Skip to content

Llafar - Baratoi ar gyfer Copenhagen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson – y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Bydd gwledydd y byd yn cwrdd ym mhymthegfed gynhadledd confensiwn fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd, a gynhelir yn Copenhagen rhwng 7 a 18 Rhagfyr 2009. Disgwylir i’r gynhadledd hon gyflawni cytundeb byd-eang ar newid yn yr hinsawdd a fyddai’n dod i rym pan ddaw protocol Kyoto i ben yn 2012. Mae sicrhau cytundeb byd-eang yn hollbwysig i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ennyn gweithredu byd-eang cyflym a sylweddol ar y mater hwn sydd o’r pwys mwyaf.

 

Yr ydym yn credu, fel gwlad ddiwydiannol, fach, fod gan Gymru ran bwysig i’w chwarae drwy gymryd yr awenau ar y mater hwn. Mae llywodraethau rhanbarthol yn allweddol ar gyfer gweithredu cytundeb byd-eang ar newid yn yr hinsawdd. Mae Cymru yn gydgadeirydd Ewrop Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, nrg4SD, sy’n swyddogaeth a gawsom ym mis Mehefin. Mae Cymru yn gweithio’n agos gyda phartneriaid rhwydwaith llywodraethau rhanbarthol, y Cenhedloedd Unedig a chyrff Ewropeaidd a sefydliadau eraill i godi’r gydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer gweithredu llywodraethau rhanbarthol ar newid yn yr hinsawdd. Byddaf yn cymryd rhan yn y gynhadledd ac yn nhrafodion cynhadledd COP15 yn Copenhagen ym mis Rhagfyr. Dyma yw fy rhaglen hyd yn hyn.

 

Ddydd Sul, 13 Rhagfyr, byddaf yn siarad mewn digwyddiad mawr a drefnir gan Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop a Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig gyda gwleidyddion allweddol a busnesau sy’n canolbwyntio ar gymunedau hinsawdd ac arweinwyr byd a gwyddonwyr. Ddydd Llun 14 Rhagfyr byddaf yn cadeirio pwyllgor llywio a digwyddiad ymylol nrg4SD, ac yn mynd i ddigwyddiad Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop i lansio ffilm, Oceans Day. Ddydd Mawrth 15 Rhagfyr byddaf yn siarad yn uwchgynhadledd a digwyddiad ymylol y Grŵp Hinsawdd. Yn dilyn hyn, byddaf yn siarad mewn digwyddiad gyda dirprwyaeth o Senedd Ewrop, y Rhwydwaith Byd Eang ar Ynni ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a drefnir gan Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop, a digwyddiad i bobl ifanc a drefnir gan arlywyddiaeth Sweden a Fforwm Ieuenctid Ewrop. Mae’r dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau olaf hyn eto i gael eu cadarnhau. Ceir nifer o gyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau eraill a chyfarfodydd dwyochrog a gynhelir yn ystod y prif ddigwyddiad.

 

Byddaf yn mynd â nifer o negeseuon i gynhadledd Copenhagen. Yn gyntaf, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch y testun negodi sydd i’w gyflwyno i ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cynhadledd Copenhagen. Mae’r testun hwn yn galw am fwy o gydnabyddiaeth o’r swyddogaeth y mae rhanbarthau’n ei chwarae mewn gweithgarwch newid yn yr hinsawdd oherwydd bydd rhwng 50 y cant a 80 y cant o’r camau gweithredu lliniaru ac addasu y mae eu hangen er mwyn cyflawni nodau’r Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yn cael eu rhoi ar waith ar lefelau is-genedlaethol a lleol. Bwriedir iddo fod yn sylfaen ar gyfer cyfranogiad rhanbarthol yn y dyfodol yn y cam gweithredu yn dilyn cytundeb cynhadledd Copenhagen.

 

Mae Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ganolog i’n gwaith i fynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Mae'r comisiwn wedi datblygu consensws clir ar y canlyniadau y mae arno eisiau eu gweld o gynhadledd Copenhagen, sydd wedi’i osod allan yn y datganiad yr af gyda mi. Mae'r datganiad hwn eisoes wedi cael ei gyflwyno mewn digwyddiad ynni a newid yn yr hinsawdd pwysig a oedd yn rhan o'r Ŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington.

 

Yng nghyfarfod y comisiwn ar 27 Hydref, rhoddodd yr aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am eu paratoadau ar gyfer Copenhagen. Er enghraifft, mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi cwrdd i drafod elfennau cyffredin ar gyfer Copenhagen â ffederasiynau busnes mewn gwledydd megis yr Almaen, Tsieina a Rwsia; bydd y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn cyflwyno ei hadroddiad 'Zero Carbon Britain 2’ yn Copenhagen; mae aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru, drwy’r Glymblaid Atal Anrhefn Hinsawdd, yn cefnogi gwrthdystiadau 'blue wave’ y DU a bydd draig las yn cynrychioli Cymru yn Copenhagen.

 

Yr oeddem yn arbennig o awyddus i fynd â safbwyntiau pobl ifanc gyda ni: mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen bod pobl ifanc yn ymwneud â gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Wedi’r cyfan, nhw fydd yn etifeddu’r byd a fydd yn deillio o’r penderfyniadau a wneir yn Copenhagen. Yr oeddem wedi cynnal digwyddiad ar gyfer pobl ifanc yn Abertawe fis Gorffennaf, a roddodd gyfle i’r rheiny a oedd yn bresennol rannu eu safbwyntiau â ni. Yr ydym yn llunio cyflwyniad a fydd yn cynnwys ffilm o’r blychau fideo, sydd wedi’i lwytho i fyny ar Facebook, sylwadau o’r waliau graffiti ac adborth o negeseuon eraill a roddwyd inni, megis y rheiny o’r ymgyrch Tick Tock, ac o ffynonellau megis ymgyrch Tystion Hinsawdd WWF.

 

Bydd un o’n hyrwyddwyr newid hinsawdd ar gyfer Cymru yn dod i Copenhagen ac yn helpu i gyfleu’r negeseuon hyn gan bobl Cymru. Yn ogystal â chwrdd â chynadleddwyr ifanc eraill i ddysgu o wledydd eraill, bydd ef neu hi yn ymgysylltu pobl ifanc yng Nghymru â’r trafodaethau, a’r angen i weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Yr ydym yn rhagweld y bydd gan gyfryngau Cymru gryn ddiddordeb yn eu gweithgareddau.

 

Yn ystod y cyfnod sy’n arwain at Copenhagen, yr ydym wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau uchel eu proffil. Yr oeddem wedi cymryd cam mawr ymlaen yn Poznań fis Rhagfyr diwethaf, gyda’r cytundeb dilynol ar becyn hinsawdd ac ynni’r UE. Bûm yng nghyfarfod Cyngor yr Amgylchedd ym Mrwsel ar 2 Mawrth 2009, a oedd yn adeg bwysig i weithredu’r UE ar newid yn yr hinsawdd. Ddydd Gwener ddiwethaf, cyhoeddwyd safbwynt yr UE ar Copenhagen. Bydd y safbwynt hwnnw’n caniatáu i’r UE chwarae rhan adeiladol yn y trafodaethau, yn enwedig ar gyllid ac ystyried bod yr UE yn fodlon cyfrannu ei chyfran deg o’r cyllid y mae ei angen i gefnogi cytundeb.

 

Ddiwedd mis Mai, bûm yn cadeirio digwyddiad ymylol a gynhaliwyd gan raglen datblygu’r Cenhedloedd Unedig ar bartneriaethau cyhoeddus-preifat rhanbarthol yn yr uwchgynhadledd busnes byd ar newid yn yr hinsawdd yn Copenhagen. Cyflwynais y gweithgarwch a oedd yn mynd rhagddo yng Nghymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’n rhan yn rhaglen datblygu’r Cenhedloedd Unedig i gefnogi rhanbarthau gwledydd sy’n datblygu, y dull gweithredu tiriogaethol at newid yn yr hinsawdd a’n partneriaeth â’r rhanbarth Mbale yn Uganda.

 

Bûm hefyd yn siarad yn Uwchgynhadledd Fyd-eang a Llywodraethwyr UDA: On the Road to Copenhagen rhwng 30 Medi a 2 Hydref. Yr oedd yr uwchgynhadledd honno’n hybu cydnabyddiaeth swyddogol gan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer arweiniad a chefnogaeth is-genedlaethol yn y cyfnod hyd at gytundeb yn Copenhagen. Yfory, byddaf yn teithio i ddigwyddiad trafod olaf Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yn Barcelona, lle byddaf yn cadeirio digwyddiad ymylol nrg4SD ac yn siarad mewn digwyddiad a drefnir gan y Grŵp Hinsawdd. Mae cymryd rhan yng nghynhadledd Copenhagen yn galluogi Cymru i ddangos, ar lwyfan byd-eang, ein bod ymysg y llywodraethau rhanbarthol mwyaf gweithredol ac effeithiol o ran mynd i’r afael â datblygu cynaliadwy a newid yn yr hinsawdd.