Skip to content

Ysgrifenedig - Deddfwriaeth i ganiatáu i dalwyr y dreth gyngor a threthdalwyr annomestig ddewis i dderbyn eu biliau a hysbysiadau eraill yn electronig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Yr wyf yn ysgrifennu i’ch hysbysu am fy mhenderfyniad i wneud deddfwriaeth sy’n gymwys i Gymru er mwyn caniatáu i’r awdurdodau bilio a Gweinidogion Cymru anfon biliau a rhai hysbysiadau penodol sy’n ymwneud â’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn electronig os yw’r trethdalwr wedi cytuno i’w derbyn yn electronig. Bydd yn rhaid parhau i ddosbarthu gwysion mewn perthynas â pheidio â thalu ardrethi annomestig neu’r dreth gyngor ar bapur. 

 

Yr wyf yn ceisio cytundeb Llywodraeth y DU (yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol) i wneud y ddeddfwriaeth hon gan fod hynny’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth sylfaenol (Deddf Cyfathrebu Electronig 2000).

 

Fy mwriad yw gwneud y ddeddfwriaeth drwy’r weithdrefn penderfyniad negyddol a hynny erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Bydd hyn yn cynnig mwy o ddewis i drethdalwyr lleol o ran derbyn hysbysiadau gan awdurdodau lleol, gan felly sicrhau arbedion gweinyddol i’r awdurdodau lleol.