Skip to content

Llafar - Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau

Mae’n bleser cyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) ynghylch llywodraethu ysgolion. Heddiw yw'r cyfle cyntaf i Aelodau'r Cynulliad drafod a chraffu ar ein Gorchymyn arfaethedig, a fydd yn ychwanegu mater pellach at faes 5 Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yng nghyswllt llywodraethu ysgolion a gynhelir. Mae’r gyfraith bresennol, a osodir allan yn bennaf yn Neddf Addysg 2002, yn mynnu bod gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru ei chorff llywodraethu ei hun sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol honno’n lleol.

 

Yr oedd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Medi 2009 wedi rhoi cyfle i Aelodau drafod adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu, ‘Swyddogaeth Llywodraethwyr Ysgol’, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni. Yr oedd yr adroddiad hwnnw, er yn amlygu’r gwaith ardderchog sydd eisoes yn cael ei wneud gan gyrff llywodraethu, yn amlygu rhai meysydd y gellir eu gwella. Yr oedd y rhain yn cynnwys cefnogaeth a chyngor i lywodraethwyr, hyfforddiant i lywodraethwyr, swyddogaeth y clerc, cyfathrebu a gwybodaeth am y cyd-destun polisi y mae llywodraethwyr yn gweithio oddi fewn iddo, a’r berthynas rhwng effeithiolrwydd llywodraethwyr a pherfformiad ysgol.

 

Fel y bydd Aelodau wedi’i gasglu o’m hymateb ysgrifenedig i’r adroddiad, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod llywodraethu ysgolion a gynhelir yn sylfaen i sut y mae ysgolion yn gweithredu yng Nghymru, yn cefnogi hynny ac â chyswllt annatod â hynny. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu’r gwaith caled sydd wedi cael ei wneud gan dros 23,000 o lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ac, oherwydd ei bod yn cydnabod bod llywodraethu da yn bwysig i’n hysgolion, mae’n iawn y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru allu pasio Mesurau a fydd yn cefnogi ac yn gwella trefniadau llywodraethu fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau’r safonau uchaf posibl yn ein hysgolion.

 

Bydd yr LCO arfaethedig hwn yn rhoi’r cymhwysedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud yn union hynny. Bydd yn mynd â Llywodraeth Cynulliad Cymru gam yn nes at sicrhau bod llywodraethwyr ysgol a chyrff llywodraethu ysgolion wedi’u harfogi i ddarparu gwasanaeth o ansawdd gwell byth, ynghyd â mwy o gefnogaeth i ysgolion ac i ddisgyblion Cymru. Mae gwaith cyfochrog yn cael ei wneud yng nghyswllt llywodraethu mewn sefydliadau addysg bellach. Ceir eisoes bwerau wedi’u datganoli yng nghyswllt addysg bellach, ac mae’n bwysig bod gennym gymhwysedd tebyg yng nghyswllt ysgolion.

 

Mae ein blaenoriaethau polisi mewn addysg, megis y llwybrau dysgu 14-19, y fframwaith effeithiolrwydd ysgolion, a'r agenda gweddnewid, i gyd yn dibynnu ar fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ysgolion ac i sefydliadau addysg bellach gydweithio'n fwy cydweithredol er budd dysgwyr. Mae gennym eisoes enghreifftiau o ysgolion yn gweithio’n fwy cydweithredol drwy gytundeb. Er enghraifft, ceir ymrwymiad clir yn Ynys Môn a Gwynedd i ysgolion ac i golegau gydweithredu a chydweithio. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu ac ehangu'r dewisiadau cyrsiau cyffredinol a galwedigaethol sydd ar gael ar lefel cyn ac ar ôl 16 er mwyn cynnig gwell dewisiadau a hyblygrwydd i ddysgwyr.

 

Er mwyn dangos hyn, mae Coleg Menai a holl ysgolion uwchradd Môn yn cydweithio’n gydweithredol i ddarparu tystysgrif gyntaf BTEC mewn peirianneg ar lefel 2. Ceir hefyd enghreifftiau o'r arfer gorau yn ein hysgolion cynradd. Mae Dewi Sant, Croesatti, Llanfairpwll, Penybryn a Cae Top yn glwstwr o ysgolion cynradd sy’n gweithio’n gydweithredol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu llais y disgybl.

 

Mae’r enghreifftiau gwych hyn gennym, ond mae arnom eisiau gwneud mwy i blant Cymru ac i ddyfodol addysg yng Nghymru. Petai’r Gorchymyn arfaethedig hwn yn cael ei gymeradwyo, byddai’n rhoi’r cymhwysedd i ddeddfu ar reoli ac ar lywodraethu ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol. Byddai cael y cymhwysedd hwn yn rhoi'r cyfleoedd i ddeddfu ar gyfansoddiad ac ar aelodaeth cyrff llywodraethu, eu gallu i gydweithredu, a’u hyfforddiant. Ein diben wrth gyflwyno unrhyw Fesur yn y dyfodol fyddai gwella’r strwythurau ac ansawdd y penderfyniadau gyda’r egwyddor sylfaenol o wella effeithiolrwydd addysgol yn gyffredinol.

 

I amlinellu’r agweddau technegol, mae’r Gorchymyn arfaethedig yn cynnig mewnosod tri mater newydd ym maes 5, addysg a hyfforddiant, Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn gyntaf, byddai mater 5.2A yn rhoi’r cymhwysedd i’r Cynulliad ddeddfu ar reoli ac ar lywodraethu ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol. Byddai hefyd yn caniatáu inni ddeddfu ar gyfansoddiad ac ar aelodaeth cyrff llywodraethu, ar hyfforddi llywodraethwyr, ac ar greu neu ddiddymu, a dyrannu swyddogaethau ymysg, cyrff sy’n gyfrifol am lywodraethu ysgolion.

 

Yn ail, byddai mater 5.2B yn rhoi’r cymhwysedd i’r Cynulliad ddeddfu ar sicrhau cydweithrediad rhwng unigolion neu gyrff sydd â swyddogaethau yng nghyswllt ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol. Mae gan y Cynulliad gymhwysedd yn barod i sicrhau cydweithrediad rhwng sefydliad addysg bellach ac ysgol, dan fater 5.13.

 

Yn drydydd, byddai mater 5.2C yn rhoi'r cymhwysedd i'r Cynulliad ddeddfu ar roi awdurdod i sefydlu corff addysg i gyflawni gweithgareddau sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, er enghraifft, i ddarparu gwasanaethau i ysgolion ac i sefydliadau addysg bellach. Byddai’r mater hwn hefyd yn caniatáu i gorff a sefydlwyd felly i ymarfer swyddogaethau ar ran awdurdodau addysg lleol.

 

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i drosglwyddo’r pŵer i gynnig deddfwriaeth ar lywodraethu ysgolion o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yr wyf yn pwysleisio y bydd yr LCO arfaethedig yn ychwanegu’n sylweddol at gymhwysedd presennol Llywodraeth y Cynulliad ym maes addysg a hyfforddiant. Mae’n llenwi bwlch pwysig mewn cymhwysedd a bydd yn caniatáu inni weithio ar sail gydlynol a chyson ar draws darparwyr addysg yng Nghymru mewn ffordd sy’n adlewyrchu lefel y diwygio yr ydym wedi’i roi wrth galon ein hagenda gwella ysgolion. Mae’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig yn gam pwysig ar siwrnai gyfansoddiadol ehangach ar gyfer addysg ac ar gyfer y Cynulliad. Gobeithiaf y caiff ei groesawu gan bob plaid yma.