Skip to content

Llafar - Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd a’r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson – y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Ar 25 Mehefin, gwneuthum lansio ein hymgynghoriad ar y 'Strategaeth newid yn yr hinsawdd—Ymgynghoriad ar raglen weithredu’ yng Ngardd Fotaneg Cymru yn sir Gaerfyrddin. Mae newid yn yr hinsawdd yn her aruthrol, ond mae gennym gyfle yng Nghymru i arwain y blaen, gan ddangos sut y gallwn roi’r weledigaeth yn 'Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ ar waith a symud yn benderfynol tuag at ddefnyddio ein cyfran deg yn unig o adnoddau’r Ddaear, a hynny mewn modd sy’n hyrwyddo cymdeithas decach a mwy cyfiawn.

Mae’r ymgynghoriad ar raglen weithredu yn rhoi cynigion manwl ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth o Gymru gynaliadwy, carbon isel. Mae’r cynigion yn cynrychioli cyfanswm buddsoddiad o tua £300 miliwn dros y pedair blynedd ariannol nesaf, ac maent yn dangos pa mor ddifrifol yr ystyriwn ein hymrwymiad i sicrhau gostyngiad o 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn erbyn 2011.

Mae’r ymgynghori’n gosod cynigion ar gyfer polisïau a rhaglenni newydd a fydd yn helpu cyflawni gostyngiadau mewn allyriadau mewn sectorau allweddol ac yn datblygu fframwaith allyriadau i Gymru. Mae’r canlynol ymhlith y camau gweithredu allweddol arfaethedig: arian i gefnogi cynhyrchu egni cymunedol a microgynhyrchu mewn cartrefi; swyddogion datblygu ar gyfer newid yn yr hinsawdd i gymunedau Cymru; cynllun peilot newydd i leihau ôl troed carbon dinasoedd; cyflwyno’r cynllun Trefi Teithio Cynaliadwy; cyngor ynghylch yr amgylchedd a chynaliadwyedd a chefnogaeth i fusnesau drwy’r gwasanaeth Cymorth Hyblyg i Fusnesau; sgiliau busnes ac ymchwil a datblygu economi carbon isel, a wneir drwy weithio mewn partneriaeth, ein strategaeth gyflogaeth, 'Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’, a’r strategaeth arfaethedig swyddi gwyrdd; a llunio siarter newid yn yr hinsawdd ar gyfer cyrff.

Mae’r cynigion newydd hyn yn adeiladu ar sail y camau y mae Llywodraeth y Cynulliad a’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd eisoes yn eu cymryd. Er mwyn ymateb i her newid yn yr hinsawdd a chyflawni’r amcanion uchelgeisiol sydd gennym yn y maes hwn bydd angen cynnal ymdrechion taer a thrawsffiniol, nid yn unig gan bob un o adrannau Llywodraeth y Cynulliad ond gan bobl, gan gymunedau a chyrff ym mhob sector ledled Cymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o roi arweiniad clir o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fel elfen allweddol o roi ein cynllun datblygu cynaliadwy newydd, 'Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’, ar waith. Mae angen i’n harweiniad ddarparu fframwaith a fydd yn annog ac yn grymuso pawb yng Nghymru i chwarae eu rhan parthed mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae llawer o bobl eisoes yn gweithredu ac yn gwneud gwahaniaeth. Er enghraifft, mae i’r trydydd sector rôl hanfodol o ran ymgysylltu ag unigolion a chymunedau lleol. Mae i’r awdurdodau lleol rôl ganolog o ran darparu arweiniad yn lleol a gwneud gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn rhan ganolog o’u gwasanaethau. Mae cyfleoedd i’r sector busnes dorri costau, lleihau allyriadau a datblygu mwy o swyddi gwyrdd drwy droi at economi carbon isel. Bydd y broses ymgynghori’n helpu i ddangos sut y medrwn helpu pobl i wneud mwy.

