Skip to content

Ysgrifenedig - Setliad Refeniw Dros Dro Llywodraeth Leol 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae Cyd-Ddealltwriaeth Newydd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r Cynulliad a Llywodraeth Leol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer ariannu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2010-2011. Rwyf wedi gosod manylion fy setliad dros dro gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys manylion y dyraniad dros dro o gyllid heb ei neilltuo y gall pob awdurdod lleol ddisgwyl ei dderbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod (tablau A i C).

 

Bydd y dyraniadau hyn yn destun newidiadau erbyn cyhoeddi'r setliad terfynol ar 8 Rhagfyr, oherwydd ni fydd y data ar sylfaen dreth yr awdurdodau lleol, sy'n llywio'r cyfrifiadau, ar gael tan fis Tachwedd. Serch hynny, nid wyf yn disgwyl y bydd y newidiadau yn rhai sylweddol. Heddiw yw cychwyn y cyfnod ymgynghori o bum wythnos a fydd yn dod i ben ar 17 Tachwedd.

 

Rwy'n cynnig pennu £4.051 biliwn ar gyfer y Grant Cynnal Refeniw yn 2010-11. Mae hyn yn gynnydd arian parod o 3.2% o'i gymharu â'r ffigwr ar gyfer 2009-10. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo rhai grantiau pwysig i mewn i'r setliad. Y cynnydd, o ddiystyru'r trosglwyddiadau hyn, yw 2.1%. Mae hyn, ar y cyfan, yn unol â'r dyraniadau cyfartalog cyffredinol i gyllidebau Adrannau Llywodraeth y Cynulliad.

 

Mae'r cynnydd hwn 0.8% yn llai na'r cynnydd dangosol ar gyfer 2010-11, a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2008 Llywodraeth y Cynulliad. Serch hynny mae dipyn yn uwch na'r cynnydd o 1.3% a fyddai wedi bod petai'r arbedion effeithlonrwydd gwerth £216 miliwn, neu 1.6%, y bu'n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad eu sicrhau yn sgil Cyllideb Canghellor y Trysorlys ym mis Ebrill, wedi cael eu trosglwyddo ar sail pro rata i'r cyllid fydd ar gael i Awdurdodau Lleol.

 

Mae cynnydd o 2.1% yn sylweddol uwchlaw lefelau presennol ac amcanestynedig chwyddiant, ac mae'n dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddiogelu a chynnal y gwasanaethau cyhoeddus allweddol y mae awdurdodau lleol yn eu darparu i ddinasyddion Cymru yn yr hinsawdd economaidd ac ariannol anodd yr ydym yn ei brofi nawr, ac y byddwn yn ei brofi yn y dyfodol.

 

Rydym wedi bod yn cydweithio â llywodraeth leol i ddatblygu dealltwriaeth newydd rhyngom.   Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol ein bod yn ailgadarnhau mai ein nod ni oll yw darparu gwasanaethau ardderchog i'n dinasyddion.  Wrth wneud hynny, rhaid inni barchu amcanion ac atebolrwydd gwleidyddol ein gwahanol sefydliadau, a deall yr agweddau ymarferol ar ddatblygu polisi a darparu gwasanaethau sy'n ein hwynebu ni i gyd yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

 

Mae awdurdodau lleol yn dal ati drwy'r amser i geisio gwella gwasanaethau.  Rydym yn cydnabod y gwaith rhagorol hwnnw ac yn ei gefnogi ymhellach drwy Gytundebau Gwella.  Rhan o'r ddealltwriaeth newydd yw ein bwriad i sefydlu Cytundebau Canlyniad gyda phob awdurdod.  Bydd y Cytundebau Canlyniad yn cadw'r ffocws lleol sydd gan y Cytundebau Gwella.   Byddant wedi eu seilio ar ystod o dystiolaeth feintiol ac ansoddol, gan gynnwys tystiolaeth gan arolygwyr a rheoleiddwyr, er mwyn dangos bod yr awdurdodau yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o wella gwasanaethau.   Bydd sylfaen fwy eang iddynt na Chytundebau Gwella a byddant yn cyd-fynd â'r 19 o ddatganiadau strategol Llywodraeth y Cynulliad, sydd eu hunain yn deillio o Cymru'n Un.  Bydd hyn yn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio tuag at y weledigaeth yr ydym yn ei rhannu ar gyfer Cymru'r dyfodol.

 

Rydym yn bwriadu cyflwyno hyblygrwydd cyllid newydd ochr yn ochr â'r Cytundebau Canlyniadau, a fydd yn ymbellhau wrth neilltuo a chlustnodi cyllid, a thrwy wneud hynny yn lleihau'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r mecanweithiau cyllido hyn.   Felly, pan fo awdurdod yn gallu dangos bod ganddo'r capasiti a'r gallu i gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt, byddwn yn lleihau lefel y reolaeth a'r cyfarwyddyd ynghylch sut y gellir defnyddio cyllid.  Efallai y gwneir hyn drwy gyfuno grantiau neu gael gwared ar amodau grantiau yn gyfan gwbl.

 

 

Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bod ffrydiau ariannu eraill i lywodraeth leol, yr wyf i'n gyfrifol amdanynt, wedi cael eu diogelu yn sgil penderfyniadau anodd iawn y bu'n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad eu gwneud ar y cyd cyn cwblhau cynigion y Gyllideb ddrafft a gyhoeddodd y Gweinidog dros Gyllid a Chyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus ar 5 Hydref.

