Skip to content

Ysgrifenedig - Y Diweddaraf am yr Adolygiad o Fiwrocratiaeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Ym mis Ionawr 2008, cyhoeddais y byddai adolygiad o Fiwrocratiaeth yn cael ei gynnal gyda golwg ar leihau’r baich biwrocrataidd ar y diwydiant ffermio. Penodais Peredur Hughes, cyn-Lywydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, yn gynghorydd allanol yr Adolygiad. Yng ngwanwyn 2008, sefydlwyd grŵp o randdeiliaid yr Adolygiad o Fiwcrocratiaeth; ymhlith ei aelodau mae cynrychiolwyr o undebau’r ffermwyr, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr Awdurdodau Lleol a Chynlluniau Gwarant Fferm. Ffurfiwyd y Grŵp i helpu i ganfod cyfleoedd i leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant ffermio, i flaenoriaethu’r meysydd y dylid eu hystyried ac i helpu i roi’r rhain ar waith.

 

Nid oes terfyn amser i’r Adolygiad; mae’n ymrwymiad parhaus i sicrhau bod lleihau biwrocratiaeth yn cael ei brif-ffrydio o fewn y gweithgareddau y mae’r Adran Materion Gwledig yn ymgymryd â nhw o ran polisi ac o ran materion gweithredol a chyflenwi.  Heddiw rwyf wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd yn amlinellu’r datblygiadau a wnaed ar yr Adolygiad o Fiwrocratiaeth.