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gofyn am lai o nosweithiau tywyll nag sy’n ofynnol o dan y contract. Mae’r trafodaethau rhagarweiniol a gynhaliwyd rhwng y ddau sefydliad wedi darparu tystiolaeth bwysig y bydd modd ei defnyddio mewn trafodaethau ynghylch arian rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a’r Llywodraeth ac Opera Cenedlaethol Cymru a Chyngor y Celfyddydau yn y dyfodol.