Skip to content

Llafar - Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Ymchwiliad E. coli

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru

 

Gwneuthum ddatganiad i’r Cynulliad ar 24 Mawrth, yn syth ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Athro Hugh Pennington ar yr ymchwiliad cyhoeddus i’r achos o E. coli O157 yng Nghymoedd y de yn 2005. Addewais bryd hynny y byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried yn fanwl a byddwn yn ymateb yn fwy cyflawn cyn gynted â phosibl. Dyna bwrpas y datganiad hwn heddiw.

Gosododd yr Athro Pennington y cyfrifoldeb am yr haint yn blwmp ar ysgwyddau William Tudor, y gweithredwr busnes bwyd, a phwysleisiodd yr egwyddor fod y prif gyfrifoldeb am ddiogelwch bwyd yn gorwedd gyda’r busnesau sy’n ymwneud â pharatoi, storio a gwerthu bwyd. Yr oedd mannau lle cafwyd ymateb cyflym ac effeithiol gan y systemau a’r bobl dan sylw, ond canolbwyntiwyd y sylw’n anochel ar y mannau hynny lle canfuwyd beiau.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 24 o argymhellion penodol, ond rhaid inni beidio â cholli golwg ar gasgliad cyffredinol yr Athro Pennington y dylasai’r gofynion hylendid bwyd a fodolai ar adeg yr haint fod yn ddigon i’w atal. Fel sy’n digwydd mor aml, nid y systemau sydd ar fai, ond pa mor dda neu wael y mae’r systemau hynny’n gweithio sy’n gwneud y gwahaniaeth. Nid yw arolygwyr da o reidrwydd yn rhai da am dicio blychau, ac nid yw ticwyr blychau da o reidrwydd yn arolygwyr da. Felly rhaid canolbwyntio hyfforddiant ar wahaniaethu rhwng yr hyn sydd yn arfer drwg a allai beryglu bywyd a’r hyn sydd yn ddim ond mân gamwedd yn y drefn. Mae hynny’n golygu gosod blaenoriaethau da a chanfod sut y gall arolygwyr ifanc fagu arbenigedd yn gyflym a sut y gall arolygwyr profiadol loywi eu gwybodaeth am y gweithdrefnau neu’r wyddor.

Felly mae’r argymhellion yn adlewyrchu’r hyn y mae angen ei wella, ei dynhau neu ei atgyfnerthu. Yn y rhan fwyaf o achosion, cyfeirir yr argymhellion hyn at gyrff a gwasanaethau y tu allan i Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r argymhellion hynny’n ymdrin â meysydd cynnal ac archwilio arolygon hylendid bwyd mewn lladd-dai a busnesau bwyd eraill, sy’n gyfrifoldeb ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ynghyd â’i hasiantaeth weithredol, y Gwasanaeth Hylendid Cig, ac awdurdodau lleol. Mae’r argymhellion yn ymdrin hefyd â systemau cyfathrebu yn y gwasanaethau iechyd a gofal, sy’n cynnwys y gwasanaeth iechyd gwladol cyhoeddus, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol; hylendid mewn ysgolion, sy’n gyfrifoldeb ar lywodraethwyr ysgolion a phrifathrawon, gan gydweithio ag awdurdodau lleol; ac, yn olaf, dysgu mwy am sut i ganfod a chyfyngu effeithiau E.coli O157 mewn gwartheg, yn enwedig dirgelwch yr anifeiliaid sy’n uwchdywalltwyr. Meysydd technegol a milfeddygol yw’r rhain sy’n galw am ymgynghori â’r Asiantaeth Diogelu Iechyd ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sy’n rhan o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Gwyddom yn barod fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn adolygu’r modd y defnyddir offer megis peiriannau pacio dan wactod ar gyfer cynnyrch amrwd ac wedi’i goginio ac yn ystyried a ddylid parhau â hynny. Yn y cyfamser, bydd swyddogion gorfodi’n sicrhau bod gweithdrefnau glanhau cwbl effeithiol wedi’u sefydlu, ac y glynir yn gaeth at egwyddorion dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol (HACCP). Mae proses archwilio cynllun HACCP busnes ar gyfer hylendid bwyd yn cael ei hadolygu i’w thynhau lle bo angen. Mae hyfforddiant arolygwyr a’u rheolwyr dan y chwyddwydr hefyd, gyda’r nod o’i wneud yn fwy cynhwysfawr, a fydd yn eu helpu i ddatblygu greddf ynghylch yr hyn sydd â’r potensial i fod yn drychinebus yn nhermau diogelwch bwyd. Cynhelir arolygon heb rybudd oni bai fod gofyniad clir fel arall.

