Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar yr adolygiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae’r adroddiad ar gael ar wefan AGIC yn www.hiw.org.uk. Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig ym mis Awst 2008, gan nodi’r bwriad i ddatblygu rhaglen o adolygiadau thematig allanol ac yn rhoi cylch gorchwyl yr adolygiad cyntaf.
Lansiwyd ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’, sef strategaeth ddeng mlynedd newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau a mynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, ar 1 Hydref 2008. Mae’r strategaeth yn pennu agenda cenedlaethol clir i Lywodraeth Cynulliad Cymru a’n partneriaid leihau a mynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Gwella ansawdd a chysondeb gwasanaethau triniaeth ledled Cymru yw un o amcanion allweddol y strategaeth, a chroeseiwr yr adroddiad hwn am y cyfraniad y bydd yn ei wneud i sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau.
Ers 2003, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi’n helaeth yn yr agenda camddefnyddio sylweddau, gan arwain at ehangu gwasanaethau’n sylweddol; mae £28.6m yn y Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF) ar gyfer 2009-10, ynghyd ag £11.1m sydd wedi’i neilltuo yng nghyllidebau’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae hyn yn gynnydd o 168% ar gyfanswm y cyllid oedd ar gael yn 2003-04, pan oedd cyllideb SMAF yn £7.4m a chyllideb neilltuedig y Byrddau Iechyd Lleol hefyd yn £7.4m.
Mae’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPs) a darparwyr gwasanaethau ledled Cymru wedi gweithio’n galed i ymateb i’r heriau a gwella ansawdd gwasanaethau. Fodd bynnag, mewn cyfnod o’r fath o dwf digynsail mewn gwasanaethau, mae angen oedi i weld lle mae angen canolbwyntio a rhoi pwyslais i sicrhau rhagor o welliannau yn y dyfodol. Dyna pam mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu AGIC i gynnal yr adolygiad hwn; dyma’r tro cyntaf i wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru gael eu hadolygu mewn ffordd mor gynhwysfawr.
Mae’r adroddiad yn giplun a dynnwyd 12 mis yn ôl, a bu datblygiadau sylweddol ers y gwaith maes. Mae nifer o negeseuon pwysig yn yr adroddiad ynghylch yr hyn sy’n gweithio’n dda, yr hyn y dylid ei rannu fel arfer da a’r hyn sydd angen rhagor o waith. Mae argymhellion yr adroddiad yn cyd-fynd â strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cynulliad Cymru “Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed” ac mae’n atgyfnerthu pedwar nod allweddol y Strategaeth a’r meysydd gweithredu blaenoriaeth. Mae’n dda gweld bod yr adolygiad wedi nodi nifer o wasanaethau o ansawdd uchel ac yn tynnu sylw at nifer o enghreifftiau.
Arweinyddiaeth Strategol a Chynllunio Gwasanaethau
Mae yna negeseuon allweddol i’r CSPs ynghylch cryfhau’u harweinyddiaeth strategol a gwella’r gwaith o gynllunio a rheoli perfformiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Ers 2003, y CSPs sydd wedi bod yn gyfrifol yn statudol am gynllunio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae ymrwymiad y CSPs a’u cyrff cyfansoddiadol wedi bod yn allweddol yn y cynnydd yng Nghymru o ran mynd i’r afael â’r agenda hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Ein bwriad felly yw parhau i wella ac adeiladu ar y trefniadau partneriaeth cryf hyn i ddatblygu’r agenda heriol hwn dros y deng mlynedd nesaf.
Fel rhan o’r newidiadau sydd ynghlwm ag ad-drefnu’r GIG yn Nghymru, bydd y Byrddau Iechyd Lleol newydd, o’u sefydlu yn ddiweddarach eleni, yn “awdurdod cyfrifol” yn y CSPs. Bydd hyn golygu y bydd y Byrddau Iechyd Lleol newydd yn rhannu’r cyfrifoldebau statudol dros fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn eu hardal. Bwriedir hefyd i Ymddiriedolaeth newydd y GIG, Iechyd Cyhoeddus Cymru, gynnig arweinyddiaeth wrthrychol. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau y bydd yr holl gyrff sy’n gyfrifol am gynllunio a chomisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn aelodau ffurfiol o’r CSPs.
Mae “Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed” yn dadlau’n gryf bod angen i’r CSPs ac asiantaethau eraill gynllunio gwasanaethau triniaeth yn rhanbarthol a chydgrynhoi adnoddau lle bo’n briodol. Rydym felly’n cefnogi’r CSPs a chyrff comisiynu eraill i sefydlu Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau ym mhob un o’r 7 ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i fod yn gwbl weithredol erbyn mis Ebrill 2010. Rôl allweddol i’r Byrddau Cynllunio Ardal newydd fydd gwneud penderfyniadau ar ddefnyddio adnoddau’r GIG ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, adnoddau DIP y Swyddfa Gartref a chronfa gyfalaf y Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau.
Mae’r rhaglen gyfalaf sy’n werth £4.1m y flwyddyn wedi ariannu 193 o brosiectau ledled Cymru ers ei chyflwyno yn 2005. Byddwn yn parhau â’r rhaglen bwysig hon o wella lleoliadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, ac rydym o’r farn y bydd cydgrynhoi’r gyllideb hon ar lefel y Bwrdd Cynllunio Ardal newydd yn cryfhau buddsoddiad cyfalaf ac yn ei gysylltu’n fwy pendant â chynllunio gwasanaethau’n strategol.
Y nod yw i’r adnoddau hyn gael eu hystyried yn sylfaen i bartneriaid adeiladu arni; gan symud tuag at gytuno ar drefniadau ehangach i gydgrynhoi adnoddau ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ar lefel y Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau newydd, gan gynnwys Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, ffrydiau cyllid eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Swyddfa Gartref ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill.
Er mwyn ategu hyn, rydym yn gweithio gydag AGIC ac ystod o bartneriaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, i ddatblygu canllawiau i gefnogi’r Byrddau Cynllunio Ardal newydd. Bydd y canllawiau’n nodi’r safonau craidd ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a’r modelau ar gyfer llwybrau gofal integredig, a byddant hefyd yn cwmpasu’r trefniadau ar gyfer cynllunio fesul ardal yn fwy manwl. Bydd y canllawiau ar gael ar ffurf drafft yn yr hydref, h.y. mewn pryd i lywio gwaith y Byrddau yn ddiweddarach eleni.
Bydd y trefniadau newydd hyn yn cryfhau’n sylweddol allu’r CSPs i gymryd rôl fwy strategol o ran mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, a chynllunio a sefydlu gwasanaethau integredig mwy effeithiol o ran cost a ategir gan systemau llywodraethu a phrosesau comisiynu cadarn.
Amseroedd Aros
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at amseroedd aros ac mae’n cydnabod y gostyngiad amlwg mewn amseroedd aros cenedlaethol. Ar 1 Medi 2009, roedd bron 88% o’r unigolion a atgyfeiriwyd i gael cymorth yn 2008-09 wedi dechrau eu triniaeth o fewn targed Llywodraeth Cynulliad Cymru o 10 diwrnod gwaith, ac mae gostyngiad graddol yn nifer y bobl ag amseroedd aros hwy. Er enghraifft, arweiniodd yr £1m ychwanegol a ddarparwyd y llynedd ar gyfer dadwenwyno cleifion mewnol ac adsefydlu preswyl at driniaeth gyflym i 127 o bobl.
Mae mwy i’w wneud o ran cadw amseroedd aros ar gyfer triniaeth yn isel, a bydd hyn yn parhau’n flaenoriaeth genedlaethol a lleol. Mae’r rhestrau aros yn ystyried cyfnodau o gynnydd mewn galw ac mae’r ffigurau’n dangos bod y niferoedd sy’n derbyn triniaeth wedi cynyddu’n sylweddol ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddechrau buddsoddi yn yr agenda hwn. Ar ddiwedd yr 1990au, nodwyd fod llai na 2,300 o unigolion yn derbyn triniaeth. Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gan godi i 14,259 erbyn 2007-08. Mae hyn yn adlewyrchu sut mae’n buddsoddiad wedi mynd i’r afael â galw nas bodlonwyd yn flaenorol, gan ddarparu lleoedd triniaeth ychwanegol ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi blaenoriaeth uchel i leihau amseroedd aros. Caiff hyn ei atgyfnerthu drwy gynnwys dangosyddion perthnasol yn fframwaith perfformiad newydd y GIG, fframweithiau perfformiad awdurdodau lleol a’r blaenoriaethau a bennir ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ar gyfer cyrff heb eu datganoli, mae’r rhain i gyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni targedau’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Annog Symud Ymlaen o Driniaeth
Mae adroddiad AGIC yn nodi bod angen i wasanaethau wella’r broses o gofnodi canlyniadau cadarnhaol i unigolion sy’n derbyn triniaeth ac annog unigolion i symud ymlaen o driniaeth. Adeg yr adolygiad, flwyddyn yn ôl, roedd gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno’r Proffil Canlyniad Triniaeth, sef ffordd o fesur sut mae unigolyn yn elwa o gael triniaeth. Cwblhawyd y gwaith hwnnw yn gynharach eleni a chafodd ei gyflwyno ledled Cymru ym mis Ebrill 2009. Mae’r fenter hon yn canolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau mewn ffordd fesuradwy a bydd yn cynnig gwybodaeth werthfawr yn 2010 ynghylch effaith triniaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
Yn strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru rydym yn cydnabod mai cymorth ar ôl gofal i ddod o hyd i waith a rhywle i fyw fydd yn ganolog i adferiad llawer o bobl. Yn aml, mae rhwystrau rhag gwneud hyn fel diffyg sgiliau a hyder. Rydym yn gwybod o gynnal ymchwil y gall pobl gael canlyniadau gwell ac adfer yn well o gael cymorth “cofleidiol” effeithiol. Ym mis Hydref eleni, bydd Cynllun Mentora Cymheriaid cenedlaethol newydd yn dechrau, gyda £9m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd y cynllun yn cefnogi defnyddwyr gwasanaethau i gael hyfforddiant, addysg a gwaith. Hefyd bydd cymorth gyda phroblemau ymarferol eraill fell llety a chefnogaeth i osgoi ailddechrau camddefnyddio sylweddau.
Yr adroddiad hwn yw’r tro cyntaf i wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru gael eu mesur yn llawn, ac mae’n llwyfan i adeiladu ar gynnydd sylweddol y blynyddoedd diweddar. Bydd yn helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid i dargedu ymdrechion ac adnoddau’n effeithiol i sicrhau gwelliannau mwy fyth. Mae disgwyl i bob sefydliad gael adborth unigol gan AGIC a byddwn yn cefnogi partneriaid i ddatblygu cynlluniau gwella lleol. Byddwn yn gofyn i CSPs roi adroddiad ar y cynnydd o ran rhoi’r cynlluniau hynny ar waith ddechrau 2010.