Skip to content

Llafar - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Ddiwylliant a meysydd eraill

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Yr wyf yn falch o gyflwyno’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ar ddiwylliant gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Dyma garreg filltir bwysig arall wrth i’r Cynulliad Cenedlaethol fabwysiadu cymhwysedd yn ei feysydd cyfrifoldeb datganoledig. Yr wyf yn siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn briodol i’r Cynulliad Cenedlaethol gael y pŵer i ddeddfu ym maes diwylliant. Heddiw yw’r cyfle cyntaf inni drafod y Gorchymyn, ond yr wyf yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Aelodau ac eraill dros y misoedd nesaf i graffu ar y Gorchymyn.

 

Nid moeth yw diwylliant—mae’n rhan hollbwysig o’n bywydau bob dydd. Mae diwylliant Cymru wedi bod yn greiddiol o ran creu ein hunaniaeth genedlaethol, ac mae’n parhau i wneud hynny. Dyma un o’r ffyrdd pwysicaf o ddenu’r rhai sydd am weithio yng Nghymru, a’r rhai sydd am ymweld â hi a buddsoddi ynddi. Mae celfyddydau a diwydiannau creadigol Cymru yn rhan bwysig o economi’r wlad, ac maent yn cyfrannu at ffyniant Cymru. Mae twristiaeth ddiwylliannol, y dreftadaeth adeiledig a digwyddiadau diwylliannol blaenllaw yn creu incwm i Gymru.

 

Yn lleol, mae diwylliant yn elfen bwysig o adfywio cymunedol. Caiff gweithgareddau diwylliannol eu cydnabod yn gyffredinol fel elfen hanfodol ar gyfer datblygu a chynnal ysbryd cymunedol. Mae gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn elfen hanfodol o’n hiechyd a’n lles. Mae diwylliant yn rhan annatod o addysg a datblygiad plant a phobl ifanc, ac yn sylfaenol i unigolion sydd â’r gallu a’r awydd i ddysgu sgiliau newydd. Mae gweithgareddau diwylliannol yn dod â phleser i fywydau pob un ohonom yn ddiwahân.

 

Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw annog rhagor o bobl i gymryd rhan yn yr ystod lawn o wasanaethau a gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant, chwaraeon a hamdden. Ni ddylai incwm isel, cefndir na lle mae pobl yn byw fod yn rhwystr i fynediad neu gyfranogiad. Yr ydym yn cydnabod yn llawn y rôl allweddol y mae awdurdodau lleol Cymru’n ei chwarae o ran darparu gwasanaethau a gweithgareddau diwylliannol i’w cymunedau lleol. Mae awdurdodau lleol eisoes yn darparu ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau diwylliannol i’w dinasyddion ac yr wyf yn ymwybodol o’r gwaith da y maent yn ei wneud.

 

Yn y cyd-destun hwn, nodwyd yn ‘Cymru’n Un’ bod cryfhau a chefnogi rôl awdurdodau lleol o ran datblygu a darparu gwasanaethau a gweithgareddau diwylliannol a’r cyfryngau yng Nghymru yn faes allweddol. Ein nod yw adeiladu ar y rhagoriaeth sydd eisoes yn bodoli. Yr ydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu ymrwymiad ‘Cymru’n Un’.

 

Er bod gan awdurdodau lleol bwerau estynedig i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau diwylliannol, pwerau caniataol yw’r rhan fwyaf o’r rhain, gan nad ydynt yn rhoi dyletswydd absoliwt ar awdurdodau lleol i ddarparu mwyafrif y gwasanaethau a gweithgareddau o’r fath. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau. Mae’r meysydd allweddol yn cynnwys darpariaethau deddfwriaethol parthed llyfrgelloedd, gwasanaethau archif, rhandiroedd a rhoi hawliau mynediad i olion, henebion, adeiladau hanesyddol ac yn y blaen sydd o dan reolaeth awdurdodau lleol.

 

Nod ganolog yr ymrwymiad yn ‘Cymru’n Un’ yw gwella’r ddarpariaeth o brofiadau diwylliannol o safon uchel ledled Cymru gyfan. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn darparu cymhwysedd i alluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi ymrwymiad ‘Cymru’n Un’ ar waith a chyflawni’r amcanion polisi yn y maes hwn.

 

Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â swyddogaethau awdurdodau lleol yn unig. Ceir cysylltiad penodol rhyngddo a thair darpariaeth ddiwylliannol awdurdodau lleol: cefnogi, gwella a hyrwyddo. Cafodd y Gorchymyn arfaethedig ei ddrafftio fel hyn i sicrhau y bydd y cymhwysedd yn gwireddu nod polisi ‘Cymru’n Un’, er enghraifft drwy swyddogaethau awdurdodau lleol fel cynllunio, ymgynghori, cydweithio, cydweithredu, neu gymorth ariannol neu gymorth arall. Ar ben hynny, er mwyn sicrhau bod yr ystod lawn o weithgareddau a gwasanaethau diwylliannol amrywiol a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru o fewn cwmpas y pŵer, mae’r cymhwysedd arfaethedig yn ymestyn i dri maes yn rhan 1 Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006: maes 3, diwylliant; maes 2, henebion ac adeiladau hanesyddol; a maes 16, chwaraeon a hamdden. Nodir manylion cwmpas y Gorchymyn arfaethedig yn y memorandwm esboniadol i’r rhai sydd am fwrw golwg fanylach arnynt. Cafodd y memorandwm esboniadol ei osod ochr yn ochr â’r Gorchymyn arfaethedig ddoe.

 

Mae’n bwysig nodi bod tri eithriad i’r cymhwysedd arfaethedig. Nid yw adran 2(3) y Gorchymyn arfaethedig yn ymestyn i ddileu’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon; nid yw adran 2(3) ychwaith yn ymestyn i’r trefniadau gan awdurdodau lleol ar gyfer cadw, rheoli a gofalu am gofnodion yr awdurdod lleol; nid yw adran 2(2) yn ymestyn i ddileu unrhyw hawl gyhoeddus i fynediad i unrhyw olion hanesyddol, henebion, adeiladau, safleoedd neu ddrylliadau dan reolaeth awdurdodau lleol. Mae’r agweddau hyn ar wasanaeth yr awdurdod lleol perthnasol y tu hwnt i gwmpas y cymhwysedd arfaethedig.

 

Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn gam pwysig i hyrwyddo diwylliant Cymru a phroses gyfansoddiadol ehangach i’r Cynulliad hwn. Yr wyf yn gobeithio y bydd pob plaid yn y Cynulliad yn ei groesawu. Yr wyf yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Aelodau ac eraill sydd â diddordeb yn narpariaeth ddiwylliannol yr awdurdodau lleol i graffu ar y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig er mwyn trosglwyddo’r pŵer i ddeddfu yn y maes hwn o San Steffan i Gymru.