Skip to content

Ysgrifenedig - Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 – Ymgynghoriad ar y canllawiau statudol ar Ran 1 a Rhan 2 y Mesur

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y cafodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngham 4 ar 28 Ebrill ac y cafodd Gydsyniad Brenhinol ar 10 Mehefin 2009. Mae'r darn arwyddocaol hwn o ddeddfwriaeth, a gyflwynais ym mis Medi y llynedd, yn gweddnewid yn sylweddol y gyfraith ar wella gwasanaethau a chynllunio strategol mewn llywodraeth leol, ac mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi'i groesawu'n helaeth. Rwy'n bwriadu i'r Mesur ddod i rym dros y 18 mis nesaf, i gyd-fynd â chylchoedd cynllunio busnes ac adrodd yr awdurdodau lleol.

 

Mae adran 48 y Mesur yn cynnwys darpariaethau i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar adrannau penodol o'r Mesur. Mae'r adran hon hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau gwahanol i gyrff gwahanol yn y Mesur. Mae hyn felly'n cynnig hyblygrwydd. Heddiw, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad deuddeg wythnos ar y canllawiau mewn dwy ran.

 

Mae'r rhan gyntaf yn ymwneud â’r canllawiau statudol yn rhan 1 y Mesur. Mae'r rhan hon yn y bôn yn diwygio'r gyfundrefn wella y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol (sydd bob un ohonynt bellach yn awdurdod gwella Cymreig) ei dilyn o 1 Ebrill 2010.

 

Mae'r ail ran yn ymwneud â’r canllawiau statudol yn rhan 2 y Mesur. Mae'r rhan hon yn ymwneud â'r broses cynllunio cymunedol a'r strategaeth gymunedol y bydd partneriaid cynllunio cymunedol statudol yn destun iddi o fis Ionawr 2010 ymlaen. Y partneriaid cynllunio cymunedol statudol yng Nghymru yw awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, cynghorau tref a chymuned, awdurdodau tân ac achub, byrddau iechyd lleol, awdurdodau'r heddlu a phrif gwnstabliaid yr heddlu.

 

Bydd yr ymgynghoriad ar gael ar adran ymgynghori gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chaiff copi caled ei anfon i'r holl gynghorau tref a chymuned yng Nghymru.