 

Bydd y Gronfa Amddifadedd, gwerth £22 miliwn, sydd wedi bod ar gael i awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diweddar i helpu i ddarparu gwasanaethau pan fo amddifadedd yn ffactor pwysig, yn parhau'n ddigyfnewid. Felly hefyd y bydd y £39.6 miliwn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddarparu i dalu costau refeniw blynyddol prosiectau cymeradwy y Fenter Cyllid Preifat. Er nad yw'n rhan o'r setliad refeniw blynyddol, bydd lefel y cyllid cyfalaf neb ei neilltuo sydd ar gael i awdurdodau lleol yn parhau'n ddigyfnewid, er gwaetha'r angen i Lywodraeth y Cynulliad ddod o hyd i 4.6% o arbedion effeithlonrwydd yn ei chyllidebau cyfalaf cyffredinol. Rwyf wedi gwneud cwtogiad bychan o £300,000 yn £31.4 miliwn o gyllid ar gyfer y Grant Cytundeb Gwella.

 

Rwy'n bwriadu cadw'r trefniadau ar gyfer ariannu gwaelodol, a gyflwynais gyntaf yn 2008-09, er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn derbyn isafswm o gynnydd.  Fy nghynnig yw gosod y trothwy ar 1% ar gyfer 2010-11. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gofyn i'r trothwy gael ei bennu ar y lefel honno ac rwy'n ystyried ei fod yn gymesur yng nghyd-destun cynnydd cyffredinol o 2.1% yn y setliad.

 

Rydw i eisiau ei gwneud yn glir, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, y bydd yr arian ar gyfer y terfyn hwn yn dod o setliad y Grant Cynnal Refeniw. Nid oes rhagor o arian ar gael. Ar sail y setliad dros dro, yr awdurdodau fydd yn elwa ar y trefniadau ariannu gwaelodol fydd Ynys Môn a Phowys. Rydw i hefyd eisiau iddi fod yn gwbl glir fy mod yn disgwyl i'r awdurdodau hyn ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaethau ac nid i dalu am benderfyniadau ar y dreth gyngor.      

 

Mae'r rhagolygon o ran gwariant cyhoeddus yn hynod o heriol, ac mae'n bwysig bod gan lywodraeth leol fwy o hyblygrwydd i ddefnyddio ei hadnoddau i gyflawni ei blaenoriaethau o ran gwasanaethau yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwrw ati â gwaith i symleiddio ffrydiau ariannu grantiau a lleihau'r cymhlethdod a'r biwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â neilltuo cyllid.

 

Mae'r ffigwr dros dro ar gyfer y Grant Cynnal Refeniw yr wyf wedi ei gyhoeddi heddiw yn cynnwys y £44 miliwn sy'n cael ei dalu ar hyn o bryd drwy ffrydiau ariannu penodol ar gyfer grantiau, y tu allan i'r Grant Cynnal Refeniw. Yn fwyaf arwyddocaol, rwyf i, drwy gytundeb â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi symud y Gronfa Amddifadedd i mewn i'r Grant Cynnal Refeniw. Bydd patrwm y dosbarthiad yn cael ei rewi, a bydd yn cael ei ystyried maes o law. Rydym yn edrych ar ddichonoldeb ymgorffori cyllid grant penodol eraill o fewn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y setliad terfynol. 

 

Yn ogystal â'r cymorth heb ei neilltuo, bydd lefel sylweddol (dros £600 miliwn) o grantiau penodol gan bob un o Adrannau Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i fod ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a mentrau penodol. Mae rhai Adrannau yn dal i weithio ar fanylion y dyraniadau grant penodol, ond bydd rhagor o gynnydd flwyddyn nesaf mewn cyllid i gefnogi'r Cyfnod Sylfaen a Rheoli Gwastraff.    

 

Mae pob adfyd yn esgor ar gyfleoedd ac rwy'n croesawu'r modd y mae Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol wedi cydweithio i fynd i'r afael â'r anawsterau y bu angen i ni eu hwynebu yn ystod cylch y gyllideb hon. Mae fy nghynigion ar gyfer y setliad wedi cael eu llywio gan ddull llawer mwy cydweithredol o ymdrin â chylch blynyddol yr Is-grwpiau Gwariant. Mae ein swyddogion wedi gweithio i sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin rhyngom o'r pwysau sy'n wynebu llywodraeth leol ac i nodi cyfleoedd a allai ddeillio o fwy o gydweithredu, o gaffael craffach, ac o adolygu systemau (gan gynnwys mentrau sydd eisoes ar y gweill yn y meysydd hyn) er mwyn ysgafnhau ar y beichiau hyn mewn hinsawdd o gyfyngiadau ariannol cynyddol. Rydym eisoes yn trafod sut orau i adeiladu ar y dull hwn o fynd i'r afael â'r heriau anorfod sydd o'n blaenau.

 

Dim ond trwy gydweithredu a phartneriaeth y byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r anawsterau go iawn sydd yn ein hwynebu. Rwy'n credu, yn wyneb yr holl amgylchiadau, bod y cynigion ar gyfer y setliad dros dro rwyf wedi ei gyhoeddi heddiw yn fan cychwyn da.