Skip to content

Ysgrifenedig - Ymgynghoriad ar y Strategaeth Tlodi Tanwydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Heddiw yr wyf wedi lansio’r ymgynghoriad ar Strategaeth Tlodi Tanwydd diwygiedig Cymru. Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu fy mwriad gwreiddiol o fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, gan gynnwys canolbwyntio’n arbennig ar wella effeithlonrwydd ynni'r cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni  yng Nghymru.

 

Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys adolygiad o’r Ymrwymiad Tlodi Tanwydd a gyhoeddwyd yn 2003, ac mae’n crynhoi hynt y gwaith yn unol â’n hamcanion ar gyfer tlodi tanwydd, yn ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ac yn cynnig dull mwy diweddar o weithredu ar gyfer mynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.

 

Mae’r Cynllun Cenedlaethol Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni a’r argymhellion a oedd yn deillio o’r Grŵp Cynghori Tlodi Tanwydd wedi cyfrannu gwybodaeth ar gyfer y ddogfen ymgynghori hon.

 

Mae’r ymgynghoriad yn cadarnhau ein bwriad gwreiddiol i newid y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref ynghyd ag amlinellu’r cynigion i:

  • Wella lefel y cyngor a’r gefnogaeth
  • Annog darpariaeth fwy cydgysylltiedig o’r gwasanaethau ynghyd â chydweithio
  • Datblygu rhaglen effeithlonrwydd ynni sy’n seiliedig ar ardal
  • Cefnogi camau gweithredu ar lefel gymunedol
  • Helpu deiliaid tai i dalu am welliannau ynni
  • Sicrhau’r incwm mwyaf posibl
  • Helpu deiliaid tai i sicrhau eu bod yn cael y fargen orau o ran ynni
  • Annog landlordiaid i wella effeithlonrwydd ynni eu safleoedd
  • Annog awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a’u partneriaid i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

 

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 4 Ionawr.

 

Byddaf hefyd yn ystod y gaeaf yn ymgynghori ar Reoliadau’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref.