Skip to content

Llafar - Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Cyngor Ynys Môn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei arolygiad llywodraethu corfforaethol o Gyngor Sir Ynys Môn.

Mae’r arolygiad yn disgrifio cyngor lle nad yw’r prosesau gwleidyddol yn gweithio’n effeithiol a lle nad ydynt wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer. Nid wyf yn fodlon goddef y methiannau hyn a byddaf yn derbyn argymhelliad yr archwilydd cyffredinol i ymyrryd er mwyn sicrhau bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu’n llawn.

Yr oedd yr arolygiad yn dilyn argymhelliad am arolygiad llywodraethu corfforaethol ehangach a wnaethpwyd yn llythyr blynyddol archwilydd penodedig y cyngor, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Yr oedd darllen y llythyr hwnnw’n brofiad anghysurus. Daeth i’r casgliad nad oedd y cyngor wedi cymryd camau effeithiol i ymateb i lawer o argymhellion blaenorol a wnaethpwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Yn benodol, ar lefel gwasanaeth, nid yw’r awdurdod wedi gwneud cynnydd rhesymol yn erbyn amrywiaeth o gamau gwella. Aseswyd bod y rheolaeth gorfforaethol yn wan, ac yr oedd hynny’n cael effaith gyfyngol sylweddol ar allu’r cyngor i gynnig gwell gwasanaethau. Yr oedd yn ymddangos na cheid arweinyddiaeth wleidyddol nac arweinyddiaeth reolaethol unedig, ac yr oedd yr anawsterau yn y berthynas waith rhwng rhai aelodau gweithredol ac uwch-swyddogion yn cael effaith andwyol ar allu’r cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau gwerth gorau. Am y rhesymau hyn, argymhellwyd y dylai’r archwilydd cyffredinol gynnal arolygiad o lywodraethu corfforaethol y cyngor.

Mae’r arolygiad llywodraethu corfforaethol yn cael ei gyhoeddi heddiw, a’r arolygiad yw canlyniad y gwaith pellach hwnnw. Mae’r archwilydd cyffredinol wedi casglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd. Yn fy marn i, mae’r casgliadau a gyflwynir gan yr arolygiad yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Maent yn adlewyrchu barn dinasyddion, aelodau etholedig a swyddogion.

Croesawaf gyhoeddi adroddiad yr arolygiad, ond gresynaf yn fawr at ei ganfyddiadau. Bydd y rheini sydd wedi cael cyfle i astudio’r ddogfen yn cytuno nad oes cynsail iddi o ran natur ei beirniadaeth o’r cyngor. Mae’r adroddiad yn derbyn, fodd bynnag, bod nodweddion da ym mherfformiad llawer o wasanaethau.

Rhoddaf deyrnged i’r staff ymroddedig sydd wedi llwyddo i sicrhau hynny dan amgylchiadau anodd.

Mae’r feirniadaeth yn wahanol i’r hyn yr ydym wedi’i weld yn ddiweddar mewn adroddiadau eraill, gan ei bod yn canfod bod methiannau amlwg yn llywodraethu corfforaethol y cyngor yn hytrach nag mewn gwasanaethau. Er hynny, mae’r rhagolygon ar gyfer darparu gwell gwasanaethau i’r dyfodol ymhell o fod yn gadarnhaol, yn enwedig yn y cyfnod ariannol heriol sydd o’n blaenau, ac wrth ystyried yr heriau penodol y mae ynys Môn yn eu hwynebu.

Yn gyffredinol, daw’r adroddiad i’r casgliad bod y cyngor wedi methu cydymffurfio ag Adran I Deddf Llywodraeth Leol 1999 a’i fod yn parhau i fethu gwneud hynny. Mae hynny’n golygu nad ydoedd, ac nad ydyw, yn gwneud trefniadau digonol i sicrhau gwelliant parhaus. Mae hwnnw’n gyfrifoldeb corfforaethol sylfaenol ar unrhyw awdurdod lleol, ac mae methu â’i gyflawni yn fater difrifol.

