Diben y datganiad hwn yw diweddaru Aelodau ar gynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i gryfhau'r Gymraeg a sicrhau cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae proses y Gorchymyn wedi bod yn gyfle i gael trafodaeth helaeth ar rôl deddfwriaeth o ran diogelu a hyrwyddo'r Gymraeg. Rwy'n falch, yn ystod y broses hon, bod consensws clir wedi dod i'r amlwg ymysg yr holl bleidiau yng Nghymru bod bellach angen diweddaru'r fframwaith deddfwriaethol presennol.
Gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad yw Cymru wirioneddol ddwyieithog lle caiff y Gymraeg a'r Saesneg eu cydnabod yn ieithoedd swyddogol, lle mae gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd ar gael ac yn cael eu defnyddio, a lle mae'r ddwy iaith yn parhau i fod yn destun balchder amlwg, yn weledol ac ar lafar, i holl bobl Cymru.
Mae Cymru'n Un yn nodi'r camau ymarferol rydym wedi'u cymryd yn ystod y Cynulliad hwn. Wrth wraidd y rhaglen i'r Llywodraeth mae ymrwymiad i sicrhau cymhwysedd deddfwriaethol ehangach ar y Gymraeg i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i gadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a'r Saesneg, rhoi hawliau ieithyddol ym maes darparu gwasanaethau, a sefydlu swydd Comisiynydd Iaith.
Craffu Cyn y Broses Ddeddfu
Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yn y Cynulliad Cenedlaethol a'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi craffu ar Orchymyn arfaethedig y Gymraeg, a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror. Cyhoeddodd y pwyllgorau'u hadroddiadau ar 5 Mehefin a 7 Gorffennaf yn y drefn honno, ac rydym yn ddiolchgar am eu hargymhellion craff. Dros yr haf, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU i ystyried argymhellion y ddau bwyllgor, ynghyd â thystiolaeth y rhanddeiliaid.
Rydym bellach yn cyrraedd camau olaf y broses o gael y cymhwysedd a fydd yn ein galluogi i gyflawni ymrwymiadau Cymru'n Un ar ddeddfwriaeth y Gymraeg. Heddiw, cyn llunio drafft terfynol y Gorchymyn, hoffwn gymryd y cyfle i roi'r diweddaru Aelodau ynghylch y cytundeb hyd yn hyn gyda Llywodraeth y DU.
Ymateb i'r craffu cyn y broses ddeddfu
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn falch bod y ddau bwyllgor craffu'n cydnabod mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r lle priodol i ddeddfu ar y Gymraeg. Dyma hefyd yw barn y mwyafrif helaeth o randdeiliaid a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgorau craffu.
Rydym hefyd yn falch bod y ddau bwyllgor yn cydnabod rôl bwysig cyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol o ran darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru, a rôl allweddol technolegau sy'n prysur ddatblygu, fel gwasanaethau telathrebu, o ran hybu a hwyluso defnydd o'r iaith, yn enwedig ymysg pobl ifanc.
Daeth y pwyllgorau craffu i gasgliadau tebyg newb rhai meysydd, ond nid oedd consensws clir mewn meysydd eraill.
Fodd bynnag, mae adroddiadau'r ddau bwyllgor a thystiolaeth rhanddeiliaid wedi'n galluogi ni a Llywodraeth y DU i edrych eto at y Gorchymyn arfaethedig a nodi meysydd lle mae modd newid cwmpas y cymhwysedd i ymgorffori rhai o'r argymhellion.
Prif argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig oedd y dylid ailddrafftio'r Gorchymyn i gynnwys "egwyddorion clir i brofi Mesurau'r Cynulliad yn eu herbyn... a allai gynnwys prawf rhesymoldeb, prawf cymesuredd, ac ystyriaeth o'r gost". Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU o'r farn y byddai trosglwyddo cymhwysedd ar sail egwyddorion a phrofion o'r fath yn unig yn cynnig yr eglurder rydym yn ei geisio.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru bob amser wedi gwneud yn glir y dylai egwyddorion rhesymoldeb a chymesuredd, sydd wedi llywio agwedd Bwrdd yr Iaith at gynlluniau iaith, hefyd lywio'r gwaith o lunio dyletswyddau yn y dyfodol mewn perthynas â'r iaith, ac mae wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU i wneud hyn yn nodwedd amlwg ar wyneb y Gorchymyn. Bydd y Gorchymyn yn darparu fel bod modd gosod dyletswyddau ar berson o dan fater 20.1 dim ond lle mae ffordd i'r person hwnnw herio'r dyletswyddau fel y maent yn berthnasol i'r person hwnnw yn ôl rhesymoldeb a chymesuredd.
Prif argymhelliad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, mewn perthynas â'r Gymraeg, oedd y dylid "trosglwyddo cwmpas eang o bŵer deddfwriaethol i'r Cynulliad". . Serch hynny, mae’n wir mai polisi Llywodraeth y DU* yw na ddylai un Gorchymyn roi cymhwysedd deddfwriaethol i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn maes cyfan yn Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru (*Papur Gwyn Trefn Lywodraethu Well i Gymru). Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth yn fodlon bod y cwmpas a gytunwyd yn ddigonol i gyflawni bwriad y polisi yng nghytundeb Cymru'n Un
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn croesawu cytundeb y pwyllgorau craffu, o dan baragraff (e), y dylai cyrff sy'n derbyn symiau sylweddol o arian cyhoeddus, fel y Theatr Genedlaethol a Chanolfan Mileniwm Cymru, gael eu cynnwys yn y cymhwysedd. Fodd bynnag, yn ystod y broses graffu, cafodd pryderon eu mynegi y byddai'r trothwy o £200,000 yn cynnwys nifer sylweddol o fudiadau yn y cymhwysedd, gan gynnwys nifer o fudiadau bach.
Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, penderfynwyd felly y dylid codi'r trothwy i £400,000 fel bod llai o bosibilrwydd o gynnwys mudiadau bach yn y cymhwysedd dim ond am eu bod yn derbyn arian cyhoeddus.
Cytunodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 â bwriad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru na ddylid rhoi dyletswyddau ar berson sy'n derbyn grantiau untro. Hefyd daeth y Pwyllgor Materion Cymreig i'r casgliad nad yw'r sefyllfa'n foddhaol lle gall cyrff symud i mewn ac allan o'r cymhwysedd yn ôl a ydynt yn derbyn grant untro mewn blwyddyn benodol.
Er mwyn rhoi eglurder i'r mater hwn, penderfynwyd, o dan baragraff (e), eithrio personau sy'n derbyn taliadau untro. O ganlyniad, o dan baragraff (e), ni all person sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol gael ei gynnwys yn y cymhwysedd oni bai ei fod hefyd wedi derbyn arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol flaenorol neu bod penderfyniad y bydd y person yn derbyn arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno â Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, o dan baragraff (h), y dylai gwasanaethau bysiau gael eu cynnwys yn y cymhwysedd (yn ogystal â gwasanaethau rheilffyrdd).
Roedd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 yn cytuno â Llywodraeth Cynulliad Cymru, o dan Fater 20.1, na ddylid gosod dyletswyddau mewn perthynas â rhyddid golygyddol darlledwyr, ac rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU i addasu'r Gorchymyn yn briodol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU hefyd wedi cytuno, mewn perthynas â pharagraff (c), y dylid defnyddio dull gweithredu mwy penodol ar gyfer person a sefydlwyd drwy offeryn uchelfreiniol ar sail meini prawf ychwanegol, er mwyn adlewyrchu amcanion craidd siarteri'r cyrff hynny sy'n darparu gwasanaethau allweddol i'r cyhoedd.
Yn unol â bwriad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, caiff mater 20.1 ei addasu fel na fydd darparu’r gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig a’r gwasanaethau a restrir ym mharagraff (h) mewn siopau sy’n gwerthu nwyddau yn bennaf yn rhan o’r cymhwysedd o dan baragraff (h), ac eithrio i’r graddau y mae’r gwasanaethau eraill yn cynnwys darparu gwasanaethau cownter y Swyddfa Bost, yn gwerthu tocynnau neu’n darparu amserlenni y gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd.
Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn addasu paragraff (h) yn y Gorchymyn, fel mai dim ond hyfforddiant a ariennir yn llwyr neu'n rhannol ag arian cyhoeddus sy'n cael ei gynnwys yn y cymhwysedd.
Er mwyn ymateb i'r pryder ynghylch y cyfeiriadau at gynhyrchu a throsglwyddo trydan a nwy, hynny yw y rhannau o'r sector ynni nad ydynt yn ymwneud â'r cyhoedd bron o gwbl, caiff y cyfeiriadau at gynhyrchu a throsglwyddo eu dileu o baragraff (h) y Gorchymyn.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno na ddylid manylu partneriaethau o dan Fater 20.1, gan y byddai'r partneriaethau hynny sy'n cynnwys cyrff sydd o fewn y cwmpas yn cael eu cynnwys yn y cymhwysedd.
Mewn perthynas â Materion 20.1 ac 20.2, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno y byddai'r cymhwysedd arfaethedig yn diogelu'r rhyddid i bersonau cyfathrebu gyda’i gilydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac nad oes angen newid y Gorchymyn.
Mesur yr Iaith Gymraeg
Ochr yn ochr â'n gwaith ar Orchymyn y Gymraeg, rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer Mesur y Gymraeg, a gyhoeddwyd yn natganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog ar 14 Gorffennaf. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn edrych ymlaen at gyhoeddi Mesur y Gymraeg cyn gynted ag y caiff y Cynulliad Cenedlaethol y cymhwysedd angenrheidiol i ddeddfu ar y Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyderus y byddai cwmpas y Gorchymyn rydym wedi cytuno arno gyda Llywodraeth y DU yn rhoi'r cymhwysedd i'r Cynulliad Cenedlaethol ymateb yn effeithiol i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn y dyfodol, ac yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Fesur, i gyflawni'i hymrwymiadau yn Cymru'n Un.
Y camau nesaf
Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi trefnu i'r Uwch-Bwyllgor Cymreig drafod Gorchymyn y Gymraeg ar 14 Hydref, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed safbwyntiau'r Pwyllgor hwnnw.
Ar ôl cwblhau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, caiff y Gorchymyn Drafft ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted â phosibl.
Aelodau'r Cynulliad fydd yn cael y cyfle cyntaf i drafod y Gorchymyn Drafft, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio gweithio gyda'r Aelodau i ddatblygu'n Mesur arfaethedig ar y Gymraeg.