Skip to content

Llafar - Raglen y DU ar Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd 2009

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Rhyddhawyd y Rhagamcanion ar gyfer Hinsawdd y DU 2009 ar 18 Mehefin. Mae’r rhagamcanion yn defnyddio’r wyddoniaeth a’r fethodoleg ddiweddaraf i’n cynorthwyo i gynllunio a pharatoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Defnyddiodd Canolfan Hedley y Swyddfa Dywydd wyddoniaeth arloesol i gynhyrchu rhagamcanion tebygolrwydd, sy’n cyfuno gwybodaeth o’i model hinsawdd â chanlyniadau 12 model hinsawdd rhyngwladol arall. Mae’r rhagamcanion yn  rhoi cipolwg ar yr hyn fydd yn digwydd yn achos tair senario allyriadau a ddatblygwyd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae’r tair senario allyriadau fel a ganlyn: allyriadau uchel, yn seiliedig ar economi sy’n ddibynnol ar danwydd ffosil; allyriadau canolig, yn seiliedig ar gymysgedd o danwyddau ffosil; ac allyriadau isel, sy’n seiliedig ar ddefnyddio mwy ar dechnolegau newydd ac ynni adnewyddadwy.

 

Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu ein bod ar hyn o bryd yn gogwyddo tuag at y senario o allyriadau canolig, ac mae’r canfyddiadau ar gyfer y senario honno yn llwm. Mae’r prif ganfyddiadau ar gyfer Cymru erbyn 2050 fel a ganlyn. Yn yr haf, rhagwelir y bydd cynnydd o 3.4 gradd canradd yn yr uchafswm tymheredd dyddiol, rhagwelir y bydd cynnydd o 14 y cant yn faint o law a geir yn y gaeaf a gostyngiad o 16 y cant yn yr haf, rhagwelir y bydd lefelau’r môr o amgylch Cymru’n codi oddeutu 20 cm, ac, yn y gaeaf, rhagwelir y bydd yr isafswm tymheredd dyddiol yn cynyddu 2.5 gradd canradd.

 

Yn gyffredinol, mae hynny’n golygu ein bod yn debygol o weld hafau poethach, sychach a gaeafau cynhesach, gwlypach. Ar yr olwg gyntaf, gall y newidiadau hyn ymddangos yn ffafriol, ond bydd y canlyniadau’n effeithio ar sut y byddwn yn byw ein bywydau, gan effeithio ar iechyd a lles pobl a chreu costau economaidd, a byddant hefyd yn arwain at newidiadau mewn cynefinoedd a cholli rhai rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid.

 

Mae rhywfaint o newid yn yr hinsawdd yn anochel o ganlyniad i allyriadau nwyon tŷ gwydr y gorffennol ac mae angen inni gynllunio a pharatoi ar gyfer hynny, gan wneud ein hunain yn fwy parod a lleihau’r risg. Yn yr un modd, os ydym am gyfyngu difrifoldeb newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, rhaid inni weithredu’n awr drwy leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

Mae realiti’r sefyllfa’n ategu ein hymagwedd at ddatblygu strategaeth newid yn yr hinsawdd. Ddydd Iau, byddaf yn lansio ymgynghoriad, a fydd yn amlinellu rhaglen weithredu ar sut y bydd Cymru’n mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd. Mae hynny’n adeiladu ar y gwaith sy’n digwydd eisoes.

 

Bydd effeithiau newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y ffordd y bydd adnoddau dŵr yng Nghymru’n cael eu rheoli. Bydd llai o law yn ystod misoedd yr haf yn golygu y gall lefelau’r dŵr yng nghronfeydd Cymru ostwng yn is nag ydynt ar hyn o bryd cyn eu bod yn cael eu hailgyflenwi gan law’r gaeaf. Bydd y sefyllfa honno’n dwysáu wrth i hafau sychach, poethach arwain at gynnydd yn y galw am ddŵr. Mewn llawer o afonydd Cymru, mae llifoedd yn arbennig o agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd gan eu bod yn tueddu i godi a gostwng yn gyflym mewn ymateb i law. Mae daeareg Cymru’n golygu nad oes llawer o storfeydd dŵr naturiol i gynnal llif yr afonydd yn ystod cyfnodau sych. Mae’r datganiad sefyllfa ar y polisi strategol ar ddŵr yn cynnwys amryw o fesurau a fydd yn rhoi sylw i effeithiau newid yn yr hinsawdd a faint o ddŵr fydd ar gael.

