Skip to content

Ysgrifenedig - Ffliw Moch A H1N1v

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr achosion o Ffliw Moch A (H1N1v) a’r datblygiadau diweddaraf yng Nghymru ac ar draws y DU.

 

Ar 2 Gorffennaf, ysgrifennais at yr Aelodau yn eu hysbysu y byddem, oherwydd y cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o ffliw moch mewn rhannau o’r DU, yn symud o’r cam rheoli i’r cam trin. Golyga hyn ein bod yn rhoi’r gorau ar unwaith i olrhain cysylltiadau, cymryd camau ataliol a chadarnhau achosion mewn labordai.

 

Wrth symud i’r cam trin hwn, byddwn yn cyflwyno ffyrdd newydd o gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am ffliw moch. Rydym yn awr yn dibynnu ar symptomau clinigol yn hytrach na phrofion labordy i wneud diagnosis o’r salwch, ond byddwn yn parhau i brofi rhai cleifion er mwyn monitro a chael rhagor o wybodaeth am y feirws.

 

Byddwn yn newid i set wahanol o ddata a fydd yn rhoi darlun llawnach o ledaeniad ffliw moch. Hyd yma, rydym wedi bod yn paratoi adroddiadau dyddiol i’r rhanddeiliaid a’r cyfryngau ac yn eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Byddwn bellach yn cyhoeddi adroddiad wythnosol.

 

Bydd yr adroddiad wythnosol newydd – sy’n dechrau yfory (16 Gorffennaf) ac a gyhoeddir bob dydd Iau yn yr un modd â gweddill y DU – yn cynnwys:

 

·        Cyfraddau’r galwadau i linell gymorth Galw Iechyd Cymru ynglŷn â symptomau tebyg i annwyd neu ffliw;

·        Yr ystadegau diweddaraf am nifer yr achosion o ffliw y bu meddygon teulu’n ymdrin â hwy dros y 7 diwrnod blaenorol yng Nghymru, fesul ardal Grŵp Cydlynu Strategol a Bwrdd Iechyd Lleol ac yn ôl grŵp oedran a rhyw; ac amcangyfrif o’r niferoedd gwirioneddol;

·        Adroddiad cofnodi ffliw, yn yr un fformat â’r adroddiadau am ffliw arferol y gaeaf, gan gynnwys data o bractisau meddygon teulu dethol a samplau o labordai;

·        Niferoedd yr achosion a gadarnhawyd mewn labordai a’r samplau a brofwyd yr wythnos honno;

·        Nifer yr achosion a gadwyd yn yr ysbyty a’r marwolaethau; a,

·        Sylwadau gan y Prif Swyddog Meddygol a’r Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn dehongli’r data.

 

Er mai wythnosol fydd yr adroddiadau a gyhoeddir gan Lywodraeth y Cynulliad, bydd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn parhau i ddiweddaru ei wefan yn ddyddiol.

 

Mae symud i’r cam trin yn ei gwneud yn anodd darparu ystadegau cywir am nifer yr achosion newydd o ffliw moch. Fodd bynnag, gwyddom fod dros 9,700 achos wedi’u cadarnhau mewn labordai yn y DU. Mae 17 person wedi marw o effeithiau’r feirws yn y DU. Roedd problemau iechyd difrifol eraill gan fwyafrif llethol y cleifion hyn, ond rydym bellach yn gweld marwolaethau ym mhlith cleifion a oedd heb unrhyw broblem iechyd arall hysbys.

 

Yng Nghymru, mae 66 achos o ffliw moch wedi’u cadarnhau mewn labordai. Cadwyd 9 claf yn yr ysbyty, ond mae 7 o’r rheiny wedi’u rhyddhau erbyn hyn. Mae cynllun ffliw’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, sy’n cofnodi adroddiadau am ddiagnosis o ffliw mewn 300 practis meddygon teulu ledled Cymru, yn dangos lefelau isel ond cynyddol o weithgarwch ym mhob rhan o Gymru. Yn adroddiad 13 Gorffennaf, amcangyfrifwyd bod meddygon teulu wedi gwneud diagnosis o 19.5 achos tebyg i ffliw ar gyfer pob 100,000 unigolyn yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i 585 o bobl yn cysylltu â’u meddyg teulu dros y 7 diwrnod diwethaf gyda symptomau tebyg i ffliw. Yn Ne Cymru y cafwyd y cyfraddau uchaf.