O ran awdurdodau lleol, mae ein swyddogion yn cydweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd yng Nghymru i sicrhau y rhoddir sylw llawn i bob argymhelliad. Anogir awdurdodau lleol hefyd i ddal i gynnal profion yn ystod arolygon diogelwch bwyd i ganfod pa mor dda y mae gweithwyr busnesau bwyd yn deall y ffyrdd cywir o ddefnyddio offer glanweithdra ac i gynnig cyngor i fusnesau a’u staff am welliannau. Mae hynny’n elfen arall mewn arolwg a all fod yn sefydlog neu’n ddirybudd.

Er na chyfranasant at yr achosion, mae safonau newydd ar gyfer toiledau ysgol yn cael eu datblygu yng nghyswllt glanweithdra, cyflwr a phreifatrwydd cyfleusterau. Maent wedi eu bwriadu ar gyfer cyrff llywodraethu ysgol, penaethiaid ysgol ac awdurdodau lleol, gyda’r amcan o sicrhau lefel gyson o hylendid a fydd yn cyfrannu at well darpariaeth o gyfleusterau toiled mewn ysgolion ledled Cymru.

Mae’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru’n adolygu eu polisïau, eu gweithdrefnau a’u systemau yng ngoleuni adroddiad Pennington. Rhoddaf ddatganiad ysgrifenedig am ein dadansoddiad o’r 22 adolygiad hynny, pan fydd gennym atebion sy’n dangos bod pob un ohonynt wedi ei gwblhau. Ar wahân i’r cyfrifoldebau sy’n perthyn yn uniongyrchol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau lleol, mae’r systemau ar gyfer caffael bwyd i gyrff sector cyhoeddus yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a hefyd gan awdurdodau lleol yn unigol ac ar y cyd, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae asiantaethau iechyd a gofal hefyd yn ailedrych ar eu gweithdrefnau cyfathrebu y tu allan i oriau arferol, fel yr argymhellwyd, i sicrhau eu bod wedi eu rhoi dan brawf a’u bod yn gweithio yn ôl yr angen. Mae’r dulliau gwyddonol o adnabod E. coli O157 a’r gwartheg sy’n fwyaf tueddol o’i ledaenu—y 'super-shedders’, fel y’u gelwir—yn cael eu harchwilio i weld a ellir datblygu gwell dulliau o adnabod yr anifeiliaid hyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio cyngor technegol a milfeddygol ar y materion hyn.

Gwnaeth yr adroddiad ddau argymhelliad a gyfeiriwyd yn uniongyrchol at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Y cyntaf oedd

'y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried fy argymhellion a monitro a chofnodi cynnydd ar eu gweithredu’.

 Y llall oedd 'y dylid darparu adnoddau ychwanegol i sicrhau bod yr holl fusnesau bwyd yng Nghymru’n deall ac yn defnyddio’r dull HACCP a bod system rheoli diogelwch bwyd ar waith ganddynt sy’n effeithiol, yn ddogfennol ac wedi ei gwreiddio yn niwylliant ac arferion eu gwaith’.

Mae dau argymhelliad arall sydd hefyd yn effeithio i ryw raddau ar Lywodraeth y Cynulliad. Y cyntaf yw bod 'yn rhaid i fusnesau sy’n gwneud contractau ar gyfer cyflenwi bwydydd risg uchel, fel cigoedd amrwd a rhai wedi eu coginio, i gyrff sector cyhoeddus fod yn ddarostyngedig i archwiliadau annibynnol o hylendid bwyd’.

Yr ail yw 'y dylai adolygiad sylweddol o orfodi ar hylendid bwyd yng Nghymru ddigwydd tua phum mlynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad hwn’.

Dylai pawb sy’n gysylltiedig egluro’r gwelliannau a’r mesurau diogelwch sydd wedi eu rhoi ar waith eisoes ers yr achosion yn 2005, a’r meysydd hynny lle y mae angen cymryd camau pellach. Bydd yr adrannau perthnasol yn rhoi adroddiadau i’r Cabinet ar y camau gweithredu gan Lywodraeth y Cynulliad.

I gloi, datganaf eto ein cydymdeimlad â phawb o’r rheini yr effeithiodd yr achosion o E. coli arnynt, ac yn benodol teulu Mason Jones a oedd yn bum mlwydd oed, a fu farw o ganlyniad i hyn. Mae adroddiad ymchwiliad Pennington yn waith rhagorol, ac mae wedi taflu goleuni ar y meysydd hynny lle’r oedd diffygion yn amlwg a lle’r oedd camgymeriadau wedi eu gwneud. Mae’n ein helpu i wneud popeth yn ein gallu i leihau’r perygl o gael camgymeriadau o’r fath yn y dyfodol. Mae’r camau gweithredu hynny’n gyfrifoldeb i amryw o gyrff, a ninnau’n un ohonynt, ond bod Llywodraeth y Cynulliad yn ymwneud yn bennaf â sicrhau y bydd yr ymdrechion hynny’n cael eu cynnal a’u cydgysylltu. Yr wyf yn gobeithio iddi fod yn bosibl dangos, y prynhawn yma, fod y broses hon wedi cychwyn eisoes, er ei bod ymhell o fod wedi ei chwblhau.