Yr wyf yn croesawu’r adroddiadau ar ddiogelu ac amddiffyn plant a gyhoeddwyd heddiw gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Hoffwn ddiolch i’w staff am ddarparu ystod mor gynhwysfawr o astudiaethau. Cafodd y rhain eu comisiynu yn sgil y digwyddiadau trasig a arweiniodd at farwolaeth Peter Connelly. Gwneuthum ddatganiad ar y pryd i nodi’r camau y byddem yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod ein trefniadau diogelu yn rhai effeithiol.
Mae gennym oll gyfrifoldeb i ddiogelu plant fel dinasyddion. Mae hynny’n berthnasol i’r Llywodraeth ac i fudiadau statudol a gwirfoddol. Aethom ati i wneud hynny yn y lle cyntaf drwy ofyn i’r sawl sydd yn gyfrifol am reoli diogelwch plant am eu hasesiad o’r sefyllfa. Dyna’r ffordd orau i ni gyd gael darlun clir o’r sefyllfa ac i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a fyddai’n dod i’r amlwg. Yr wyf yn falch o weld bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn gyffredinol yn cadarnhau cywirdeb yr hunanarchwiliadau hyn.
Nid dyma’r amser i geisio rhoi ymateb cynhwysfawr i’r adolygiadau hyn; mae arnom i gyd angen eu hystyried yn ofalus, a byddaf yn rhoi cyfle llawn i Aelodau’r Cynulliad eu trafod yn y Siambr ar 17 Tachwedd. Fodd bynnag, mae arnaf eisiau tynnu sylw at nifer o faterion allweddol. Yr wyf yn falch o weld bod gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud gan awdurdodau lleol o ran cryfhau eu trefniadau i amddiffyn plant a bod pethau’n symud yn eu blaenau ac yn gwella yng nghyswllt trefniadau diogelu ar draws sefydliadau gofal iechyd. Mae cydweithio wrth galon diogelu da ac yr wyf yn falch o weld bod adroddiad AGGCC yn dweud bod asiantaethau’n cydweithio’n effeithiol o ran ymateb i bryderon cychwynnol. Mae arnaf eisiau cofnodi fy niolch i'r holl weithwyr proffesiynol hynny sy'n gwneud y gwaith anodd ac amlwg iawn hwn am y gwelliannau y maent wedi’u gwneud.
Mae’r adroddiadau’n nodi meysydd lle mae angen rhagor o waith i gyflenwi'n gryfach. Maent yn amlygu swyddogaeth hollbwysig arweinyddiaeth mewn cyrff statudol ac ym mhob partneriaeth. Yr ydym eisoes wedi cyhoeddi arweiniad ar swyddogaethau a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ac wedi pennu disgwyliadau clir ar gyfer prif weithredwyr byrddau iechyd lleol. Mae arnom angen archwilio’r lefel y gosodir cadeirio byrddau lleol diogelu plant. Byddaf yn ysgrifennu at brif weithredwyr awdurdodau lleol i ofyn iddynt adolygu hynny a rhoi gwybod imi am y canlyniad.
Dengys yr adroddiadau fod perfformiad y gwasanaeth iechyd gwladol ac awdurdodau lleol yn rhy amrywiol. Yr wyf wedi mynegi fy mhryderon ynghylch hynny o’r blaen—nid yw’n dderbyniol. Rhaid i bob corff statudol yng Nghymru archwilio ei berfformiad ei hun mewn ffordd dryloyw i fodloni ei hun ei fod yn cyflenwi yn y modd y dylai fod yn cyflenwi. Gwn y bydd yr arolygiaethau’n dychwelyd at hyn. Byddaf hefyd yn gofyn i'r comisiwn ar wasanaethau cymdeithasol roi sylw i'r mater hwn. Bydd ad-drefnu diweddar y GIG yn helpu cysondeb, ac mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi gofyn i’r Athro Mansel Aylward edrych ar y trefniadau sy’n cefnogi gwaith diogelu yn y GIG. Erys rhai materion sylfaenol y mae arnom angen rhoi sylw iddynt. Nid yw’n dderbyniol nad yw archwiliadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol wedi cael eu gwneud yn gyson mewn rhai llefydd. Ni all hynny fwrw ymlaen, a bydd y trefniadau newydd ar gyfer fetio a gwahardd yn cryfhau hyn ymhellach fyth. Mae’r adroddiadau hyn hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle gallwn gryfhau’r fframwaith ar gyfer diogelu.
Yr wyf yn falch o weld bod yr egni yr ydym i gyd wedi’i fuddsoddi i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol wedi talu ar ei ganfed. Mae’n braf iawn gweld effaith gynnar cefnogaeth yn y flwyddyn ymarfer gyntaf. Unwaith eto, nid yw hyn yn gyffredin eto, ac yr wyf yn gofyn i’r prif arolygydd fynd ar drywydd hynny. Gwneuthum yn glir yn y gynhadledd gwasanaethau cymdeithasol flynyddol ym mis Mehefin ei bod yn rhaid inni roi mwy o werth a phwyslais ar ymarfer proffesiynol mewn gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol. Gwyddom fod ymarfer hyderus a phendant yn gwneud gwahaniaeth. Mae hynny’n ganolog i’r gwaith y bydd y grŵp gorchwyl ar y gweithlu yr wyf fi wedi’i sefydlu yn ei gyflawni.
Nid yw cydweithio â phlant a theuluoedd ar ôl y cam cyfeirio a’r penderfyniadau cychwynnol wedi bwrw ei wreiddiau'n ddigon cadarn eto. Ar hyn o bryd mae gormod yn disgyn i wasanaethau cymdeithasol a bydd angen rhoi rhagor o sylw i hyn. Un cyfraniad at hyn yw defnyddio ein pwerau drwy arloesi datblygu timau integredig cymorth i deuluoedd.
Un o brif ganfyddiadau’r adroddiadau oedd perfformiad amrywiol byrddau lleol diogelu plant a diffyg eglurder ynghylch eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau a rhai’r partneriaethau plant a phobl ifanc. Mae’r arweiniad ar bartneriaethau a chynlluniau’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru. Mae angen mwy i gryfhau cydweithio ar fyrddau lleol diogelu plant os ydynt am gyflawni eu swyddogaeth o ran codi ymwybyddiaeth, cefnogi hyfforddiant a darparu cyngor, arweiniad a sialens. Mae gormod yn wan a ddim yn cael digon o gefnogaeth gan yr ystod o bartneriaid statudol. Yr wyf yn cwestiynu ai cael 20 bwrdd lleol diogelu plant yw’r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o gefnogi staff ar y rheng flaen.
Yr wyf yn poeni yr erys rhwystrau sy’n atal rhannu gwybodaeth yn iawn, yn enwedig yn y GIG. Mae’r arweiniad statudol yn glir, a bydd gwelliant diweddar y Llywodraeth i’r Mesur arfaethedig ynghylch plant a theuluoedd yn rhoi dyletswydd ar y GIG i hysbysu’r awdurdod lleol pan fydd o’r farn bod problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau oedolyn yn peri risg i blentyn. Yr wyf yn bwriadu arddel agwedd gyfannol at rannu gwybodaeth, er mwyn sicrhau bod pwysigrwydd gwneud hynny wedi’i wreiddio mewn prosesau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn y ffordd y mae pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol yn meddwl.
Dywedais ar y cychwyn mai dim ond drwy gydweithio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a leol y gellir cyflawni diogelu. Yr wyf felly wedi gofyn i gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Cymru arwain fforwm diogelu Cymreig lle bydd prif weithredwyr Byrddau Iechyd Lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, yr heddlu a’r arolygiaethau perthnasol ac uwch swyddogion yn bresennol.
I gloi, yn anochel mae’r adroddiadau hyn yn rhoi ciplun inni ar gyfnod. Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi fy sicrhau eu bod yn mynd ar drywydd materion penodol. Yr wyf yn croesawu’r adroddiad a’i argymhellion ar adolygiadau achosion difrifol. Yr wyf yn awr wedi gofyn am gynigion penodol i weithredu’r syniadau sydd yn yr adroddiad hwn. Rhaid i ddiogelu aros yn uchel ac yn amlwg ar ein holl agendâu. Yr wyf yn falch ein bod wedi symud ymlaen ond, yn anochel, nid da lle gellir gwell, ac wrth gwrs ni allwn byth laesu ein dwylo.