Skip to content

Ysgrifenedig - Trefniadau pontio o dan Echel 2 o Gynllun Datblygu Gwledig 2007-13 sy'n gysylltiedig â lansio'r cynllun Glastir newydd.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Ar 5 Mai 2009, cyhoeddais fy mod wedi penderfynu ailstrwythuro'r cynlluniau amaeth-amgylcheddol yng  Nghymruar ôl adolygu gwariant Echel 2 o dan y Cynllun Datblygu Gwledig.

 

Bydd y cynigion ar gyfer Glastir,  y Cynllun newydd i Reoli Tir yn Gynaliadwy yng Nghymru, yn disodli'r cynlluniau presennol, sef  Tir Mynydd, Tir Gofal, Tir Cynnal a'r cynllun Ffermio Organig. Bydd yn fodd i annog mwy o ffermydd i gymryd rhan yn y cynllun Gwell Coetiroedd i Gymru. Bydd hefyd yn ein galluogi i ymateb yn well i'r heriau newydd amgylcheddol y mae archwiliadau iechyd y PAC wedi'u hamlinellu a lleihau biwrocratiaeth o du'r ffermwyr.

 

Fy mwriad i yw y dylai'r newid i gynllun Glastir wneud yn siŵr, lle bynnag y bo'n bosibl, fod y buddiannau amgylcheddol sylweddol sydd eisoes wedi'u sicrhau drwy'r buddsoddiad gan y llywodraeth a chan ffermwyr yn y cynlluniau blaenorol yn cael eu cynnal.  Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod y gymuned ffermio'n sefyllfa orau i addasu i'r cyfleoedd y mae Glastir yn eu cynnig fel ag y maent yn newid.

 

O ystyried y ddau amcan hwn, rwyf wedi penderfynu y bydd deiliaid presennol cytundebau Tir Cynnal a Thir Gofal yn cael cynnig estyniad i'w taliadau rheoli blynyddol tan ddiwedd 2013.  Bydd y ffermwyr yn y cynlluniau hyn hefyd yn gallu ymuno â chynllun newydd Glastir drwy ddewis opsiynau sy'n ategu'r gwasanaethau amgylcheddol y mae'r cynlluniau hyn yn eu darparu ar hyn o bryd.

 

Bydd deiliaid y cytundebau presennol yn y cynllun Ffermio Organig hefyd yn gallu ymuno â Glastir pan ddaw eu contract presennol i ben.  Bydd pob daliad sydd wedi'i ardystio'n gwbl organig yn gymwys i gael gostyngiad o 50% ar y pwyntiau sydd eu hangen i ymuno â'r cynllun, hynny i gydnabod y manteision amgylcheddol sy'n deillio o'u statws organig.  Bydd cronfa ar gyfer troi'n organig hefyd yn rhan o gynllun Glastir.  Bydd deiliaid y cytundeb sy'n dymuno troi at ddull organig o ffermio neu droi tir ychwanegol yn organig yn gallu gwneud cais am arian o'r gronfa hon. 

 

Rwyf hefyd yn bwriadu rhoi help ariannol i ffermwyr ar gyfer troi mwy o dir yn organig yn y cyfnod interim cyn i Glastir ddechrau.  Rwyf wedi neilltuo £2.8 miliwn yn ystod 2010-12 i gefnogi'r ffermwyr hynny sydd am droi'n organig yn ystod y cyfnod hwn.   Dim ond ar gyfer tir nad yw'n cael ei droi'n organig ar hyn o bryd y bydd yr arian hwn ar gael a rhaid i'r ffermwyr fod wedi cael cynnig ffurfiol o gytundeb.  

 

Dim ond yn ystod y cyfnod 2 flynedd hwn y caiff cymorth ariannol ei gynnig a chaiff manylion ynghylch sut i wneud cais amdano eu cyhoeddi cyn bo hir.

 

Bydd pob ffermwr sy'n cael arian ar gyfer Tir Mynydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael y premiwm o 20% p'un a ydynt hefyd wedi cael estyniad ar drefniant presennol ar gyfer Tir Gofal neu Dir Cynnal.  Bydd modd i ffermwyr organig yng nghynllun Tir Mynydd hefyd gael y premiwm o 20% os ydynt yn gymwys i gael gostyngiad ar y pwyntiau sydd eu hangen i ymuno â Glastir.

 

Rwy'n credu bod y cynigion hyn yn rhoi gwerth am arian o ran gwneud yn siŵr y bydd y canlyniadau amgylcheddol hyn yn parhau i gael eu sicrhau a bod y rheiny sydd am ymuno â Glastir yn gallu gwneud hynny'n ddidramgwydd.