Skip to content

Ysgrifenedig - Treillio am gregyn bylchog yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig gan y Cabinet gyhoeddais ar 9 Hydref 2009 i ddweud am fy mhenderfyniad i ymestyn y tymor caeëdig ar gyfer treillio am gregyn bylchog tan 28 Chwefror 2010, mae’n dda gennyg gyhoeddi fod y Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) drafft 2010 wedi’i gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd yn unol â’r Gyfarwyddeb Safonau Technegol.

 

Yn sgil estyn y tymor caeëdig, mae amser i roi mesurau technegol penodol a manwl ar waith fydd yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i reoli’r bysgodfa cregyn bylchog yng Nghymru mewn ffordd a fydd yn diogelu ei chynaliadwyedd tymor hir fel rhan o ecosystem forol iach, gan amddiffyn yr un pryd rywogaethau a chynefinoedd bregus yn ardal forol Cymru.

 

Mae’r Gorchymyn drafft newydd yn cynnwys mesurau o’r ddogfen ymgynghori fel: gwahardd treillio am sgalops o fewn yr ardal 0 - 1 filltir forol o gwmpas arfordir Cymru; cyfyngu ar nifer yr offer treillio a ganiateir yn yr ardaloedd 1-3 milltir forol, 3-6 milltir forol a 6-12 milltir forol; cyfyngu ar nerth llongau i 221kW (300 hp) o fewn yr ardal 1-12 filltir forol; gosod cyfyngiadau penodol ar offer ac o 2011, lleihau hyd y tymor treillio o un mis (h.y. gwaherddir cymryd, lladd a physgota am gregyn bylchog rhwng 1 Mai a 31 Hydref bob blwyddyn).

 

Rhagwelir y caiff y cyfyngiadau ardal eu hymgorffori yn y Gorchymyn cyn ei arwyddo a bwriedir i’r Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) ddod i rym ar 1 Mawrth 2010.  Mae arolygon ar fin cychwyn i roi tystiolaeth gadarn inni allu dewis yr ardaloedd lle dylid cyfyngu ar dreillio am gregyn bylchog a lle gallai’r bysgodfa cregyn bylchog gael ei chaniatáu heb beryglu rhywogaethau na chynefinoedd pwysig a bregus y môr.