Skip to content

Ysgrifenedig - Cyd-ddealltwriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth Leol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae Cyd-Ddealltwriaeth Newydd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r Cynulliad a Llywodraeth Leol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Yng nghyfarfod y Cyngor Partneriaeth heddiw, llofnododd Mr John Davies, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a minnau ddatganiad ar y cyd ynghylch y berthynas rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol: Cyd-ddealltwriaeth Newydd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth Leol yng Nghymru. 

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol i ddarparu gwell gwasanaethau i ddinasyddion.  Mae perthynas adeiladol yn allweddol er mwyn bod yn sylfaen i'r gwaith o gyflawni ein hamcanion strategol, yn ogystal â chefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau lleol rhagorol sy'n ateb gofynion a dyheadau pobl leol a'u cymunedau.  Mae hyn yn dibynnu ar ddealltwriaeth glir o swyddogaethau a chyfrifoldebau pob partner, yn ogystal â dealltwriaeth o'r modd y gallwn weithio orau gyda'n gilydd. 

 

 Mae Cyd-ddealltwriaeth Newydd yn amlinellu sut y byddwn yn gwireddu'r dyheadau hyn.  Mae wedi ei seilio ar yr hyn sy'n gyffredin rhyngom, sef 

  •  buddiant mewn cynnig gwasanaethau rhagorol i'r dinesydd;
  •  parch tuag at nodau gwleidyddol ac atebolrwydd ein sefydliadau priodol, a’r agweddau ymarferol ar ddatblygu polisi a chyflwyno gwasanaeth sy’n ein hwynebu; ac 
  •  ymddiriedaeth yn ein hymrwymiad, ein capasiti a’n gallu i gyflawni er lles dinasyddion Cymru.

 

 Bydd cryfder ein partneriaeth yn helpu i lywio Cymru wrth i arian cyhoeddus brinhau.  Rhaid i'r cryfder hwnnw gael ei ddangos drwy weithredoedd, nid geiriau.  Rhaid i ni ddangos ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus a chydweithio ar sail ein nodau cytûn, ein cyd-ddealltwriaeth ac uchelgais cyffredin i wneud Cymru’n wlad deg, ffyniannus, hyderus ac eang ei gorwelion.  

 

 Mae Cyd-ddealltwriaeth Newydd yn disgrifio swyddogaethau a chyfrifoldebau Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol.  Mae'n ailddatgan bod Cymru'n Un yn nodi blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad ac mae'n esbonio sut y gellir ymhelaethu ar y rhain mewn 19 o Ddatganiadau Strategol.  Mae'n cydnabod bod angen rhyddid a hyblygrwydd lleol i ddarparu gwasanaethau ond hefyd, weithiau, y gallai'r ymateb gorau o ran gwasanaeth cyhoeddus fod yn un cenedlaethol neu ranbarthol.   Mewn achosion eraill, gallai gwasanaethau gael eu darparu'n fwy effeithiol drwy grwpiau newydd neu arloesol o awdurdodau a phartneriaid.  Yn y pen draw, yr hyn sy'n bwysig yw sicrhau'r trefniant gorau ar gyfer darparu gwell gwasanaethau i ddinasyddion a chymunedau.

 

Mae sicrhau gwell gwasanaethau yn golygu bod angen gweledigaeth strategol glir, cadarn a huawdl.  Mae Cyd-ddealltwriaeth Newydd yn esbonio sut y byddwn yn newid i asesu llwyddiant gwasanaethau ar sail canlyniadau, ac mae'n egluro'r agwedd newydd tuag at ein perthynas ariannol.  Bydd hyn yn arwain at fwy o hyblygrwydd ac amrywiaeth lleol, yn gysylltiedig â gwell gwasanaethau a gwell canlyniadau.  Bydd awdurdodau sy'n gallu dangos bod ganddynt y capasiti a'r gallu i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt yn cael mwy o ryddid o'r reolaeth a'r cyfarwyddyd canolog ynghylch sut i ddefnyddio cyllid sydd wedi'i neilltuo. 

 

Gall cydweithio i ddatblygu polisïau a rhaglenni arwain at fentrau gwella a chadarnach, y mae mwy o ymdeimlad o gyd-berchnogaeth arnynt.  Mae cyd-gynhyrchu a chydweithio eisoes yn rinweddau'r modd y mae llywodraeth leol a'r llywodraeth ganolog yn gweithredu yng Nghymru.  Mae angen inni barhau i atgyfnerthu'r cysylltiadau hyn, sy'n golygu newidiadau o ran ymddygiad a diwylliant y naill bartner a'r llall.  Drwy wneud hynny, byddwn yn gallu llunio a gweithredu gwell polisïau, a fydd yn sicrhau'r manteision gorau posibl i ddinasyddion.

 

Mae'r gyfundrefn wella llywodraeth leol yn allweddol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn rhai o'r radd flaenaf.  Mae darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi adnewyddu ac ailfywiogi'r gyfundrefn hon.  Dylai hyn arwain at well integreiddio rhwng gweithgarwch gwella byrdymor ar y naill law, a gweithgarwch cynllunio cymunedol strategol hirdymor ar y llaw arall.  Ar y cyd â chyfundrefn ddiwygiedig a chymesur ar gyfer rheoleiddio ac archwilio, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i'r dinesydd, dylai hyn fod yn sbardun grymus i wella gwasanaethau cyhoeddus.

 

 Mae Cyd-ddealltwriaeth Newydd yn gam sylweddol ymlaen yn y berthynas rhwng Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol.  Serch hynny, nid geiriau gwag mohono.  Yn y ddogfen, ceir nifer o gamau gweithredu allweddol i Lywodraeth y Cynulliad ac i awdurdodau lleol.  Bydd y camau hyn yn elfennau pwysig o'n hymdrechion i wella gwasanaethau, yn ogystal ag i wella'r berthynas rhyngom; symleiddio'r modd rydym yn cydweithio; rhoi mwy o eglurder ac arweiniad; a chadarnhau'r ymrwymiad sy'n gyffredin rhyngom i wneud Cymru yn lle gwell i'n dinasyddion.