Yn anad dim, canfuwyd bod yr hunanreoleiddio gwael ar ymddygiadau amhriodol ac annerbyniol gan y cyngor wedi tynnu sylw oddi wrth fusnes hanfodol. Canfu’r arolygiad hefyd bod y cyngor wedi bod yn aneffeithiol ac yn adweithiol wrth ymdrin â’i broblemau, ac nad ydyw wedi datblygu unrhyw gyfeiriad strategol argyhoeddiadol. Mae’r ymddygiadau hyn, ynghyd â gwrthdaro mewnol sylweddol, fel y mae adroddiad yr arolygiad yn ei gofnodi, yn rhemp ac yn bod ers tro. Yn bwysicaf oll, ymddengys fod hyn wedi dargyfeirio adnoddau gwerthfawr oddi wrth ddarparu a gwella gwasanaethau rheng-flaen. Fel y mae’r archwilydd cyffredinol yn cydnabod, gall llywodraethu corfforaethol gwael arwain mewn dim o dro at fethiant gwasanaethau o bwys. Nid wyf yn fodlon caniatáu i hynny ddigwydd.

Mae’r methiannau a nodwyd i’w gweld yn eang ledled yr awdurdod lleol. Mae’n amlwg bod yr aelodau etholedig wedi bod yn rhan o’r broblem. Rhaid iddynt fod yn rhan o’r ateb. Disgwyliaf iddynt ymwneud yn adeiladol â’r broses o newid o heddiw ymlaen. Byddaf hefyd yn disgwyl i bartneriaid ledled y sector cyhoeddus chwarae eu rhan. Yr wyf eisoes wedi cysylltu ag arweinwyr gwleidyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a gwn fod John Davies, arweinydd y Gymdeithas, a Russell Roberts, ei dirprwy arweinydd, yn pryderu’n fawr, fel yr wyf fi, am y canfyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad manwl hwn. Ar y cyd, byddwn yn gweithio gyda’r gymdeithas a phartneriaid eraill i ymdrin â’r argymhellion ac i geisio newid y sefyllfa hon. Byddwn yn defnyddio pa ddulliau bynnag sydd raid.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu cyfnod anodd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Bydd ar bob corff angen y systemau corfforaethol mwyaf cadarn a rhai sy’n perfformio i’r eithaf er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau i ddinasyddion yn effeithiol a pharhau i wella’r gwasanaethau hynny. Mae dinasyddion yn dibynnu ar eu cynghorau lleol am wasanaethau hanfodol, a rhaid inni beidio â’u siomi. Mae hynny’n cynnwys dinasyddion Ynys Môn. Heb newid sylweddol yn nhrefniadau corfforaethol a gwleidyddol presennol y cyngor, yn ogystal ag aeddfedrwydd newydd mewn ymddygiad a pherthynas pobl â’i gilydd, ni ellir mynd ati’n effeithiol i nodi’r gwir flaenoriaethau ar gyfer yr ynys, ni ellir dyrannu adnoddau’n rhesymegol rhyngddynt, nid oes dim gobaith o wella gwasanaethau a cheir gwir bosibilrwydd cwymp mewn safonau, ac, ar y gwaethaf, methiant gwasanaethau.

Mae hon yn sefyllfa na all cyngor ei hamddiffyn ac, wrth edrych ymlaen, mae’r sefyllfa’n ymddangos yn gwbl anghynaliadwy. Mae’r archwilydd cyffredinol yn cydnabod hynny ac mae wedi argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio’i phwerau statudol o dan adran 15 Deddf Llywodraeth Leol 1999 i ymyrryd. Mae angen imi edrych yn ofalus ar ganfyddiadau ac argymhellion ehangach yr archwilydd cyffredinol cyn penderfynu pa fath yn union o ymyriad fydd orau i adfer sefydlogrwydd a chysondeb trefniadau llywodraethu corfforaethol y cyngor. Fodd bynnag, yr wyf, mewn egwyddor, yn cytuno ag argymhelliad yr archwilydd cyffredinol. Byddaf yn cwrdd â’r cyngor yr wythnos nesaf i drafod yr adroddiad, a byddaf yn amlinellu manylion yr ymyriad y bwriadaf ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf.