Skip to content

Ysgrifenedig - Adroddiad Blynyddol ar roi'r Papur Gorchymyn Personél y Fyddin ar waith

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru

Heddiw cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yr adroddiad blynyddol cyntaf ar roi'r mesurau ar waith a amlinellwyd ym Mhapur Gorchymyn y llynedd, “The Nation’s Commitment: Cross-Government Support to our Armed Forces, their Families and Veterans” (Cm 7424). Mae llawer o'r ymrwymiadau ynghylch y fyddin wedi'u datganoli i Gymru ac esboniais ar y pryd y byddem yn chwarae rhan lawn o ran datblygu'r rhain lle bo'n briodol. Paratowyd yr adroddiad gan Grŵp Cyfeirio Allanol, gyda chynrychiolaeth ynddo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rwy'n falch iawn ei fod yn dangos ein cynnydd rhagorol.    

 

Mae gan Gymru draddodiadol milwrol hir a balch, a mae ganddi gysylltiad agos â sawl catrawd, gan gynnwys:

  • Gwarchodlu 1af Dragwn y Frenhines (Y Cafalri Cymreig);
  • Y Gwarchodlu Cymreig;
  • Y Catrawd Brenhinol Cymreig.

 

Mae llawer o filwyr wedi cael eu recriwtio o Gymru ar hyd y blynyddoedd ac mae'n gwlad yn gartref i gymunedau milwrol sylweddol. Mae bron 3,000 o filwyr cyffredin wedi'u lleoli yng Nghymru, gyda'r rhan fwyaf ohonynt ym Mhencadlys Brigâd 160, Aberhonddu; Barics Cawdor, Sir Benfro; RAF y Fali, Ynys Môn; neu Sain Tathan ym Mro Morgannwg, lle mae personél yr RAF, y Fyddin a'r Môr-filwyr Brenhinol wedi'u lleoli ar hyn o bryd, ac a fydd yn dod yn fwy pwysig wrth i Goleg Technegol Amddiffyn y Tri Gwasanaeth gael ei sefydlu.

 

Gan nad yw'r union ffigurau ar gael, gellid amcangyfrif bod gwŷr a gwragedd, partneriaid a phlant dynion a menywod y Fyddin yn ychwanegu o leiaf 5,000 i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

 

Hefyd mae mwy na 2,000 o bobl yn gysylltiedig â'r lluoedd wrth gefn ledled Cymru. Maent yn byw ac yn gweithio yn y gymuned leol, gan ledaenu'r sgiliau a'r gwerthoedd a geir o'u profiad milwrol. Yn aml bydd aelodau'r unedau hyn yn gorfod gwasanaethu ochr yn ochr â'r lluoedd cyffredin, weithiau mewn brwydrau. 

 

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gadael y Lluoedd yn ddigon ifanc o hyd i gael ail yrfa. Bydd y rhan fwyaf yn datblygu sgiliau da o'u profiad milwrol, ynghyd ag ysbryd cyd-dynnu ac etheg gwaith cryf, sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Efallai eu bod mewn safle da i gynnig gwasanaeth gwirfoddol yn y cymunedau lle maent yn byw. Ond yn aml bydd atgofion eu cyfnod yn y Fyddin, ac weithiau'r creithiau, yn dal i effeithio ar eu bywydau. Ac mae rhai cyn-aelodau angen cymorth ychwanegol i addasu i fywyd sifil.

 

Dylem fod yn ddiolchgar i'r holl bobl hyn. Rydym yn ymwybodol iawn o'r peryglon y mae dynion a menywod y Fyddin wedi bod yn eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf wrth frwydro a chadw'r heddwch, er enghraifft yn Afghanistan, Irac, y Balcanau a Gogledd Iwerddon. Hefyd rhaid ystyried cyn-filwyr rhyfeloedd cynt, gan gynnwys y Falklands, Korea a'r Ail Ryfel Byd. Yn anffodus, mae'r rhyfeloedd hyn ac eraill wedi cymryd rhai o bobl ifanc orau Cymru. Ond mae'n bwysig ein bod yn cydnabod aberth holl aelodau'r Lluoedd Arfog, o'r presennol a'r gorffennol, yn ogystal â'u teuluoedd.

 

Mae'r gofynion ar ddynion a menywod y Fyddin yn wahanol i'r gofynion ar eraill sy'n gwasanaethu ac yn diogelu cymdeithas. Mae'n rhaid iddynt ddilyn gorchmynion heb eu cwestiynu, ac yn aml cânt hwy a'u teuluoedd eu gwahanu am amser hir, gan wynebu pergyl sylweddol. Mae'r ffaith bod angen symud o orsaf i orsaf, weithiau ar fyr rybudd, yn tarfu ar fywyd teuluol. Gall y gorsafoedd hyn fod yn weddoll ddiarffordd, sy'n golygu'i bod yn anodd i bartneriaid â phlant gymysgu â chymdeithas sifil.

