Skip to content

Ysgrifenedig - Dull Strategol o Adfywio – y Cymoedd Gorllewinol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews , y Dirprwy Weinidog dros Adfywio

 

Ers imi gyhoeddi ddiwedd 2008 ein bwriad i ddatblygu Ardal Adfywio Strategol yn y Cymoedd Gorllewinol rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddiffinio sgôp yr Ardal Adfywio Strategol a datblygu rhaglen o weithgaredd adfywio holistaidd sydd wedi’i blaenoriaethu. Gan gadw hyn mewn cof rwyf heddiw’n cyhoeddi ffin yr ardal yng Nghymoedd Gorllewinol De Cymru sy’n  ardal Adfywio Strategol.

 

Mae’r Cymoedd Gorllewinol yn rhan o’r ardal cynllun gofodol a nodwyd fel Bae Abertawe - Y Glannau a’r Cymoedd Gorllewinol. Mae hyn yn uniaethu â’i hanes o ddiwydiant trwm mewn mwyngloddio, dur a chemegau. Heddiw mae’n dal i ddioddef o ddirywiad y diwydiannau hyn ac o ganlyniad mae nifer o’i hardaloedd wedi’u nodi ym Mynegai Amddifadedd Lluosog 2008 Cymru fel rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

 

Yn dilyn sylwadau gan randdeiliaid ynghylch ffin ardal y rhaglen yn y  Cymoedd Gorllewinol, gallaf gadarnhau y bydd yn rhoi ffocws adfywio ar gymunedau o fewn ardal ddaearyddol sy’n ymestyn o Gwm Gwendraeth yn y Gorllewin draw at gymoedd Garw Uchaf ac Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y Dwyrain a thua’r Gogledd i gymuned Ystradgynlais, ac mae’n cynnwys poblogaeth o fewn y ffin hon o 183,690.

 

Mae cynnwys rhan o Gwm Gwendraeth yn Ardal Adfywio Strategol y Cymoedd Gorllewinol yn fesur dros dro er mwyn galluogi datblygiad cyfleoedd adfywio integredig yn y cwm hwnnw, tra bydd perthynas benodol yr ardal ag adfywio parhaus ym Morlan Elli a’r cyffiniau yn cael ei datblygu.

 

Y nod yn y tymor hir yw sicrhau dyfodol cynaliadwy tymor hir drwy ddatblygiad economaidd, gwella lefel sgiliau a chyfleoedd hyfforddi, ysgogi creu swyddi, codi safonau tai, mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, datblygu cysylltiadau trafnidiaeth gwell a hybu’r ansawdd uchaf o ofal iechyd. Bydd rhaglen integredig o weithgaredd adfywio sylweddol yn cael ei gweithredu i sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor  a phartneriaeth ar draws ffiniau, sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant.

 

Mae’r rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector preifat a’r gymuned a’r sector gwirfoddol a bydd yn adeiladu ar seilwaith presennol y gymuned, gan gynnwys y partneriaethau Cymunedau’n Gyntaf sy’n seiliedig yn yr ardal, gan sicrhau bod arfer gorau o ran adfywio yn cael ei rannu a’r manteision yn cael eu lledaenu ar draws y cymoedd.

 

Byddwn hefyd yn sicrhau bod pobl leol yn cael eu cysylltu o ddifrif â’r cyfleoedd o ran adfywio ac y bydd y buddsoddiad o’r rhaglen Ardal Adfywio Strategol yn ychwanegu gwerth i brosiectau sydd eisoes yn bodoli a phrosiectau sydd ar y gweill.