 

Yn achos y sector defnydd tir, bydd newid yn yr hinsawdd yn golygu risgiau newydd o glefydau anifeiliaid, megis tafod glas, a chyfleoedd newydd o ran mentrau gwahanol a newidiadau system. Bydd delio â thymheredd eithafol, sychder, tir dirlawn a phlâu yn dod yn fwy a mwy pwysig. Mae Llywodraeth y Cynulliad newydd ryddhau ei strategaeth ‘Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad—Creu Dyfodol Cadarn’, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd addasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd mewn ffermio o safbwynt rheoli tir, clefydau anifeiliaid a phlanhigion, rheoli adnoddau dŵr, lleihau risg o lifogydd, cynhyrchu bwyd a datblygu cyfleoedd mewn busnes o safbwynt newid yn yr hinsawdd.

 

‘Coetiroedd i Gymru’ yw strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar goetiroedd, a gyhoeddwyd yn 2009. Prif thema sy’n rhedeg drwy’r strategaeth yw pwysigrwydd cynyddu gallu coetiroedd i wrthsefyll effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn tynnu sylw at fanteision defnyddio coetiroedd i gyfrannu at reoli’r risg o lifogydd a chael mannau glas mewn ardaloedd trefol.

 

Bydd mwy o dywydd stormus a glaw trwm yn golygu mwy o berygl llifogydd ac yn rhoi mwy o bwysau ar y seilwaith dŵr a charthffosiaeth. Yr ydym eisoes yn ymwybodol o ganlyniadau tywydd eithafol a bydd llifogydd dŵr wyneb eithafol, megis y rheini a gafwyd yn Lloegr yn 2007 neu’r math o ddigwyddiadau a welsom yn fwy diweddar o lawer yn Rhydyfelin, yn dod yn fwy cyffredin. Gyda phartneriaeth o sefydliadau, yr ydym wedi bod yn gweithio i fapio’r mannau hynny y gwyddys eu bod yn y gorffennol wedi arwain at lifogydd dŵr wyneb ac i gynllunio ar gyfer rheoli’r peryglon hyn  yn fwy effeithiol. Yr ydym hefyd yn cefnogi datblygu systemau draenio cynaliadwy trefol i liniaru’r pwysau ar y rhwydwaith carthffosiaeth ac i gynorthwyo i leihau perygl llifogydd.

 

Mae perygl mawr i iechyd y cyhoedd yn sgil  tywydd eithafol o boeth a  thonnau gwres. Mae’r peryglon hynny’n cynnwys disychu’r corff a hyperthermia a gall y rhain, dan amgylchiadau eithriadol, arwain at sioc, organau’n methu a marwolaeth. Gan gofio’r  effaith y gall gwres eithafol ei chael ar iechyd y cyhoedd a bod y modd osgoi’r rhan fwyaf o afiechydon a marwolaethau sy’n gysylltiedig â thonnau gwres drwy weithredu’n ddi-oed ac yn effeithiol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymgynghori’n ddiweddar ynglŷn â chynllun tywydd poeth ar gyfer Cymru. Dyma ychydig o enghreifftiau’n unig o’r gweithgareddau sydd ar y gweill.

 

Bwriedir gwneud rhagor o waith gan ddefnyddio Rhagamcanion ar gyfer Hinsawdd y DU 2009. Bydd hyn yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi i’w darparu gan Raglen y DU ar gyfer Effeithiau ar yr Hinsawdd. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnig arweiniad arbenigol ar sut mae defnyddio’r rhagamcanion wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni. Y rhagamcanion yw’r cyfrwng gorau hyd yn hyn i’n cynorthwyo i baratoi ar gyfer dyfodol o fyw gyda hinsawdd sy’n newid. Mae’r rhagamcanion yn dangos yn eglurach nag erioed o’r blaen ein bod wedi’n cloi mewn sefyllfa o newid yn yr hinsawdd i ryw raddau am y 30 neu’r 40 mlynedd nesaf ac y bydd yn rhaid inni ymaddasu i’r hinsawdd honno wrth iddi newid. Maent yn dangos yn glir hefyd gymaint yn waeth y gall pethau fod oni weithredwn i leihau allyriadau a pha mor hanfodol yw inni barhau â’n hymdrechion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr er mwyn cyfyngu ar y difrod posibl a ddeuai yn sgil mwy o newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.