Skip to content

Ysgrifenedig - Lansio Cynllun Gweithredu Achub Morgeisi Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai

Yn ystod y drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn a gynhelir ar ddydd Mercher, 24 Mehefin 2009, byddaf yn cyhoeddi lansio’r Cynllun Gweithredu Achub Morgeisi.

 

Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn nodi’r camau rydym yn bwriadu eu cymryd, ar y cyd â’n partneriaid, er mwyn ymdrin â’r bygythiad i gartrefi pobl yn sgil adfeddiannu tai.

 

Mae nifer y tai sy’n cael eu hadfeddiannu wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.  Maen hyn yn arwydd o’r pwysau ariannol sydd ar lawer o aelwydydd yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Nodais fod angen mynd i’r afael â hyn y llynedd drwy sefydlu gweithgor i bennu’r camau yr oedd angen eu cymryd i liniaru’r broblem.

 

Mae aelodau’r Grŵp Gorchwyl Achub Morgeisi yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Cyngor Benthycwyr Morgeisi, mudiadau ymgynghorol y trydydd sector, Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Cymru, awdurdodau lleol a’r sector cymdeithasau tai.  Mae’r Grŵp wedi arwain y broses o ddatblygu cynllun gweithredu newydd i helpu i atal adfeddiannu tai ymysg perchnogion tai.

 

Bydd y Cynllun Gweithredu Achub Morgeisi yn cynnwys rhaglen weithredu ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid, a bydd yn galw am fesurau ategol i ganiatáu i bobl gadw eu cartrefi lle bo modd.  Pan nad yw hynny’n bosibl, rhaid inni wneud yn siŵr y rhoddir y cymorth a’r cyngor angenrheidiol iddynt symud i gartref arall sy’n bodloni eu hanghenion.

 

Mae’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys mesurau i’w gwneud yn haws cael mynediad at gyngor ynglŷn â dyledion a materion ariannol cysylltiedig; hyfforddiant i wella sgiliau’r staff rheng flaen sy’n darparu’r cyngor hwn; mesurau i sicrhau bod camau cyfreithiol mewn perthynas ag adfeddiannu yn cael eu cymryd pan fetha popeth arall yn unig; a gwneud y defnydd gorau o’n Cynllun Achub Morgeisi i roi help i’r rhai hynny sydd ei angen fwyaf.  Bydd y camau hyn yn cysylltu â’r broses o weithredu’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol, sy’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd.

 

Rydym eisoes wedi ymgynghori’n eang ar Gynllun drafft Deng Mlynedd Cymru ar Ddigartrefedd. Bydd y Cynllun hwn yn pennu ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer ymdrin â digartrefedd, gan gynnwys ein pwyslais ar atal digartrefedd trwy gynnig cyngor a chymorth cynhwysfawr, gwella rheoleiddio, gwella capasiti ariannol pobl, a hwyluso cydgysylltu rhwng asiantaethau i sicrhau bod gan bobl fynediad at ddewisiadau gwahanol mewn perthynas â thai, gan gynnwys gwasanaethau achub morgeisi.