Yr wyf yn hynod ddiolchgar i Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd am ei gyfraniad pwysig o ran datblygu’r ddogfen ymgynghori ac am ei gefnogaeth barhaus a’i feirniadaeth adeiladol wrth i’r agenda uchelgeisiol hon ar gyfer Cymru fynd rhagddi. Yr wyf hefyd yn falch y bydd Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yn adolygu ei raglen weithredu ac yn rhoi cyngor inni p’un ai a oes mwy o bethau y gallem eu gwneud i gyflawni’r lleihad posibl y mae wedi ei nodi. Credaf fod ein rhaglen weithredu’n cynnig archwiliad trylwyr o’r camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd ar unwaith i leihau allyriadau Cymru, ac yr wyf yn edrych ymlaen at weld yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac at droi’r rheini’n strategaeth gadarn ar gyfer newid yn yr hinsawdd yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn.

Yng nghyfarfod Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a ddilynodd y lansiad, rhoddais ddiweddariad ynghylch gweithgareddau eraill Llywodraeth y Cynulliad yn ogystal â lansio’r rhaglen o ymgynghori ynghylch y camau gweithredu. Daeth yr ymgynghoriad ynghylch y cynllun cenedlaethol effeithlonrwydd ac arbed ynni i ben yn ddiweddar ac mae’r dadansoddiad o’r ymgynghoriad ar waith. Lansiwyd ymgyrch i leihau nifer y bagiau plastig a lansiwyd ymgynghoriad ynghylch cynlluniau i godi tâl am fagiau a ddefnyddir unwaith mewn uwchgynhadledd fawr ar ansawdd yr amgylchedd lleol ddydd Llun, 29 Mehefin. Yr ydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgynghori ynghylch y Mesur rheoli llifogydd a dŵr. Mae dyffryn Afon Dyfi wedi ei henwi’n ardal biosffer gan UNESCO, a dyma’r unig fiosffer yng Nghymru ar hyn o bryd a’r ail yn y Deyrnas Unedig. Bu nifer o ddatblygiadau cyffrous o ran hyfforddiant ac ymchwil ac arddangosiad o dechnolegau carbon isel, a chynhaliwyd cynhadledd fawr ar gyfer pobl ifanc, Cyfri’r Dyddiau cyn Copenhagen, ar 1 Gorffennaf.

Diweddarodd aelodau’r comisiwn eu cydweithwyr ynghylch y camau sydd ar waith yn eu cyrff neu’u sectorau. Rhoes Cerith Jones, un o hyrwyddwyr newid yn yr hinsawdd Cymru, ddiweddariad ynghylch y gweithgareddau y bu’n ymgymryd â hwy, a rhoes gyflwyniad grymus ynglŷn â’r camau yr hoffai eu gweld yn cael eu cyflawni yng Nghymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Bu trafod ynghylch blaenraglen waith y comisiwn, gan gynnwys creu grwpiau gorchwyl a gorffen. Rhoes y comisiwn flaenoriaeth i sefydlu grwpiau i ystyried busnes a thrafnidiaeth, tebyg i’r grwpiau presennol a fu’n ystyried amaethyddiaeth, defnyddio tir a’r amgylchedd adeiledig.

Hefyd cafodd y comisiwn grynodeb o Amcanestyniadau Hinsawdd y Deyrnas Unedig e 2009, a gyhoeddwyd ychydig cyn y cyfarfod. Mae’r amcanestyniadau’n ddarlun plaen o sut y mae hinsawdd Cymru’n debygol o newid o ganlyniad i allyriadau nwyon tŷ gwydr, a byddant yn arf hwylus ar gyfer sicrhau y byddwn y ymaddasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bu’r comisiwn yn trafod ei ran yn yr ymgynghoriad ynghylch y rhaglen waith. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori sectoraidd a chyffredinol i sicrhau y byddwn yn ymgysylltu â’r trawsdoriad ehangaf posibl o gymdeithas Cymru. Bydd y comisiwn yn chwarae rhan allweddol yn y digwyddiadau hynny.

Hefyd bu’r comisiwn yn trafod datblygu prosiect i ystyried y polisïau y byddai eu hangen i gyflawni gostyngiadau blynyddol mewn allyriadau a fyddai’n fwy na 3 y cant. Bydd y prosiect hwnnw’n bwysig o ran sicrhau na fydd y camau a gymerwn yn awr yn ein hatal rhag dilyn llwybrau at y dyfodol a fyddai’n golygu mwy fyth o ostyngiadau mewn allyriadau.