Skip to content

Llafar - Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Adolygiad o Addysg Uwch gan Merfyn Jones

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau

Hoffwn wneud datganiad am gam dau o’r adolygiad o addysg uwch dan gadeiryddiaeth yr Athro Merfyn Jones, a ystyriodd genhadaeth, pwrpas, swyddogaeth a chyllid addysg uwch yng Nghymru. Cyhoeddwyd y ddogfen ar wefan Llywodraeth y Cynulliad ddoe. Mae’n cynnig dadansoddiad croyw a chryno o’r heriau sy’n wynebu’r sector a rhai o’r ffyrdd y gellir ymateb i’r heriau hyn.

 

Mae’r adroddiad yn adeiladu ar gryfderau amlwg addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfraddau boddhad uchel ymhlith myfyrwyr, mwy o fynediad i addysg uwch gan fyfyrwyr o gefndiroedd anhraddodiadol, a pherfformiad da o ran creu cwmnïau deillio a chodi patent ar dechnolegau. Mae’n disgrifio cyfundrefn addysg uwch sydd wedi symud ymhell o fod yn fraint i’r ychydig at fod yn ffynhonnell cyfle i lawer. Fodd bynnag, mae’n cydnabod hefyd y gwahaniaethau mawr sy’n dal i fodoli yng Nghymru rhwng y cymunedau hynny sydd wedi’u cyfoethogi gan addysg uwch a’r rheini nad ydynt. Mae’n tynnu sylw at yr heriau a osodir gan yr hinsawdd economaidd gyfredol. Mae’n awgrymu, yn y cyd-destun hwn, fod angen i’r sector gyd-redeg yn fwy uniongyrchol â themâu datblygu economaidd a chyfiawnder cymdeithasol ‘Cymru’n Un’.

 

O ran hybu economi fywiog a chynaliadwy, croesawaf gasgliadau’r adroddiad am sylfaen sgiliau ac ymchwil Cymru. Mae arnaf eisiau gweld addysg uwch yn cynyddu ei chyfraniad at fywyd a pherfformiad economaidd yng Nghymru. Rhaid i addysg uwch fod yn yrrwr ffyniant drwy gynhyrchu a defnyddio gwybodaeth a drwy ddatblygu sgiliau lefel uwch. Mae arnaf eisiau i’n cymuned addysg uwch yng Nghymru gael ei chydnabod am ei hymrwymiad i gydweithio er mwyn elwa ar ei harbenigedd a’i dylanwad helaeth. I’r perwyl hwn, yr wyf eisoes wedi cytuno ar agenda strategol ar y cyd gyda’r Dirprwy Brif Weinidog, sy’n cynnwys ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn ymchwil a datblygu a fydd o’r budd mwyaf i economi Cymru.

 

Rhaid i’r gymuned addysg uwch weithio mewn partneriaeth hefyd gydag addysg bellach, cyflogwyr a chynghorau sgiliau sector a chymryd ei llywio gan Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru os yw am ddarparu’r sgiliau lefel uwch y mae arnom eu hangen yng Nghymru, gan gynnwys ffocws arbennig ar sgiliau lefel technegydd a rheoli, a ffyrdd hyblyg o ddysgu, gan gynnwys darpariaeth ran-amser ac yn y gweithle. Rhaid iddi chwarae rhan allweddol yn agenda trawsnewid y ddarpariaeth ôl-16. Mae hynny’n cysylltu â’r ail feincnod i addysg uwch—sef iddi hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a hyrwyddo dysg i bawb.

 

Mae arnaf eisiau i’n cymuned addysg uwch weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, colegau addysg bellach, cyflogwyr a chymunedau i gynnig i bobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu ddewis eang o gyrsiau a llwybrau. Bydd hynny’n gwreiddio ac yn cryfhau’r math o agweddau ar fynediad a fu’n fwyaf llwyddiannus cyn belled, a bydd yn gwneud mynediad a chyfranogiad llwyddiannus yn realiti i lawer mwy o ddinasyddion Cymru.

 

Y prynhawn yma, yr wyf hefyd am dynnu sylw at bedair blaenoriaeth allweddol, benodol a fydd yn rhan o faniffesto ac agenda addysg uwch newydd i Gymru. Yn gyntaf, bydd Aelodau eisoes yn gyfarwydd â’n bwriad i ddatblygu agwedd ddiwygiedig ar fframwaith bwrsari cenedlaethol i Gymru, a fydd yn cyfleu neges i ddysgwyr newydd, yn hen ac yn ifanc, i gael mynediad at addysg uwch a llwyddo.

 

Yn ail, bwriadaf ystyried a datblygu ffyrdd newydd o ddarparu graddau sylfaen yng Nghymru fel cyfrwng i bontio ein sectorau addysg bellach ac uwch, i agor cyfleoedd ehangach a hyblyg i ddysgwyr, ac i ddatblygu sgiliau lefel uwch ar gyfer cyflogaeth.

 

Yn drydydd, yr wyf wrth fy modd yn cyhoeddi ein bod yn awr yn barod i ddechrau cyllido darpariaeth addysg uwch newydd ym Mlaenau’r Cymoedd yn y flwyddyn academaidd i ddod. Dyna’n union yr oeddwn yn ei olygu wrth sôn am ymdrech o’r newydd i ehangu cyfranogiad, a ddaw, gobeithiaf yn fodel o gydweithredu rhwng sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach er budd cymunedau lleol.

 

Yn olaf, mynegaf fy nghefnogaeth lwyr i’r model cydweithredol sydd wrth galon argymhellion yr Athro Robin Williams ar gyfer symud y coleg ffederal yn ei flaen er mwyn sicrhau newid sylweddol yn y ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Cyhoeddwyd ei adroddiad yntau ar ein gwefan ddoe.

 

Bwriadaf ddefnyddio cyllid presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg uwch a’r adnoddau ychwanegol a fydd ar gael yn sgil rhan gyntaf adolygiad yr Athro Jones i wthio’r pedair blaenoriaeth hynny ymlaen i’r agenda ehangach dros newid yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw. Mae angen inni ddefnyddio cyllid mewn ffyrdd sy’n atgyfnerthu ein penderfyniad i hyrwyddo cydweithrediad agosach o fewn a thu hwnt y sector addysg uwch, er mwyn cynyddu dewis a lleihau gorgyffwrdd a chystadleuaeth wastraffus. Byddwn yn defnyddio dulliau cyllido i danlinellu’r synnwyr gwell hwnnw o genhadaeth benodol mewn gwahanol rannau o’r sector, yn enwedig rhwng y rheini â chenhadaeth sy’n canolbwyntio ar ymchwil yn ei hanfod a’r rheini â phwyslais ar ddysgu ac adeiladu sgiliau lefel uwch. Byddwn yn defnyddio ein cyllid mewn ffyrdd sy’n cefnogi datblygiad Cymru i’r dyfodol drwy ymchwil o safon fyd-eang, masnacheiddio, buddsoddi mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a phynciau mathemateg, ac ymchwil sy’n cefnogi meysydd polisi datganoledig allweddol, megis iechyd ac addysg. Gyrrir hynny gan ddatblygiad yr academi wyddoniaeth genedlaethol, y digwyddodd gwaith cwmpasu yn ei chylch eleni.

 

Yr wyf hefyd am weld addysg uwch yng Nghymru ym mhen blaen ymchwil o safon fyd-eang, buddsoddi, arloesi a masnacheiddio sy’n meithrin datblygiad cynaliadwy, yn unol â’n huchelgeisiau cenedlaethol, ac sy’n helpu’r byd i ymateb i newid yn yr hinsawdd. Mae ein hamcanion ymchwil a datblygu strategol wedi’u cyhoeddi i ddarparu’r fforwm hwnnw.

 

Yn ogystal â chefnogi ein huchelgais am lwyddiant economaidd a chyfiawnder cymdeithasol, mae addysg uwch yn chwarae rôl allweddol yn ffurfio darlun o Gymru drwy lygaid y byd, boed hynny drwy gyfranogiad gan fyfyrwyr rhyngwladol, cydweithredu academaidd ar draws ffiniau, rhyngweithio â byd busnes byd-eang, neu bartneriaeth â sefydliadau tramor. Mae ein henw da ym maes addysg uwch ac yn fwy cyffredinol fel gwlad yn mynnu bod y safonau o ansawdd uchaf posibl yn cael eu cynnal yn yr holl weithgareddau hyn.

 

Fy mwriad yw cyflwyno yn yr hydref gynllun gweithredu ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. Bydd hwnnw’n sail i’n compact ag addysg uwch yng Nghymru, y byddwn yn ymgysylltu â hi er mwyn gweithredu hyn.

 

Yr wyf yn diolch i’r Athro Jones a’i dîm am eu holl waith caled yn darparu llwyfan cryf ar gyfer datblygiad addysg uwch yng Nghymru i’r dyfodol. Mae angen sector arnom sydd ag undod pwrpas ac a yrrir gan anghenion ein heconomi, cyfiawnder cymdeithasol a dyfodol gwasanaethau cyhoeddus mewn Cymru ddatganoledig.