 

Fodd bynnag, mae gan bersonél y Fyddin yr hawl i ddisgwyl bywyd teuluol sydd mor normal â phosibl yn unol â'u cyfrifoldebau milwrol. Dyna yw byrdwn y Papur Gorchymyn. Nid oedd modd cyflawni pob un o'i ymrwymiadau ar unwaith. Yn wir, pennwyd targed pum mlynedd i gynnal adolygiad llawn o'r cynnydd. Yn unol â hyn, rwyf o'r farn bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel y gwelir yn yr adroddiad blynyddol cyntaf hwn, wedi gwneud cynnydd rhagorol. Hoffwn amlinellu rhai enghreifftiau.

 

Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol bod gan gyn-aelodau'r Lluoedd Arfod anghenion penodol o ran iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn cael sylw llawn. Rydym yn cymryd rhan mewn rhaglen o gynlluniau peilot ledled y DU i asesu'r anghenion hyn. Bydd ein cynllun peilot yng Nghaerdydd yn cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol gwell i gyn-filwyr ledled Prydain Fawr.

 

Rydym hefyd wedi cymryd camau i sicrhau pontio llyfn rhwng y Gwasanaeth Meddygol Amddiffyn a'r GIG i bobl wedi'u hanafu wrth adael y Fyddin sydd angen breichiau neu goesau prosthetig yn sgil anafiadau yn eu cyfnod yn y Fyddin.

 

Mae'r ffaith bod personél y Fyddin yn gorfod symud o le i le yn golygu'u bod yn anoddach iddynt berchen tŷ nag yw i bobl mewn bywyd sifil. Er mwyn gwella'u cyfleoedd i gael tŷ, rydym wedi rhoi statws blaenoriaeth i aelodau'r Lluoedd Arfog wrth iddynt wneud cais am gymorth o dan y cynllun Cymorth Prynu. Ac yn wahanol i brynwyr eraill, gallant wneud cais am ganiatâd i isosod eu cartref os cânt eu symud o'r ardal wedi iddynt brynu. Mae hyn yn golygu y gall personél y Fyddin a'u teuluoedd wneud cynlluniau hirdymor i ymgartrefu ymhell cyn iddynt adael y Fyddin.

 

Os bydd aelod o'r Fyddin yn dioddef anabledd difrifol o’i gyfnod yn y Fyddin, gall wneud cais am y Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG) i dalu am addasiadau i'w gartref. Fodd bynnag, rhoddir y DFG drwy brawf modd a byddai'n gwbl annheg pe bai taliad pensiwn neu iawndal oherwydd anafiadau yn cael ei gyfrif yn erbyn yr hawl am grant. Felly rydym wedi newid y gyfraith fel na chaiff eu taliadau pensiwn neu iawndal eu hystyried wrth fesur lefelau grant ar gyfer ceisiadau o'r fath.

 

Mae bywyd yn y Fyddin yn effeithio ar deuluoedd, yn ogystal â phersonél y Fyddin. Mae'n hollbwysig nad yw hyn yn effeithio ar addysg eu plant. Mae'r Cod statudol newydd ar Dderbyn i Ysgolion, a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau derbyn sicrhau y caiff anghenion plant teuluoedd y Lluoedd eu hystyried. Ni ddylid gwrthod lle iddynt yn yr ysgol am nad yw'r teulu yn byw yn yr ardal awdurdod lleol ar y pryd. Rhaid ystyried bod y teulu'n bodloni'r meini prawf preswyl perthnasol cyn belled â bod tystiolaeth y bydd yn symud yno'n fuan.

 

Nid ydym ychwaith wedi cyfyngu'n hunain i ymrwymiadau Papur Gorchymyn 2008. Ar 6 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol y bydd personél y Fyddin yn cael disgownt o 50 y cant ar y dreth gyngor ar eu hail gartrefi yng Nghymru. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sydd am brynu cartref ar gyfer y cyfnod wedi iddynt ymddeol o'r Fyddin.

 

Mae rhagor i'w wneud o hyd. Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn cymryd y camau sy'n weddill yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn y Papur Gorchymyn. Mae'r rhain yn cynnwys ymestyn teithio rhatach ar fysiau i bersonél a chyn-filwyr y Fyddin sy'n ddifrifol anabl, a sicrhau y gall aelodau teuluoedd y Lluoedd gadw'u lle ar restrau aros y GIG pan fydd angen iddynt symud gartref.

 

Gan edrych i'r dyfodol, mae'n bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth briodol i anghenion pob dinesydd. Felly byddwn yn datblygu trefniadau i ymgorffori fel mater o drefn egwyddorion o ran rhoi cefnogaeth gyson a pharhaus i gymuned y Lluoedd Arfog wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni.