Skip to content

Ysgrifenedig - Data Perfformiad Llywodraeth Leol Cymru Gyfan 2008-09

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Am 9.00 am heddiw, 1 Hydref 2009, bydd Uned Data Llywodraeth Leol – Cymru yn cyhoeddi data cynhwysfawr, wedi'i wirio, ar berfformiad awdurdodau lleol yn 2008-09. Bydd yr Uned hefyd yn cyhoeddi Bwletin Ystadegol, a fydd yn rhoi dadansoddiad clir a hygyrch o'r data, a bydd yn galluogi dinasyddion i ystyried perfformiad eu hawdurdodau.

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw o ddata perfformiad llywodraeth leol 2008-09, a'r pedwerydd cyhoeddiad blynyddol o'r bwletin ystadegol sy'n cyd-fynd ag ef. Mae’r data hwn yn bwysig i bawb. Mae’n darparu ystod eang o wybodaeth am safon y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol.

Yn y lle cyntaf, mae cynghorau lleol yn gyfrifol ac yn atebol am eu perfformiad eu hunain. Mae'r data hwn am wasanaethau yn cynrychioli darpariaeth sydd wedi cael effaith fawr ar fywydau pobl. Mae llawer ohonynt yn rhai yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol, ac yn sylwi arnynt yn unig os nad ydynt ar gael neu os nad ydynt yn gweithio'n dda.  

Mae angen i awdurdodau lleol ddefnyddio'r data hwn i gadw llygad ar eu perfformiad dros gyfnod o amser, i nodi meysydd lle nad ydynt yn perfformio cystal ag y gallent, a chymryd y camau angenrheidiol i wella eu perfformiad.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu meddalwedd rheoli perfformiad unigryw i awdurdodau lleol, sef Ffynnon, yn rhad ac am ddim i'w galluogi i wneud hyn yn fwy effeithiol. Rydym yn disgwyl i’n hawdurdodau lleol gymryd mantais lawn ohoni.


Mae data eleni yn dangos, unwaith eto, bod awdurdodau lleol, yn gyffredinol, yn darparu gwasanaethau safonol, a bod cynnydd yn cael ei wneud yn flynyddol yn y rhan fwyaf o feysydd gwasanaeth. O'r dangosyddion perfformiad sy'n cymharu â rhai y llynedd, mae bron i ddau draean yn dangos cynnydd ledled Cymru.

Mae llawer o bethau cadarnhaol yn natganiad heddiw. Fodd bynnag, er bod safon y perfformiad yn dal i wella, mae amrywiaeth mawr rhwng y gwasanaethau o fewn awdurdodau, a rhyngddynt. Rydym yn benderfynol o weithio gydag awdurdodau lleol i wella meysydd nad ydynt yn gwneud cystal, a bydd y Mesur Llywodraeth Leol yn helpu i wneud hynny.

O dan y Mesur Gwella Llywodraeth Leol newydd, bydd rheidrwydd ar Awdurdodau Cymru i roi adroddiad cyhoeddus am eu perfformiad gan ddefnyddio dull newydd. Rydym am sicrhau bod awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau ar gyfer eu dinasyddion. Bydd symud i fodel atebolrwydd, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer y dinasyddion, yn hytrach na chamau gweithredu sy’n seiliedig ar adnoddau, yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn.  

Bydd yn cyflwyno cyfle gwell i adrodd am eu perfformiad yng nghyd-destun y diffiniad newydd, ehangach, o gynnydd o safbwynt yr hyn sy'n gweithio i ddinasyddion, teuluoedd a chymunedau.

I gefnogi hynny, y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn symud tuag at gytuno ar nifer fach o ddangosyddion perfformiad a fydd yn mesur cyfraniad y cynghorau i flaenoriaethau strategol Llywodraeth y Cynulliad yn y ffordd orau bosibl. Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dod yn gyfrifol am gasglu a chynnal cyfres o fesurau perfformiad ehangach, a fydd yn cael eu pennu gan gynghorau Cymru eu hunain.

Bydd y drefn newydd hon yn seiliedig ar ddatblygu cytundebau canlyniadau gydag awdurdodau lleol, yn ogystal â pherthynas newydd a fydd yn gwobrwyo gwelliannau i wasanaethau drwy gynnig hyblygrwydd o ran trefniadau ariannu.

Mae symud tuag at Gytundebau Canlyniadau fel ffordd o ddatblygu'r Cytundebau Gwella presennol, hefyd yn adlewyrchu naws y Mesur Llywodraeth Leol. Byddant yn galluogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar faterion sydd o bwys yn lleol, ac ar yr un pryd, cyfrannu at ein hagenda strategol cenedlaethol. Bydd hyn yn rhoi cyfle inni fodloni'r heriau o flaenoriaethu adnoddau cyfyngedig, ar yr un pryd â gwella gwasanaethau, a helpu i gyflenwi'r gwasanaethau i'r safon y mae ein dinasyddion ninnau yn eu disgwyl.  

Rwy'n cydnabod bod ystod eang o ddylanwadau yn effeithio ar ansawdd gwasanaethau, a dim ond rhai o'r rhain sy'n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, nid oes lle i orffwys ar ein rhwyfau. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, gan eu hannog i ddefnyddio'r data perfformiad hwn a'r holl ddylanwadau y mae'n eu hadlewyrchu, i ddeall ac ymateb yn effeithiol i'r heriau sy'n eu hwynebu, i rannu gwybodaeth, dysgu oddi wrth ein gilydd a gweithio mewn partneriaeth i wella safonau a chyflawni'n well ar gyfer eu dinasyddion.

Mae’r data hwn yn dangos cynnydd eang a chynaliadwy yn y rhan fwyaf o ddangosyddion. Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr mewn cynghorau ledled Cymru am eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth barhau i ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen allweddol hyn.