Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Chwefror 2008, rwy’n falch iawn o fedru rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y datblygiadau mewn perthynas ag amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed yng Nghymru.
Yn fy natganiad blaenorol pwysleisiais nad mater i Lywodraeth Cynulliad Cymru, darparwyr gwasanaethau, awdurdodau statudol, cyrff rheoleiddio neu’r heddlu yn unig oedd mynd i’r afael â cham-drin oedolion. Mae gan bob dinesydd a sefydliad rôl allweddol i’w chwarae o ran amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed rhag cael eu cam-drin lle bynnag a phryd bynnag y bydd hynny’n digwydd. Ni allwn fod yn hunanfodlon a bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed.
Ym mis Mawrth 2009, gosodwyd y contract ar gyfer cynnal adolygiad annibynnol o ‘Mewn Dwylo Diogel’ sef y prif ganllawiau sydd gennym ar amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed ynghyd â’r trefniadau sydd yn eu lle ledled Cymru ar lefel leol a chenedlaethol. Dyfarnwyd y contract i Brifysgol Morgannwg a disgwylir eu hadroddiad terfynol yn yr Hydref. Rwy’n disgwyl y bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r Canllawiau Statudol a ddaw ar ôl i ni ystyried argymhellion yr adroddiad, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.
Er mai nod cyffredinol yr adolygiad yw ystyried ac asesu effeithiolrwydd, priodoldeb a chadernid parhaus y canllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’, rydym hefyd wedi gofyn i ymchwilwyr edrych yn benodol ar y sail statudol bresennol ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru ac ystyried a chynnig argymhellion ar yr angen am ddeddfwriaeth newydd. Rwy’n ymwybodol bod galwadau am ddeddfwriaeth newydd yn y maes ac rwy’n fodlon ystyried yr angen i ddwyn ymlaen gynigion newydd ar gyfer y ddeddfwriaeth o fewn fframwaith y pwerau sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru, lle y mae tystiolaeth glir yn dangos nad yw’’r ddeddfwriaeth bresennol yn ddigonol ar gyfer amddiffyn pobl nad ydynt yn gallu amddiffyn eu hunain yn ddigonol.
Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ddiwygio a diweddaru’r canlalwiau ‘Mewn Dwylo Diogel’ yn ôl yr angen. Ym mis Ebrill 2009, cyhoeddwyd atodiad newydd gennym wedi’i anelu at geisio mynd i’r afael â’r posibilrwydd bod pobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain yn cael eu cam-drin yn ariannol. Maes o law byddwn yn ymgynghori ar y gwaith o ddiweddaru’r canllawiau ar rôl yr Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Cymru o ran amddiffyn oedolion er mwyn adlewyrchu rôl ehangach yr arolygiaeth.
Yr wyf wedi ehangu a chryfhau aelodaeth y Bwrdd Prosiect Amddiffyn Oedolion, a phennwyd yr aelodaeth wreiddiol a’r cylch gorchwyl gwreiddiol yn natganiad mis Chwefror. Mae’r aelodaeth bellach yn cynnwys Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gofal Cymdeithasol Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Anabledd Dysgu Cymru ac Age Concern Cymru. Mae’r Bwrdd Prosiect wedi cwrdd yn rheolaidd dros y 14 mis diwethaf ac ymhlith pethau eraill y mae:
- wedi cyfrannu at ddatblygiad y fanyleb dendro ar gyfer yr adolygiad annibynnol o’r canllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’; wedi cymryd rhan yn y broses asesu tendrau ac mae wedi’i gynrychioli ar grŵp llywio’r contract sy’n goruchwylio gwaith adolygu Prifysgol Morgannwg.
