Mae AEA Energy and Environment yn llunio Stocrestri Nwyon Tŷ Gwydr ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rheolaidd. Cafodd y ffigurau diweddaraf wedi'u dadgyfuno eu cyhoeddi ar 24 Medi 2009.
Mae "basged" y chwe Nwy Tŷ Gwydr yn cael ei mesur fel a ganlyn:
- y flwyddyn sylfaen ar gyfer mesur allyriadau carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd yw 1990
- 1995 yw'r flwyddyn sylfaen ar gyfer mesur allyriadau o hydrofflworocarbonau, perfflworocarbonau a sylffwr hecsafflworid
Elfen bwysicaf y fasged, o bell ffordd, yw carbon deuocsid, sef dros 80% o gyfanswm yr allyriadau.
Yn ôl adroddiad mis Medi 2009, yng Nghymru:
- Roedd cyfanswm allyriadau'r chwe Nwy Ty Gwydr yng Nghymru ar gyfer 2007 yn cyfateb i 46.8MtCO2, sef lleihad o 6.8% o'i gymharu â 2006, a lleihad o 14.7% o'i gymharu ag allyriadau'r chwe nwy ty gwydr yn y flwyddyn sylfaen.
- Roedd cyfanswm allyriadau CO2 yng Nghymru yn 2007 yn cyfateb i 39MtCO2, sef lleihad o 7% o'i gymharu â 2006 a lleihad o 9.5% o'i gymharu â'r flwyddyn sylfaen ar gyfer mesur allyriadau CO2
Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod allyriadau wedi lleihau o'u cymharu â'r flwyddyn sylfaen. Mae'n anorfod y bydd hyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond er hynny, mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu ar y cyd os ydym i weld lleihad cyson dros gyfnod o amser yn lefel yr allyriadau y bydd ei angen i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Mae ein hymrwymiadau fel Llywodraeth yn Cymru'n Un yn cydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad byd-eang a bod yn rhaid i Lywodraeth y Cynulliad fod ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â'r achosion a'r effeithiau yng Nghymru. Mae ymrwymiad penodol i geisio sicrhau lleihad o 3% yn yr allyriadau carbon blynyddol yng Nghymru erbyn 2011 mewn meysydd lle mae'r pwerau wedi'u datganoli ac i bennu targedau fesul sector yn y meysydd preswyl, trafnidiaeth a chyhoeddus.
Drwy'r Comisiwn Newid Hinsawdd, rydym wedi comisiynu Canolfan Tyndall i ystyried y camau i'w cymryd a goblygiad hyn wrth geisio sicrhau lleihad o 3%, 6% a 9% y flwyddyn yn yr allyriadau yn ôl gwahanol senarios. Y rheswm am hyn yw ein bod yn cydnabod bod y dystiolaeth wyddonol yn dangos bod gofyn am sicrhau lleihad mwy fyth yn lefel yr allyriadau na'r hyn rydym wedi ymrwymo iddynt ar hyn o bryd, ond mae'r rhain yn heriol iawn. Rydym am geisio sicrhau ein bod yn cymryd camau gweithredu y gellid eu dwysáu er mwyn gweld mwy o ostyngiadau yn y dyfodol ac er mwyn osgoi gwneud pethau sy'n ein gorfodi i ddilyn llwybrau fydd yn achosi lefel uwch o allyriadau.
Yr allyriadau sy'n cael eu cynnwys yn y targed o 3% yw'r rheiny sydd wedi'u dadgyfuno yn stocrestr flynyddol y nwyon ty gwydr ar gyfer Cymru, heblaw am yr allyriadau sy'n deillio o'r diwydiannau trwm ac yn sgil cynhyrchu ynni yr ydym wedi'u diffinio'n fras yn allyriadau sy'n dod o dan Gynllun Masnachu Allyriadau'r UE.
Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd defnyddio llai o drydan wrth leihau allyriadau, ac felly bydd yn cynnwys yr allyriadau sy'n deillio o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio.
Mae'r Comisiwn Newid Hinsawdd wedi chwarae rhan fawr yn y broses o ddiffinio'r fethodoleg rydym yn ei defnyddio i fesur ein cynnydd at sicrhau lleihad o 3%. Bydd y Comisiwn yn parhau i roi arweiniad ac i feithrin barn gytûn ar y camau y mae angen eu cymryd.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn Newid Hinsawdd ar 27 Hydref. Bydd y Cabinet yn edrych ar grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Raglen Weithredu'r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd, ac yn ystyried y ffordd orau o fynd ati i ymgorffori'r ymatebion hyn yn y Strategaeth derfynol. Yn ogystal, bydd Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, sy'n adolygu'n Rhaglen Weithredu ar hyn o bryd, yn rhoi adborth ar y ddogfen ymgynghori. Bydd yn trafod i ba raddau y mae'n bodloni eu disgwyliadau mewn perthynas â rôl y llywodraethau datganoledig wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau pwysig. Rydym:
- wrthi'n datblygu 'Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni' ac mae'r ymgynghoriad arno newydd ddirwyn i ben.
- wrthi'n datblygu cynllun i osod technoleg microgynhyrchu adnewyddadwy mewn aelwydydd tlawd o ran tanwydd.
- wrthi'n datblygu prosiect i gefnogi'r gwaith o gynhyrchu ynni cymunedol drwy Raglen Gydgyfeirio'r UE.
- wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau cymunedol ar y newid yn yr hinsawdd ac wedi llunio pecyn gwybodaeth i gymunedau.
- wedi penodi chwe Hyrwyddwr Newid Hinsawdd Cymru ((ac mae un ohonynt hefyd wedi'i benodi'n Hyrwyddwr Newid Hinsawdd Rhyngwladol y Cyngor Prydeinig).
- wedi cyhoeddi'r Map Llwybr Ynni Adnewyddadwy sy'n cynnig y gall Cymru gynhyrchu'r un faint o drydan o ffynonellau adnewyddadwy ag y mae'n ei ddefnyddio o fewn 20 mlynedd.
- Yn ogystal, rydym am sicrhau y bydd pob adeilad newydd sy'n cael ei godi yng Nghymru o 2011 ymlaen yn ddi-garbon. Rydym yn ceisio sicrhau y bydd y Rheoliadau Adeiladu'n cael eu datganoli er mwyn ein helpu i fwrw ymlaen â hyn ac mae'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy wedi helpu i sefydlu Canolbwynt Carbon Isel, sef 'cynghrair y parod' o'r diwydiant adeiladu a chyrff eraill sydd am ein helpu i gyrraedd y targed hwn o leihau allyriadau carbon.
- Rydym yn cryfhau polisi cynllunio mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd.
- Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn clustnodi prosiectau enghreifftiol i'n helpu i gynllunio'n effeithiol ar gyfer bod yn ddi-garbon. Yr Adran Economi a Thrafnidiaeth sy'n sbarduno'r prosiectau hyn. Cynhelir asesiadau ynni i ddechrau o 28 o safleoedd sydd wedi'u clustnodi er mwyn ategu datblygiadau carbon isel/di-garbon gan fod llawer ohonynt at ddefnydd cymysg. Y nod yw cael strategaeth â ffocws iddi er mwyn dysgu gwersi ac ennill profiad y gellir ei ddefnyddio wrth ymgymryd â phrosiectau wedi hynny.