 

Fel yr adroddais o’r blaen, mae brechlyn ar gyfer feirws ffliw moch A/H1N1 yn cael ei ddatblygu i’w ddefnyddio yn y DU. Oherwydd yr amser a gymer y broses o weithgynhyrchu a chyflenwi brechlynnau, bydd angen blaenoriaethu’r gwaith. Rydym felly’n cydweithio’n agos ag adrannau iechyd eraill y DU i gytuno ar ddull cyffredin o weithio. Mae manylion terfynol y strategaeth imiwneiddio’n cael eu cwblhau a chânt eu trosglwyddo i’r gwasanaeth cyn bo hir.

 

O ran cyffuriau gwrthfeirysol, cyhoeddodd y Prif Swyddog Meddygol ganllawiau i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar 3 Gorffennaf, gan gynnwys crynodeb o’r camau i feddygon eu dilyn wrth drin grwpiau blaenoriaethol a defnyddio proffylacsis a chyffuriau gwrthfeirysol. Roedd y llythyr hefyd yn rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio Oseltamivir (Tamiflu) gyda phlant o dan 1 oed, yn unol ag argymhellion yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a gymeradwywyd gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhyddhau cyffuriau gwrthfeirysol o’r cyflenwad cenedlaethol i’w rhoi i’r Byrddau Iechyd Lleol ac mae’n datblygu system i gyflenwi’r cyffuriau gwrthfeirysol i fferyllwyr cymunedol. Gallaf sicrhau Aelodau’r Cynulliad hynny sydd wedi mynegi eu pryderon bod ein system ni’n cynnwys rhagofalon i leihau’r perygl o dwyll o ran cael gafael ar y cyffuriau gwrthfeirysol a chymhwysedd i gael y brechlyn yn y dyfodol.

 

Hoffwn ddiolch unwaith yn rhagor i staff y GIG - gan gynnwys staff Galw Iechyd Cymru - am ymateb mewn ffordd mor effeithiol ac effeithlon wrth reoli ffliw moch. Bydd meddygfeydd ac ysbytai’n dod o dan bwysau cynyddol dros yr wythnosau nesaf. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r straen ar y gwasanaethau iechyd lleol. Os yw pobl yn meddwl bod ffliw moch arnynt, dylent fynd ar-lein a gwirio’u symptomau ar www.nhs.uk neu ffonio’r llinell gymorth Ffliw Moch ar 0800 1513 513. Os ydynt yn dal yn bryderus dylent ffonio’u meddyg teulu i gael diagnosis dros y ffôn.

 

Er mai ysgafn yw symptomau’r feirws hwn yn y rhan fwyaf o achosion, bydd rhai pobl yn mynd yn ddifrifol wael ac, yn drist iawn, yn marw. Fel rydym wedi’i egluro ers i’r pandemig hwn ddechrau, mae marwolaethau ychwanegol yn digwydd ar adeg y ffliw tymhorol arferol ac, yn anffodus, rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd gyda’r feirws ffliw pandemig hwn hefyd. Wrth i nifer yr achosion gynyddu yng Nghymru rhaid inni fod yn barod am adroddiadau o salwch difrifol a marwolaethau. Byddwn yn parhau i fonitro effaith y salwch hwn ac yn addasu’r camau gweithredu a’r canllawiau yng ngoleuni’r dystiolaeth newydd a ddaw i’r amlwg.

 

Byddaf yn parhau i adrodd yn rheolaidd i’r Cynulliad ynglŷn â’r materion hyn, a byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r sefyllfa yn ystod toriad yr haf.