Oherwydd y dirwasgiad mae mwy o bwysau ariannol a chymdeithasol ar lawer o ddinasyddion Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymateb yn rhagweithiol i hyn, ac yn cymryd camau ac yn rhoi cefnogaeth yn wyneb yr amgylchiadau newydd, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymfalchïo yn ymdrechion yr awdurdodau lleol i sicrhau bob pawb sy’n gymwys yn cael Budd-dal y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai. Yn sicr, mae llawer mwy o bobl nawr yn gymwys ac yn mynd ati i hawlio’u budd-daliadau nag oedd 12 mis yn ôl, ac mae hyn yn dwysáu’r angen am y £1m y flwyddyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei roi am y tair blynedd 2008-11.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i’r broses o helpu pobl cymwys i gael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt gyd-fynd â phrosesau casglu dyledion i’r cynghorau. O’r herwydd, mae’n bwysig cynghori pobl yn briodol. Mae rhai pobl yn y sefyllfa anodd o orfod talu’u biliau, gan gynnwys rhent a threth gyngor, er bod eu hincwm wedi lleihau.
Mae dyletswydd ar awdurdodau bilio i gasglu trethi lleol er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel. Gyda mwy o aelwydydd yn wynebu mwy o bwysau ariannol, mae perygl y gwelir lleihad yng nghyfradd casglu trethi’r cynghorau. Felly, mae awdurdodau lleol yn wynebu’r anawsterau a’r gwrthdaro buddiannau sy’n codi yn sgil ceisio casglu trethi lleol oddi wrth gymdeithas sy’n mynd yn dlotach yn ariannol.
Yn aml, gall dilyn proses casglu trethi arferol y cyngor yn systematig arwain at anwybyddu ffactorau dynol ac effeithiau newid amgylchiadau, fel colli swydd, a allai ddod â goblygiadau ariannol ac emosiynol yn eu sgil. Gall y rhain yn eu tro beri i faterion pob dydd, fel talu biliau treth gyngor, gael eu rhoi o’r neilltu. Os bydd rhywun yn methu â thalu ond ychydig o weithiau, gall y ddyled dyfu’n gyflym gan arwain at ychwanegu cosbau ariannol ac anfon llythyr yn mynnu bod y dreth gyngor yn cael ei thalu yn ei chyfanrwydd am y flwyddyn honno. Yn y dirywiad economaidd presennol, mae’n hanfodol cysylltu â phobl sydd wedi methu â gwneud taliad cyn gynted â phosibl gan eu hannog i ddweud wrth yr Awdurdod Lleol am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau, cyn i’r sefyllfa fynd allan o reolaeth.
Wrth gydnabod yr anawsterau sy’n cael eu hwynebu gan y trethdalwyr a’r casglwyr trethi a pha mor bwysig yw mynd i’r afael â dyled cyn gynted â phosibl, creodd Llywodraeth y Cynulliad weithgor i edrych ar y problemau ynghylch casglu treth gyngor yn ystod cyfnod o ddirywiad economaidd. Roedd y gweithgor yn cynnwys Swyddogion Refeniw nifer o Awdurdodau Lleol Cymru, cynrychiolwyr Sefydliad Ardrethi a Phrisio Refeniw a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru. Daeth cynrychiolydd o’r Cyngor ar Bopeth i rai o’r trafodaethau ac bu mewn cysylltiad cyson â’r gweithgor trwy gydol y cyfnod.
Cylch gwaith y gweithgor oedd:
· edrych ar y gwaith o gasglu’r dreth gyngor a sut mae’r dirywiad economaidd yn effeithio arno;
· ystyried effaith y dirywiad economaidd ar bobl sy’n methu â chadw i fyny â’u taliadau treth gyngor;
· trafod sut y gall awdurdodau lleol leihau’r pwysau ar unigolion sy’n dioddef caledi.
