Skip to content

Ysgrifenedig - Y cynnydd o ran cyrraedd targedau ailgylchu gwastraff trefol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Rwy’n croesawu’r Datganiad Rheoli Gwastraff Ebrill-Mehefin 2009, a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod Cymru’n ailgylchu dros 40% o’i gwastraff trefol am y tro cyntaf erioed, a’n bod felly ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o 40% a osodwyd gennym ar gyfer 2009-10. Mae’r canlyniadau ar gyfer Ebrill-Mehefin 2009 yn dangos bod Cymru bellach yn ailgylchu 41% o’i gwastraff trefol, o gymharu â 36% yn ystod y cyfnod cyfatebol yn 2008.

Ar yr un pryd, mae maint y gwastraff cartref a anfonir i safleoedd tirlenwi wedi lleihau, o 86 cilogram y pen rhwng Ebrill  a Mehefin 2008 i 77 cilogram y pen rhwng Ebrill a Mehefin 2009. Rhwng Ebrill a Mehefin 2006, anfonwyd 109 cilogram y pen i safleoedd tirlenwi neu safleoedd troi gwastraff yn ynni.

Mae cyfanswm y gwastraff trefol a gynhyrchir yng Nghymru hefyd wedi gostwng, o 440,000 o dunelli rhwng Ebrill a Mehefin 2008 i 427,000 o dunelli yn Ebrill - Mehefin 2009 – gostyngiad o 3%.

Yn 2009-10, rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru  £24 miliwn ychwanegol i Awdurdodau Lleol er mwyn cynyddu’r casgliadau o ddeunyddiau ailgylchu o gartrefi pobl Cymru, gan gynnwys casgliadau ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd. Bellach, mae deunaw cyngor o’r ddau ar hugain yng Nghymru’n rhedeg gwasanaethau casglu gwastraff bwyd.

 

O ganlyniad i’r ymdrech a wnaed i ailgylchu a chompostio, mae Cymru wedi llwyddo ddwy flynedd yn gynnar i gyrraedd ei rhan hi o’r targed a osodwyd gan Gyfarwyddeb Tirlenwi gyntaf yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2009-10 i leihau maint y gwastraff trefol bioddiraddiadwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi. Yn 2007-08, anfonodd awdurdodau lleol 680,912 o dunelli o Wastraff Trefol Bioddiraddiadwy i safleoedd tirlenwi, o gymharu â’r cyfanswm a ganiateir gan Gyfarwyddeb Tirlenwi’r UE ar gyfer 2009-10, sef 710,000 o dunelli. Yn 2008-09, anfonodd yr awdurdodau lleol 599,703 o dunelli o Wastraff Trefol Bioddiraddiadwy i safleoedd tirlenwi ac mae’r holl awdurdodau lleol  wedi llwyddo i  gyrraedd targedau 2009-10 yn gynnar.

 

Bu’n nod gan Lywodraeth y Cynulliad erioed i ailgylchu deunyddiau gwastraff, eu compostio neu eu gwaredu trwy dreulio anerobig ar ôl eu didoli yn y ffynhonnell, er mwyn cyrraedd targedau Cyfarwyddeb Tirlenwi’r UE a sicrhau gostyngiad sylweddol yn y Gwastraff Trefol Bioddiraddiadwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’r polisi hwn wedi’i gyfiawnhau, a byddwn yn mynd ati yn awr i sicrhau ein bod hefyd yn cyrraedd targed Cyfarwyddeb Tirlenwi’r UE ar gyfer 2012-23 trwy ailgylchu, compostio a threulio anerobig cymaint ag y bo modd. Yn ogystal â darparu cyllid ychwanegol ar gyfer casglu gwastraff bwyd, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno ar becyn cyllid o £26 miliwn i gaffael a datblygu rhwydwaith o gyfleusterau treulio anerobig i droi gwastraff bwyd yn ynni adnewyddadwy a gwrtaith gwerthfawr.

Hoffwn ddiolch i bobl Cymru am wneud ymdrech mor wych i gyrraedd y targed ailgylchu o 41%, ac i’r awdurdodau lleol am eu holl waith caled yn casglu ac ailgylchu’r deunyddiau. Bellach, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod y cynnydd hwn yn parhau wrth i weledigaeth Llywodraeth y Cynulliad estyn yn llawer pellach. I droi ein gwlad yn genedl lanach a gwyrddach a lleihau ein defnydd o adnoddau’r byd, rydym wedi paratoi strategaeth wastraff newydd, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, sy’n cynnig targed o 70% erbyn 2025 ar gyfer ailgylchu a chompostio. Rydym hefyd wedi pennu mai 5%, ar y mwyaf, o’n gwastraff ddylai fynd i safleoedd tirlenwi erbyn 2025.

Mae hyn yn golygu mwy na throi ein gwlad yn wyrddach. O’i wneud yn y ffordd gywir, gall ailgylchu gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio mwy o’n hadnoddau gwerthfawr lleol a chreu swyddi lleol o fewn yr economi werdd yng Nghymru. Gellir cyflawni hyn trwy ddidoli cymaint ag y bo modd o ddeunyddiau yn y ffynhonnell i sicrhau deunyddiau ailgylchu o ansawdd uchel, y mae galw mawr amdanynt gan yr ailbroseswyr lleol a chwmnïau gweithgynhyrchu. Mae didoli gwael yn halogi llawer mwy ar y deunyddiau ailgylchu, ac o ganlyniad mae’n rhaid anfon y rheiny i’w defnyddio dramor. Rwy’n galw felly ar yr awdurdodau lleol i gydweithio gyda’u deiliaid cartrefi i gynllunio a mabwysiadu systemau casglu o’r radd flaenaf, sy’n rhoi’r cyfle gorau posibl i ail-fuddsoddi deunydd ailgylchu yn yr economi leol Gymreig. Er bod hyn yn golygu ychydig mwy o ymdrech i bawb, bydd y gwaith ychwanegol yn siŵr o ddwyn ffrwyth gan esgor ar ganlyniadau economaidd a chymdeithasol yn ogystal â chreu manteision amgylcheddol ychwanegol os defnyddir y deunydd ailgylchu yng Nghymru yn hytrach na thramor.                                                                

Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod gwastraff trefol yn parhau i leihau, gan ddilyn y duedd a ddechreuodd yn 2004-05, er gwaethaf cyfnod o dwf economaidd hyd at ganol 2008. Os ydym i gyflawni ein nod hirdymor o fyw ‘bywyd un blaned’, fel a nodir yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy newydd, Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned, bydd angen inni sicrhau gostyngiad dramatig yn yr adnoddau a ddefnyddiwn a’r gwastraff yr ydym yn ei greu. I gyflawni hynny, bydd angen newid y ffordd y mae cynnyrch yn cael eu gwneud a’u pecynnu. Bydd angen hefyd inni oll newid y pethau yr ydym yn eu prynu a’r ffordd yr ydym yn trin nwyddau pan nad oes eu hangen arnom mwyach. Conglfaen y strategaeth wastraff newydd fydd lleihau gwastraff ac ailddefnyddio buddiol. Byddwn yn llunio rhaglen weithredu radical i barhau â’n hanes llwyddiannus o ostwng gwastraff trefol o flwyddyn i flwyddyn ers 2004-05. Rhaid herio gwastraff mewn modd grymus, a bydd gofyn i bob un ohonom chwarae ein rhan er mwyn sicrhau nad ydym ond yn defnyddio ein cyfran deg o adnoddau ein planed.