Skip to content

Ysgrifenedig - Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Mae gwasanaethau cymdeithasol yn rhan hanfodol o fywyd yng Nghymru. Mae angen y gwasanaethau hyn ar 150,000 o bobl y flwyddyn, yn aml ar yr adegau cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae 70,000 o bobl yn rhoi eu bywydau i fodloni'r anghenion hyn. Rydym yn gwario bron £1.2 biliwn y flwyddyn. Yn feunyddiol, caiff gwasanaethau o safon uchel eu darparu ledled Cymru. Nid ydym yn gwadu, wrth gwrs, bod safon y gwasanaethau hyn weithiau'n is na'r disgwyl.

 

Ym mis Mehefin, yng Nghynhadledd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cyhoeddais fod y Llywodraeth yn bwriadu sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried y ffordd orau i wasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol fodloni anghenion dinasyddion Cymru dros y degawd nesaf. Rwy'n falch nawr o gael cyhoeddi penodiad y Cadeirydd ac aelodau'r Comisiwn.

 

Rwyf wedi penodi'r Athro Geoffrey Pearson, Athro Emeritws mewn Troseddeg, Coleg Goldsmith, Prifysgol Llundain, fel Cadeirydd y Comisiwn. Mae'r Athro Pearson yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig gyda gyrfa o ddeugain mlynedd yn darlithio mewn gwaith cymdeithasol, gan gynnwys swydd yng Nghaerdydd. Mae hefyd wedi gwasanaethau ar nifer o weithgorau a chyrff Llywodraeth y DU.  

 

Rwyf hefyd wedi penodi Julie Jones OBE, Prif Weithredwr yr Athrofa Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol Social, a Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru, fel aelodau ychwanegol y Comisiwn.

 

Mae gan Julie Jones oddeutu pymtheg mlynedd ar hugain o brofiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Dinas San Steffan, gan gynnwys blwyddyn fel Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, cyn dechrau'i rôl bresennol fel Prif Weithredwr yr Athrofa Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol yn 2007. 

 

Gweithiodd Rhian Huws Williams fel gweithiwr cymdeithasol a swyddog hyfforddi gydag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Clwyd gynt cyn ei phenodi i'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol, yn gweithio ar iechyd meddwl, dysgu arferion a datblygu'r polisi iaith Gymraeg. Hi yw Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru ers 2001.

 

Rwy'n hyderus bod yr unigolion hyn, gyda'i gilydd, yn meddu ar yr wybodaeth a'r arbenigedd i ystyried sut dylem ymateb i'r heriau rydym yn eu hwynebu.

 

Fel y nodais ym mis Mehefin, rwyf wedi gofyn i'r Comisiwn ystyried y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol eu darparu dros y degawd nesaf, ac yn arbennig sut gall Llywodraeth y Cynulliad wneud y canlynol:

 

  • cefnogi datblygiad pellach arferion proffesiynol;
  • meithrin gwasanaethau cymdeithasol cynhwysol sy'n seiliedig ar gyfraniad yr holl bartneriaid sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol;
  • sicrhau newid sylweddol ar y cyd rhwng gwasnaethau cymdeithasol a gwasanaethau allweddol eraill;
  • sicrhau gwasanaethau cymdeithasol integredig sy'n gallu bodloni anghenion plant, pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

Wrth ystyried y materion hyn, bydd gofyn i'r Comisiwn ystyried effaith newidiadau yn nisgwyliadau'r cyhoedd, newidiadau demograffig ac ystod o sefyllfaoedd o ran adnoddau sy'n sicrhau gwasanaeth cynaliadwy. Hefyd bydd gofyn i'r Comisiwn ystyried y cyd-destun polisi ehangach, gan gynnwys:

 

  • yr egwyddorion yn Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol;
  • Papur Gwyrdd Llywodraeth y Cynulliad ar Dalu am Ofal a chanlyniad ymgynghoriad y Papur Gwyrdd;
  • ymrwymiadau Gweinidogol i adolygu cyllid yn y dyfodol i ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol;
  • y Tasglu ar ddyfodol y gweithlu gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol;
  • y rhaglen diwygio gwasanaethau cymdeithasol dan arweiniad Llywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys y trefniadau newidiol ar gyfer llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd;
  • y fframwaith gofal cymunedol a sylfaenol.

Rwyf eisoes wedi gwneud fy ymrwymiad yn glir fel Gweinidog i roi llywodraeth leol wrth wraidd cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi gwneud yn glir bod angen i ni gyfathrebu gyda phawb sy'n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol, gan gynnwys ein partneriaid yn y sector annibynnol. Ni allwn ddyheu am wasanaethau cynhwysol ac integredig heb wrando ar bawb sydd â diddordeb. Rwyf felly wedi gofyn i'r Comisiwn roi'r cyfle i bawb sydd â diddordeb ac y mae'n debygol y bydd penderfyniadau'r Comisiwn yn effeithio arnynt gael rhoi eu barn ar y materion yn y cylch gorchwyl.

 

Rwyf am sicrhau'n arbennig bod lleisiau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth wraidd y Comisiwn a byddaf yn sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i wireddu hyn.

 

Rwyf wedi cytuno y bydd y Comisiwn yn cael bwrw ymlaen â'i waith heb ymyrraeth gan Lywodraeth y Cynulliad ac rwyf wedi rhoi trefniadau ar waith i ddiogelu annibyniaeth y Comisiwn.

 

Mae'r Comisiwn yn gyfle i bob un ohonom gyfrannu at lywio cyfeiriad y gwasanaethau hollbwysig hyn. Rwy'n gwybod ein bod yn rhoi pwys mawr ar wasanaethau cymdeithasol a hoffwn annog pawb ar draws y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y cyfle i rannu'ch safbwyntiau a helpu i lunio dyfodol gwasanaethau cymdeithasol.

 

Bydd y Comisiwn yn dechrau gweithio ym mis Rhagfyr a byddwn yn gofyn iddo adrodd i mi erbyn mis Tachwedd flwyddyn nesaf.