Skip to content

Ysgrifenedig - Y Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffïoedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Bydd yr Aelodau am nodi y caiff y Mesur arfaethedig ynghylch Codi Ffïoedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei osod heddiw, 29 Mehefin 2009. Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn y cyfarfod llawn yfory, 30 Mehefin 2009, i gyflwyno’r Mesur.

Prif swyddogaeth y Mesur arfaethedig yw galluogi a grymuso. Bydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru nodi, mewn is-ddeddfwriaeth ac mewn canllawiau, fanylion fframwaith tecach, mwy cyson i awdurdodau lleol eu mabwysiadu wrth godi ffïoedd ar ddefnyddwyr gwasanaethau unigol am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Bydd hyn yn golygu y caiff yr anghysonderau helaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd ym mholisïau codi ffïoedd awdurdodau lleol eu lleihau’n sylweddol. Bydd yn ffordd o sefydlu system sy’n deg i bob grŵp cleientiaid, mae’n syml i’w ddeall ac yn gost-effeithiol i’w weinyddu a gallai leihau baich ffïoedd ar ddefnyddwyr gwasanaethau.

Bydd y Mesur arfaethedig yn creu darpariaeth annibynnol sy’n rheoli trefniadau codi ffïoedd am wasanaethau cymdeithasol dibreswyl yng Nghymru. Bydd yn diwygio’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol sy’n rheoli trefniadau codi ffïoedd (i’w gweld yn adran 17 Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983) fel mai dim ond i wasanaethau a ddarperir ar ffurf gofal preswyl y bydd yn berthnasol i Gymru. O ran Lloegr, bydd y ddeddfwriaeth bresennol yn parhau fel y mae.

Bydd y Mesur arfaethedig yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth fanylach mewn rheoliadau am y canlynol:

a)     mathau’r gwasanaethau y gellir codi ffïoedd amdanynt neu na ellir codi ffïoedd amdanynt (ee gofal cartref, canolfannau gofal dydd, trafnidiaeth, prydau bwyd, golchi dillad, gwasanaethau adsefydlu);

b)     grwpiau’r cleientiaid y gellir codi ffïoedd arnynt neu na ellir codi ffïoedd arnynt (ee y sawl sy’n derbyn budd-daliadau penodol, gofalwyr, y sawl sydd dros drothwy oedran penodol);

c)      y broses asesu ariannol (gan gynnwys yr hyn y gellir ei ystyried a’r hyn na ellir ei ystyried a lefel ofynnol yr incwm y mae’n rhaid ei adael i ddefnyddwyr gwasanaethau ar ôl codi ffïoedd);

d)     y ffi safonol neu uchaf y gellir ei thalu am wasanaeth unigol neu am unrhyw becyn gwasanaethau i unigolyn;

e)     pennu uchafswm ffi neu amrywiaeth o uchafsymiau ffïoedd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau unigol;

f)        eithriadau o ran codi ffïoedd am wasanaethau rhagnodedig penodol am gyfnod rhagnodedig o amser;

g)     adolygiadau o benderfyniadau ynghylch ffïoedd a gymerir gan awdurdodau lleol.

O dan y Mesur arfaethedig bydd awdurdodau lleol yn parhau i allu pennu ffïoedd o’r fath am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn ôl yr hyn a ystyriant yn rhesymol. Fodd bynnag, bydd cyfyngiadau penodol ar y disgresiwn cyffredinol hwn a gaiff eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Bydd awdurdodau lleol yn parhau i allu penderfynu peidio â chodi ffïoedd o gwbl neu godi’n llai na’r hyn fyddai’n rhesymol o dan y drefn newydd.

Mae’r Mesur arfaethedig hefyd yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am ffïoedd. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod roi gwybodaeth i ddefnyddwyr presennol y gwasanaethau a darpar ddefnyddwyr am y gwasanaethau y codir ffi amdanynt, eu ffïoedd safonol a phrofion modd. Rhaid darparu’r wybodaeth hon yn rhad ac am ddim ac mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch. Lle bydd awdurdod lleol yn penderfynu pennu ffi, mae’r Mesur arfaethedig hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi gwybodaeth i’r sawl y codir ffi arno am y ffi arfaethedig a’r weithdrefn ar gyfer adolygu ffïoedd. Rhaid rhoi’r wybodaeth hon yn rhad ac am ddim hefyd. Bydd hyn yn cyflwyno dull clir a chyson o roi gwybodaeth i ddefnyddwyr am eu ffïoedd a’r ffordd y caiff ceisiadau i’w hadolygu eu trin.