- wedi ystyried a chynnig sylwadau ar y drafft cyn ymgynghori o’r canllawiau ar y Pryderon Cynyddol ynghylch Cartrefi Gofal a gyhoeddwyd gennym ar 13 Mai 2009. Mae’r canllaw strategol hwn yn mynd i’r afael â rheoli pryderon cynyddol ynghylch cartrefi gofal ynghyd â chau’r cartrefi gofal hynny, gan gynnwys y rhai sy’n darparu gofal nyrsio. Mae’r canllawiau yn cydnabod bod y weithred o gomisiynu a chaffael lleoliadau unigol mewn cartref gofal cofrestredig yn rhoi dyletswydd gofal ar yr awdurdodau sy’n dyfarnu’r contract i fod yn rhagweithiol o ran monitro’r gwaith o gyflawni’r gwasanaeth, diogelwch a pherfformiad y darparwyr gofal a rheolwyr.
- wedi ystyried a rhoi argymhellion ar gyfer gwneud newidiadau i’r mesurau ar amddiffyn oedolion sydd i’w gweld yn y gyfundrefn safonau gofynnol cenedlaethol a rheoleiddiol ar gyfer cartrefi gofal yn Neddf Safonau Gofal 2000.
- wedi ystyried y rôl y gallai’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd ei chwarae o ran cefnogi’r gwaith o gyflenwi’r trefniadau lleol ar gyfer amddiffyn oedolion yn effeithiol.
- wedi ystyried y trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer cofrestru nyrsys o dramor.
- wedi ystyried pa rôl y gall ein rhaglen newydd ‘Urddas a Pharch mewn Gofal’ ei chwarae i amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin.
Eleni bydd gwaith y Bwrdd Prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar rôl y GIG yn y trefniadau lleol ar gyfer amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed. Yn ddiweddarach yn 2009 bydd gan y Bwrdd Prosiect rôl allweddol yn y gwaith o ystyried adroddiad terfynol yr adolygiad annibynnol o’r canllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’ ynghyd ag unrhyw ganfyddiadau sy’n deillio o waith arolygu AGGCC ar amddiffyn oedolion a chynnig argymhellion i’r Gweinidog arnynt. Un agwedd bwysig ar waith y Grŵp fydd ystyried a oes angen cryfhau unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed. Mae Amddiffyn Oedolion hefyd wedi’i gynnwys yng nghwmpas adolygiad y Comisiwn Cyfreithiol o Gyfraith Gofal Cymdeithasol Oedolion a ddechreuwyd yn ddiweddar a disgwylir iddynt baratoi adroddiad yn 2011.
Yn ddiweddarach eleni bydd AGGCC yn dechrau ar eu harolygiad thematig o amddiffyn oedolion yng Nghymru a bydd yn darparu adroddiad ar eu canfyddiadau ar ddechrau 2010. Bydd y dystiolaeth a ddaw o’r arolygiad hwn hefyd yn cael ei defnyddio i ddarparu gwybodaeth ar gyfer ystyried ein trefniadau ar gyfer amddiffyn oedolion a pholisïau a chanllawiau eraill gan gynnwys y Broses Asesu Unedig.
Mae diogelu oedolion sydd mewn perygl yn gofyn am ymrwymiad penodol gan uwch swyddogion ac aelodau sydd wedi’u hethol yn yr awdurdodau lleol, ac mae’n rhaid rhoi’r sylw sy’n ddyledus i’r mater. Mae ein Canllawiau ar Rôl ac Atebolrwydd Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cyhoeddus a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2009 yn rhoi cyfrifoldebau penodol ar Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r trefniadau ar ddiogelu oedolion ac adrodd.
Byddaf yncyflwyno adroddiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad erbyn Gwanwyn 2010 ar ein hymateb i’r adolygiad annibynnol o’r canllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’ a’n hymateb i unrhyw ganfyddiadau a ddaw yn sgil arolygiad AGGCC ar amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed ynghyd â fy marn i o ran yr angen am ddeddfwriaeth newydd. Wrth i drefniadau’r dyfodol ar gyfer Amddiffyn Oedolion gael eu hadolygu a’u harolygiad, mae’n hanfodol bwysig bod yr holl gyrff statudol yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i drefniadau Amddiffyn Oedolion er mwyn sicrhau eu bod yn parhau yn effeithiol ar gyfer amddiffyn pobl sy’n agored i niwed rhag cael eu cam-drin.