Skip to content

Ysgrifenedig - Cyngor Sir Ynys Môn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Heddiw rwyf wedi cwrdd ag Arweinydd, Dirprwy Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn i drafod y camau nesaf ar ôl yr archwiliad llywodraethu corfforaethol a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Ddoe cyhoeddais Gyfarwyddyd o dan Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gydweithredu â Bwrdd Adfer a fydd yn goruchwylio’r gwaith o weithredu argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru. 

Mae’r Cyfarwyddyd hefyd yn caniatáu imi benodi Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro i gymryd cyfrifoldeb am y Cyngor a chynnal y broses adfer. Bydd y Bwrdd Adfer yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor lunio Cynllun Adfer a fydd yn nodi sut y mae’n bwriadu ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol.
 
Yn y cyfarfod heddiw, amlinellais y prif feysydd o bryder yr wyf yn disgwyl i’r Bwrdd ganolbwyntio arnynt. Ymysg y rhain y mae:

  • datblygu gweledigaeth glir ar gyfer Ynys Môn, ynghyd â blaenoriaethau corfforaethol ar gyfer y Cyngor, a chyfleu’r rhain yn effeithiol i staff y Cyngor a dinasyddion Ynys Môn;
  • atgyfnerthu’r canol corfforaethol fel bod mwy o allu gan y Cyngor i ymateb i’r her o fwrw ati â gwelliannau a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n diwallu anghenion dinasyddion Ynys Môn;
  • ad-drefnu’r Pwyllgor Safonau fel bod ganddo rôl fwy rhagweithiol yn gosod safonau a rheoli ymddygiad yr Aelodau;
  • cefnogi’r Aelodau i gael gwell dealltwriaeth o’u swyddogaeth graffu, a datblygu’r swyddogaeth honno.

Bydd y Bwrdd Adfer yn goruchwylio hynt y gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau a bydd yn fy nghynghori a oes angen addasu rhagor ar y Cynllun Adfer. Wrth wneud hynny, bydd y Bwrdd yn derbyn tystiolaeth gan yr Aelodau, swyddogion ac eraill i brofi’r cynnydd hwn. Un o swyddogaethau allweddol y Bwrdd fydd asesu cynaliadwyedd unrhyw newidiadau a’r rhagolygon ar gyfer adferiad yn y tymor hir.


Bydd y Bwrdd yn para am ddwy flynedd (sef yr un cyfnod ag y bydd y Cyfarwyddyd mewn grym) a bydd yn disgwyl cydweithrediad llawn gan bawb yn y Cyngor.

Rwy’n falch bod y Cyngor wedi nodi wrthyf eu bod yn llawn dderbyn y Cyfarwyddyd rwyf wedi ei gyhoeddi. Ddoe, cytunodd y Cyngor yn unfrydol y bydd y pedwar arweinydd grŵp ynghyd â’r uwch swyddogion yn bwrw ati ar fyrder i fynd i’r afael â’r prif wendidau a nodwyd yn adroddiad yr archwiliad llywodraethu corfforaethol.

Ymddengys bod ymrwymiad clir gan yr aelodau etholedig i gydweithio er mwyn datrys y problemau sydd wedi amharu ar y Cyngor cyhyd. Rwyf wedi ei gwneud yn glir i’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd mai bwriad y Cyfarwyddyd rwyf wedi ei gyhoeddi yw cefnogi’r Cyngor a’i Aelodau i fynd i’r afael â’r problemau y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi eu nodi. Serch hynny, rwy’n cadw’r hawl i gyhoeddi Cyfarwyddyd cadarnach petai’r Awdurdod yn methu â sicrhau cynnydd digonol i gyflawni’r argymhellion sydd yn yr adroddiad llywodraethu corfforaethol.