Skip to content

Ysgrifenedig - Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Cyfarfu Prif Arolygydd AGGCC â Phrif Weithredwr ac Uwch Swyddogion yr awdurdod heddiw i’w hysbysu am ei benderfyniad i ddiddymu’r protocol ar gyfer ymateb i bryderon difrifol o ran gwasanaethau cymdeithasol i blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn adolygiad llawn o wasanaethau cymdeithasol i blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2008 ac adolygiad pellach â phwyslais penodol iddo ym mis Ebrill 2009. Bu monitro rheolaidd a pharhaus o wasanaethau i blant gan Arolygwyr cyn hynny.

 

Canfu’r arolygiad hwn fod staff a rheolwyr y gwasanaethau cymdeithasol wedi parhau i weithio’n galed a’u bod wedi sicrhau gwelliannau sylweddol o ran prydlondeb ac ansawdd eu gwaith gyda phlant, yn ogystal â sefydlu systemau mwy cadarn ar gyfer asesu risg yn gyson a gwneud penderfyniadau effeithiol. Ceir arweinyddiaeth a chefnogaeth gorfforaethol effeithiol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i blant ac mae trefniadau rheoli perfformiad wedi’u sefydlu.

 

Mae’r awdurdod a’i swyddogion wedi llwyddo i wyrdroi’r sefyllfa er gwell. Er nad ydynt wedi cyrraedd pen y daith o ran gwella eto, mae arweinyddiaeth gref a diwylliant gwell o lawer wedi’u sefydlu, ac mae’r gwasanaethau i blant sy’n agored i niwed wedi gwella’n sylweddol. Maent yn haeddu clod am y cynnydd sylweddol a wnaed ganddynt wrth oresgyn problemau difrifol y gorffennol a gwella’r gwasanaeth i blant sy’n agored i niwed a’u teuluoedd. Mae ganddynt yr ymroddiad a’r gallu i barhau â’r cynnydd hwn.

 

Mae hwn yn benderfyniad pwysig gan y Prif Arolygydd sy’n cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed gan yr awdurdod ers gweithredu’r protocol. Byddaf yn cyfarfod â’r Arweinydd, ac aelodau a swyddogion yr awdurdod i’w llongyfarch ar y cynnydd a gyflawnwyd ganddynt ac i bwysleisio’r angen i gynnal hyn, yn ogystal â chlywed sut y byddant yn parhau i ymdrechu i wneud gwelliannau pellach i’w gwasanaethau cymdeithasol i blant.

 

Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i’r Prif Arolygydd a’i holl staff sydd wedi gweithio gyda’r awdurdodau trwy’r protocol i’w helpu i ganolbwyntio ar yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella eu gwasanaethau.