Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygiad o Addysg Gerdd yng Nghymru ar gyfer dysgwyr 3-19 oed a lansio Cân Sing, rhaglen i gefnogi canu mewn ysgolion.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau

Mae'r datganiad hwn yn rhoi manylion i Aelodau am y camau sy'n cael eu cymryd i wella'r dewis o gyfleoedd ar gyfer addysg gerdd mewn ysgolion a'r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr.

Mae gan gerddoriaeth le arbennig yn niwylliant a threftadaeth Cymru.  Felly mae hybu sgiliau cerddorol pobl ifanc yn rhan annatod o'r Cyfnod Sylfaen newydd.  Mae'r cwricwlwm ysgol diwygiedig yn darparu rhaglen astudio i bob disgybl 7-14 oed sy'n cynnwys perfformio, cyfansoddi a gwerthuso cerddoriaeth.  Rhaid i rwydweithiau dysgu 14-19 sicrhau bod pob dysgwr 14-19 oed yn cael mynediad at brofiadau creadigol ac esthetig, gan gynnwys cerddoriaeth.

Er mwyn adeiladu ar hyn a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r cyfleoedd ar gyfer cerddoriaeth yn y diwrnod ysgol a thrwy weithgareddau allgwricwlaidd, gofynnais i grŵp gael ei sefydlu i adolygu'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg gerdd i ddysgwyr 3-19 oed.  Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp ar 25 Medi.  Mae'r grŵp, sy'n cael ei gadeirio gan Emyr Wynne Jones, ymgynghorydd cerddoriaeth Sir Gaerfyrddin, yn dwyn ynghyd athrawon presennol a chynrychiolwyr nifer o sefydliadau sy'n ymwneud â cherddoriaeth, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Estyn.

Gofynnais i'r grŵp ystyried y meysydd canlynol ac adrodd yn ôl ataf erbyn mis Mawrth 2010:

  • Adolygu'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer dysgwyr 3-19 oed o fewn y cwricwlwm a thrwy weithgareddau 'y tu allan i oriau ysgol', gan nodi’r cryfderau a’r meysydd i'w gwella mewn arferion presennol.
  • Mapio'r cymorth a roddir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yng Nghymru.  Dylai hyn gynnwys adnabod arferion gorau ac asesu unrhyw fylchau neu orgyffwrdd.
  • Adnabod sut y gellid cryfhau darpariaeth cerddoriaeth yng Nghymru, gyda'r nod o gael mwy o gydlyniant rhwng darpariaeth cerddoriaeth statudol a hyfforddiant offerynnol/lleisiol. 
  • Ystyried i ba raddau y mae cerddoriaeth yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru i wella iechyd a lles dysgwyr. 
  • Gwneud argymhellion am unrhyw welliannau, gan ystyried y cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus.


I gyd-fynd â sefydlu'r grŵp ac i wella cyfleoedd ar gyfer canu, cytunais hefyd ar weithredu'n gynnar i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol.  Mae canu yn gynhwysol ac yn rhoi cyfleoedd i bob dysgwr ddatblygu ac ehangu eu sgiliau a’u diddordebau cerddorol.  Felly, mae canu yn sylfaen hyfforddi dda ar gyfer hyfforddiant offerynnol ac yn helpu dysgwyr i feithrin eu doniau a'u sgiliau arbennig i'r safon uchaf bosibl.

Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod gwaith wedi dechrau ar raglen, CânSing, a fydd yn cynnig cyngor, hyfforddiant a chymorth ymarferol i ysgolion dros gyfnod o dair blynedd.  ContinYou Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol bydd yn cyflwyno’r rhaglen.  Bydd y pwyslais ar ysgolion uwchradd yn cydweithio gydag ysgolion cynradd partner, gan gynnwys ysgolion arbennig, i wella'r ddarpariaeth i ddisgyblion yn nwy flynedd olaf yr ysgol gynradd a blwyddyn gyntaf addysg uwchradd.  Mae'r cyfnod 'pontio' hwn yn arbennig o bwysig o ran cynnal mwynhad a dilyniant plant mewn canu.  Dros y tair blynedd, bydd £476k ar gael i gefnogi gweithredu'r rhaglen gan gynnwys hyfforddiant i ymarferwyr a darparu adnoddau dysgu.

Mae'r rhaglen yn defnyddio’r cyngor gan randdeiliaid allweddol gan gynnwys CAGAC (Cymdeithas Addysg Gerdd Awdurdodau Cymru / Welsh Authorities Music Education Association). Mae gweithredu'r rhaglen yn cael ei ategu gan grŵp llywio sy'n dwyn ynghyd ymarferwyr o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, ymgynghorwyr awdurdodau lleol, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Estyn.  Y bwriad yw dechrau ar y gwaith maes cychwynnol gyda nifer o awdurdodau lleol ddechrau yn y flwyddyn newydd.  Felly bydd yr adborth cynnar o'r fenter hon yn llywio gwaith y grŵp adolygu cerddoriaeth.