Mae trafodaethau eang y gweithgor wedi dod â dealltwriaeth werthfawr o’r anawsterau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth gasglu taliadau treth gyngor. Mae hefyd wedi cynnig amrywiaeth o atebion a dulliau arfer gorau, sy’n cadw mewn cof lles yr unigolyn sy’n talu’r dreth, i’r awdurdodau lleol eu hystyried a’u rhoi ar waith.
Mae’r gweithgor wedi cynhyrchu adroddiad, Y Dreth Gyngor – Casglu yn y Dirwasgiad (‘Council Tax – Collection in the Recession’), a gafodd ei lansio’n gyhoeddus ddydd Iau 18 Mehefin 2009 yng Nghynhadledd Cymru 2009 y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw.
Dyma rai o brif argymhellion yr adroddiad hwn:
· dylid canolbwyntio ar sicrhau bod y prosesau talu, i’r rhai sy’n gallu talu, mor syml â phosibl a’u bod yn hawdd iawn mynd atynt, trwy gynnig amrywiaeth eang o brosesau, fel talu dros y ffôn, neu dderbyn taliadau debyd uniongyrchol dros gyfnod o 12 mis, yn lle’r 10 mis arferol;
· dylid mynd ati i wella’r cysylltiadau cyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a’r mudiadau gwirfoddol sy’n rhoi cyngor ar ddyled am ddim i unigolion, er mwyn sicrhau bod y cyngor a roddir ar ddyled treth gyngor yn gyson, a bod y mater hwn yn cael ei flaenoriaethu;
· dylid sicrhau bod beilïaid, mewnol neu allanol, yn cadw at god ymddygiad. Gallai hynny osgoi dilyn arferion anfoesegol neu amhroffesiynol.
Rwyf o’r farn y bydd yr adroddiad hwn (fel yr Adroddiad Rhwystrau i Hawlio Budd-daliadau / Barriers to Benefit a gafodd ei lansio ym mis Mehefin 2008) yn ddogfen werthfawr i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill droi ati i gael cyfarwyddyd, syniadau am yr arfer gorau ac atebion wrth wynebu anawsterau casglu treth gyngor yn ystod dirwasgiad, mewn modd a fydd yn ystyried yn llawn yr amgylchiadau ac anawsterau ariannol sy’n wynebu’r sawl sy’n talu.
Hefyd, nododd y gweithgor rai materion nad oes gan awdurdodau lleol y pŵer i roi sylw iddynt. Roedd y rhain yn cynnwys rhannu gwybodaeth rhwng adrannau’r llywodraeth a darparu tablau dangosyddion perfformiad hirdymor sy’n dangos cyfraddau casglu’r dreth gyngor. Byddai’r rhain yn rhoi darlun cywirach o’r refeniw sydd wedi’i gasglu gan awdurdodau lleol nag y mae’r tablau casglu presennol yn ei dangos.
Mae’r gwaith rhagweithiol ac arloesol sy’n cael ei gyflawni gan Lywodraeth y Cynulliad a’i phartneriaid trwy’r Uwchgynhadledd Economaidd er mwyn addasu i’r amgylchiadau economaidd newydd a lleddfu effaith y Dirwasgiad yn cael ei gydnabod gan lawer. Mae’n gwaith ar gasglu trethi yn enghraifft arall o hyn. Rhaid i ni addasu, a thrwy foderneiddio’n dulliau a’n hymagwedd, gallwn sicrhau bod y gwaith o gasglu treth gyngor yn parhau, gan beri cyn lleied â phosibl o loes i’r rhai sy’n ei thalu.
Mae’r adroddiad hwn a’r cyngor y mae’n ei roi i awdurdodau lleol, yn mynd law yn llaw â chynlluniau Defnyddio Budd-dal y Dreth Gyngor a’r Budd-dal Tai, o ran hyrwyddo cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi ym mhob rhan o Gymru. Mae hyn yn hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol ac i iechyd a lles ein pobl.